Arestio dyn lleol arall wedi marwolaeth Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Cafodd y dyn 51 oed ei ddarganfod tu allan i eiddo yn Heron Way
Mae Heddlu Gwent wedi arestio dyn lleol arall wrth i ymchwiliad o lofruddiaeth barhau yn dilyn marwolaeth dyn yng Nghasnewydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Heron Way tua 16:40 ddydd Gwener wedi adroddiadau bod dyn "yn cael argyfwng meddygol tu allan i eiddo".
Fe gadarnhaodd parafeddygon y Gwasanaeth Ambiwlans bod y dyn 51 oed wedi marw.
Fe ddywedodd yr heddlu ddydd Mawrth bod dyn 27 oed, ynghyd â dyn 39 oed o'r ddinas, yn y ddalfa ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Mae swyddogion heddlu arbenigol yn rhoi cefnogaeth i deulu'r dyn fu farw.
'Dim angen dychryn'
"Bydd swyddogion yn gwneud rhagor o ymholiadau ac yn parhau ar leoliad yr achos wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo," dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Nicholas Wilkie.
"Mae'n bosib y gwelwch chi'r heddlu'n mynd a dod yng Nghasnewydd fel rhan o'r gwaith yma ond does dim angen i unrhyw un gael ofn.
"Os oes gyda chi bryderon neu wybodaeth, stopiwch a siaradwch â ni."