Tri o Gasnewydd yn euog o gaethwasiaeth fodern
- Cyhoeddwyd
Mae tri pherson wedi eu cael yn euog o gamfanteisio ar ddyn bregus trwy ei orfodi i weithio gan gymryd ei gyflog a'i basbort.
Fe dynnwyd cerdyn banc Rolands Kazoks, 31, oddi wrtho hefyd a chafodd ei atal rhag defnyddio cawod a chael dillad glân.
Mae'r ddau ddyn a menyw o Gasnewydd - Normunds Freibergs, 40, Jokubas Stankevicius, 59, a Ruta Stankeviciene, 57 - wedi eu cael yn euog o orfodi person i gyflawni llafur gorfodol.
Fe gafwyd Freibergs yn euog hefyd o drefnu neu hwyluso taith person arall gyda golwg ar gamfanteisio.
Ond cafwyd Freibergs yn ddieuog o weithredu fel gangfeistr heb drwydded.
Mae'r tri wedi cael gorchymyn i aros o fewn Llys y Goron Casnewydd tan bod materion yn ymwneud â'u pasbortau a'u cardiau adnabod wedi'u datrys.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd y bu Mr Kazoks, yn wreiddiol o Latfia, yn byw yn yr Almaen ond roedd eisiau adeiladu bywyd newydd yn y DU.
Fe chwiliodd am swyddi ar y we, ble gafodd ei gyflwyno i Mr Friebergs. Roedd llun proffil Mr Friebergs yn ei ddangos yn eistedd wrth ddesg mewn swyddfa a logo cwmni 'Thomas Recruitment' tu ôl iddo.
Bwriad y lluniau ar ei gyfrif oedd rhoi'r argraff ei fod yn gweithio i'r cwmni recriwtio, yn ôl yr erlyniad, ond doedd hynny ddim yn wir.
Ar ôl i Mr Kazoks ddarganfod y byddai'n gallu gweithio mewn becws am £8.20 yr awr gan ond talu £85 yr wythnos ar gyfer costau byw, fe deithiodd i Gymru.
Fe gynilodd £1,000 yn yr Almaen a defnyddiodd yr arian i dalu rhwng €600 (£502) a €800 i Mr Freibergs fel blaendal ar gyfer llety.
Ond fe glywodd y llys, ar ôl iddo gyrraedd, y daeth Mr Kazoks i wybod y byddai'n byw mewn ystafell fach yn nhŷ Ms Stankeviciene a Mr Stankevicius yng Nghasnewydd.
Codi costau o achos Brexit
Er iddo gael swyddi mewn gwahanol ffatrïoedd, clywodd y llys fod ei ddyled i'r tri diffynnydd wedi cynyddu wrth iddyn nhw godi tâl arno mewn camgymeriad am bethau fel £50 am rif Yswiriant Gwladol, a £300 am sicrhau swydd mewn ffatri ieir.
Tra'n ddi-waith, cynyddodd dyled Mr Kazoks wrth i log gael ei ychwanegu.
Fe glywodd y llys i'r tri gynyddu ei gostau byw i £95 er mwyn talu am gysylltiad i'r we ac yna i £150 oherwydd Brexit.
Dywedwyd bod Mr Stankevicius yn cadw siart o ddyled honedig Mr Kazoks ar yr oergell, a oedd yn rhedeg i filoedd o bunnoedd.
Bydd y tri yn cael eu dedfrydu yn yr wythnosau nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022