'Hanner meddygon yn fwy tebygol o adael dros gynnig tâl'
- Cyhoeddwyd
Mae hanner meddygon Cymru yn dweud eu bod yn fwy tebygol o adael y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i godiad cyflog sy'n is na chwyddiant, yn ôl arolwg.
4.5% yw'r codiad cyflog sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i feddygon, ymgynghorwyr a meddygon teulu.
Bydd gweithwyr eraill y GIG, gan gynnwys nyrsys, glanhawyr a phorthorion, yn derbyn £1,400 yn ychwanegol, gyda'r llywodraeth yn dweud "bod yna ben terfyn anochel pa mor bell allwn ni fynd yng Nghymru".
Ond yn ôl y BMA - y corff sy'n cynrychioli doctoriaid - mae 52% o'r rheiny a ymatebodd i holiadur diweddar yn dweud eu bod nawr yn fwy tebygol o adael, gyda llawer yn "methu â chyfiawnhau aros yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi derbyn argymhellion cyrff adolygu cyflogau'r GIG.
'Blin a siomedig'
O'r 1,397 o aelodau a ymatebodd i'r holiadur, dywedodd 36% eu bod yn "flin" a 53% eu bod yn "siomedig" gyda chynnig y llywodraeth.
A gyda nifer llethol o ymatebwyr yn dweud eu bod wedi blino'n lân, dywedodd 79% o ymatebwyr fod y dyfarniad cyflog wedi gostwng morâl ymhellach.
Fe wnaeth cyfradd y meddygon wnaeth ymateb i'r holiadur dreblu eleni, gyda'r BMA yn dweud bod hynny'n dangos pa mor gryf yw'r teimladau ymysg staff.
Yn ôl Dr Phil White, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu y BMA yng Nghymru, mae chwyddiant uchel yn cael effaith fawr ar feddygon teulu, ond dywed mai'r hyn y mae meddygon yn cwyno amdano fwyaf yw pwysau gwaith wrth i "lefel gwaith meddyg teulu fod yn uwch nag erioed o'r blaen".
"Mae rhywun sy'n gweithio llawn amser yn gweithio dros 60 awr yr wythnos - a meddyg rhan amser yn gweithio 40 awr. Mae'r pwysau gwaith yn aruthrol.
"Mae chwyddiant nawr dros 10% - 'dan ni'n gorfod talu biliau i gadw a chynnal ein meddygfeydd. Mae cynnydd yn mynd i fod yn y stamp insiwrans - ma' hwn i gyd yn dod ar y meddyg teulu ond yr hyn y mae meddygon yn cwyno fwyaf amdano yw y gwaith," meddai.
Dywedodd Dr Peter Saul, meddyg teulu yn Wrecsam fod morâl ymhlith meddygon yn is nag erioed.
"Mae'n gyfuniad o flinder y ddwy flynedd ddiwethaf yn sgil Covid, delio gyda gwasanaeth iechyd na sy'n gweithio i gleifion ac mae'r tâl yn fater arall", meddai ar Radio Wales.
"Mae'r cyfan yn gostwng morâl ac ry'ch yn teimlo nad ydych yn cael eich gwerthfawrogi.
"Mae'r cyfan yn cael effaith fawr ar gleifion yn barod gan nad ydym yn medru cael y nifer iawn o staff.
"Mae nifer o feddygfeydd yn methu cael meddygon i weithio iddyn nhw - does dim digon yn dod i Gymru. 'Da chi methu cael apwyntiad i weld meddyg."
Wrth drafod streicio dywedodd bod hynny'n "bosib".
"Mae'n bosib y bydd streic undydd lle 'da chi ond yn delio gydag achosion brys yn unig."
Yn ôl Dr Iona Collins, Cadeirydd Cyngor Cymreig y BMA, mae canfyddiadau'r arolwg yn cyd-fynd â'r hyn y mae'n ei glywed gan gydweithwyr ledled Cymru.
"Mae meddygon yn gweithio yn y GIG oherwydd eu bod yn credu yn y GIG. Fodd bynnag, mae amodau gwaith a thâl yn parhau i herio eu penderfyniad i aros yn gyflogedig gan y GIG.
"Mae tâl meddygon ar ôl treth wedi gostwng dros nifer o flynyddoedd, gan wneud y GIG yn gyflogwr cynyddol anneniadol."
Ychwanegodd: "I wneud pethau'n waeth, mae meddygon yn derbyn biliau treth pensiwn cymhleth, gan arwain at rai meddygon yn gweithio am ddim i bob pwrpas, ac eraill yn darganfod eu bod wedi colli arian drwy fynd i'r gwaith yn y lle cyntaf.
"Mae hyn yn golygu na all meddygon gynyddu eu horiau gwaith arferol gan olygu nad oes unrhyw obaith o wneud cynnydd sylweddol i leihau rhestrau aros."
Dywedodd: "Rydym yn darllen gymaint o adroddiadau gwahanol yn amlygu'r un ddwy broblem o ddim digon o staff a dim digon o adnoddau.
"Mae angen i GIG Cymru edrych yn fanwl ar sut y mae'n gwerthfawrogi ei weithlu meddygol ar hyn o bryd ac ailystyried y codiad cyflog arfaethedig yn unol â hynny."
'Cydnabod gwaith caled y staff y GIG'
Bydd staff ar y cyflogau isaf yn y GIG yn gweld cynnydd o 10.8% - y cynnig mwyaf hael unrhyw le yn y DU, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae'r ffigwr yma hefyd yn cynnwys y cynnydd yn y Cyflog Byw a gyhoeddwyd ym mis Ebrill.
Wrth gyhoeddi'r cynnig fis Gorffennaf dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod yn gobeithio bod y cynnig "yn mynd peth ffordd" at gydnabod "gwaith caled" staff y GIG.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod pwysau yn cael ei roi ar Lywodraeth y DU yn San Steffan i ryddhau cyllid ychwanegol.
"Rydym wedi derbyn argymhellion cyrff adolygu cyflogau'r GIG," meddai'r llefarydd.
"Wrth gyhoeddi ein dyfarniad cyflog ar gyfer gweithlu'r GIG yng Nghymru, gwnaethom yn glir, heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, fod cyfyngiadau ar ba mor bell y gallwn fynd i'r afael â'r pryderon hyn yng Nghymru.
"Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol sydd ei angen ar gyfer codiadau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus.
"Rydym yn cydnabod gwaith caled y rhai sy'n gweithio yn y GIG, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ers mis Mawrth 2021."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022