Eryri: Achub dringwr anymwybodol o fynydd
- Cyhoeddwyd
Fe lansiwyd ymgyrch achub wedi i ddringwr gael ei daro'n anymwybodol ar ôl syrthio lawr wyneb craig yn Eryri.
Dioddefodd y dyn, a oedd yn ei 20au, doriadau a chlwyf pen difrifol ar ôl disgyn ar Graig yr Aderyn brynhawn Sadwrn.
Syrthiodd y dyn heibio i'w bartner dringo, ond llwyddodd hi i'w atal rhag syrthio ymhellach drwy ddal y rhaff.
Bu i aelodau o ddau dîm achub mynydd a hofrennydd helpu'r dyn cyn iddo gael ei hedfan i'r ysbyty.
Fe alwyd Tîm Chwilio ac Achub Aberdyfi am hanner dydd ddydd Sadwrn, ond ni fu i rai aelodau o'r tîm adael y fan tan bron i saith awr yn ddiweddarach.
Cafodd y dyn, a oedd yn gwaedu'n drwm, ei daro'n anymwybodol am gyfnod, cyn iddo ef a'i bartner ymdrechu i'w gael yn ôl i'r silff yr oedd wedi disgyn ohoni.
Llwyddodd y ddynes i hysbysu'r asiantaethau ond methodd y cyfathrebiad cyn i'r gweithredwr allu casglu yr holl fanylion am eu sefyllfa anodd.
Ond fe glywyd y gweiddi gan gyn-aelod o dim achub mynydd, a oedd yn gwersylla gerllaw, a llwyddodd i gysylltu a'r heddlu.
Wnaeth hofrennydd rasio i Graig yr Aderyn - sy'n 846 troedfedd (258m) - ond roedd ofn y gallai'r dringwyr gael eu chwythu o'r fan.
Yn hytrach, defnyddwyd winsh a system rigio i godi'r ddau o'r silff.
Ond oherwydd na allai'r achubwyr weld y silff bu'n rhaid iddynt gael eu cyfeirio gan gydweithwyr wrth droed y clogwyn.
Unwaith iddyn nhw gael eu codi fe aeth yr hofrennydd â'r dyn i'r ysbyty.
Dywedodd achubwyr Aberdyfi, a dderbyniodd gymorth gan dîm De Eryri, fod pawb i ffwrdd o'r mynydd erbyn 18:40.