Ffilmiau 'Dolig: Cofio rhain?

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Nadolig a ffilmiau yn mynd efo'i gilydd fel caws a cracers, port a lemon a twrci a stwffin ac mae 'na sawl cracar o ffilm Ddolig wedi bod dros y blynyddoedd.

Wrth i S4C gyhoeddi eu bod yn agor eu harchif, ydych chi'n cofio'r rhai Cymraeg yma?

Mae'r ddwy gynta' i'w gweld ar Clic dros Nadolig 2018.

Y Dyn Nath Ddwyn y 'Dolig - 1985

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dau o sêr gwych y ffilm - Siwan Bowen Davies ac Emyr Wyn

Mae'r ffilm yma am ymgais y dyn drwg Mordecai i ddifetha'r Nadolig wedi gwneud argraff ar sawl cenhedlaeth ers iddi ymddangos gyntaf yn 1985.

Os ydych chi eisiau cydganu "Dewch lawr i'r Samporium" a chaneuon eraill eto, mae 'na glipiau ar You Tube, dolen allanol.

Neu gwyliwch hi ar 'bocs set' Clic, S4C, dolen allanol.

Rhestr Nadolig Wil - 2008

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Rhestr Nadolig Wil

Ffilm gerddorol sy'n dilyn hynt a helynt Wil (Aron Cynan), bachgen wyth mlwydd oed, a'i dad-cu (Dewi Pws) wrth iddyn nhw geisio achub y Nadolig gyda'r dyn ei hun, Siôn Corn (Iwan John).

Mae hon yn un arall o'r ffilmiau sydd ar gael i'w gwylio ar S4C Clic dros yr Ŵyl, dolen allanol.

Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs - 2016

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Albi a Noa

Ffilm gerdd gan Caryl Parry Jones a Non Parry am fachgen bach saith oed o'r enw Noa sydd â rhieni prysur ond sydd wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu yn ystod un gaeaf hudol

Jabas Jones - 1990

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffilm Jabas Jones yn dechrau efo naid allan o awyren

Roedd Jabas yn un o gyfresi cynnar mwyaf poblogaidd S4C yn seileidig ar nofel gan Penri Jones am helynt Jabas Jones a'i ffrindiau ym Mhen Llŷn.

Ond roedd 'na ffilm Ddolig hefyd - mae'r teitlau agoriadol yn dangos Owain Gwilym (Jabas) yn neidio allan o awyren, dolen allanol.

Midffild: Y Mwfi - 1992

Ffynhonnell y llun, S4c

Roedd y gyfres gomedi C'mon Midffîld mor boblogaidd nes y cafodd nid un ond dwy ffilm ei gwneud ar gyfer cyfnod y Nadolig gan ddechrau gyda Midffild: Y Mwfi oedd yn dilyn helyntion Clwb Pêl-droed Bryncoch United wrth i'r Nadolig agosáu. Pam mae Arthur Picton yn sefyll yn noeth y tu allan i'w dŷ a pham ei fod yn wynebu Nadolig ar ei ben ei hun?

Cafodd ei dangos eto ar ddiwrnod Nadolig 2017.

C'mon Midffild a Rasbrijam - 2004

Ar ôl 10 mlynedd oddi ar y sgrîn daeth criw C'mon Midffild yn ôl gyda'r ffilm C'mon Midffild a Rasbrijam ar ddydd Nadolig 2004. Gydag efeilliaid George a Sandra yn eu harddegau a pherthynas George gyda Mr Picton yn simsan mae'r rhaglen arbennig yn dilyn hynt a helynt y criw i Azerbaijan.

Deryn Dolig - 1989

Ffynhonnell y llun, S4c

Ar ôl cyfres deledu lwyddiannus gyda John Ogwen yn y brif ran fel Robin, sy'n dipyn o aderyn brith, fe gafwyd rhaglen Ddolig arbennig yn 1989. Ar ôl gadael llanast ar ei ôl cyn dianc i Iwerddon, mae'r 'deryn' yn ôl ac yn gobeithio bod pethau gwell i ddod.

Tân ar y Comin - 1994

Disgrifiad o’r llun,

Edward Woodward a Gweirydd Gwyndaf yn ffilm Ddolig S4C yn 1995

Bydd y to hŷn yn cofio'r actor Edward Woodward yn siarad Cymraeg yn y ffilm hon oedd wedi ei seilio ar nofel enwog T Llew Jones. Mae'n dweud hanes y sipsi ifanc Tim Boswel (Gweirydd Gwyndaf) sy'n darganfod cyfrinach am ei wreiddiau teuluol.

Cynhyrchwyd fersiwn Saesneg gefn-wrth-gefn dan y teitl A Christmas Reunion a ryddhawyd ar fideo yn yr Unol Daleithiau yn 1994.

Martha, Jac a Sianco - 2008

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y chwaer a'r ddau frawd yn Martha, Jac a Sianco

Doedd hon ddim y dewis mwyaf hwyliog ar gyfer cyfnod y Nadolig ond cafodd y ffilm hon am ddirywiad fferm deuluol sydd yng ngofal dau frawd a chwaer wedi marwolaeth eu mam ei darlledu ar S4C ar ddydd Nadolig 2009.

Mae hi'n seiliedig ar nofel Caryl Lewis o'r un enw.

Eira Cynta'r Gaeaf - 1992

Ffilm a ddarlledwyd gyntaf ar 25 Rhagfyr 1992 ac oedd yn gyd-gynhyrchiad o The Winter Stallion / The Christmas Stallion, dolen allanol yn Saesneg.

Wedi ei hysgrifennu gan Paul Matthews a T James Jones a'i chyfarwyddo gan Peter Edwards (gyda'i dad Meredith Edwards yn actio ynddi) mae'n dweud hanes Alan Davies sy'n cyrraedd nôl o'r Unol Daleithau ar ôl marwolaeth ei dad i wneud penderfyniad ynglŷn â beth i wneud â'r fferm.

Ffilmiau Cyw

Ffynhonnell y llun, S4C

Mae rhai o ffilmiau byr Cyw wedi cadw plant yn ddiddan dros yr Ŵyl hefyd ac yn cael eu dangos ar S4C dros Ddolig a Blwyddyn Newydd 2018/2019 hefyd, sef Dona Direidi - Be wnei di? (2012), Y Raplyfr Coll (2011) a Ble mae Cyw? (2009).

Ac yn ôl i 2018 ...

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Frank (Gethin Day) yn gwneud ffrindiau gyda thwrci yn y ffilm Pluen Eira, ond mae'n Ddolig...

Ffilm 'Dolig 2018 ydy Pluen Eira sy'n cael ei darlledu am 18.30 ar noson Nadolig 25 Rhagfyr.

Ffilm am Frank (Gethin Day), bachgen 11 mlwydd oed sydd wedi cael ei fabwysiadu ac sy'n cael trafferth setlo gyda'i rieni newydd, Clive (Matthew Gravelle) a Rhi (Kate Jarman) nes iddo wneud ffrindiau efo twrci. Mae'r ffilm yn dilyn hynt y ddau wrth i Frank geisio achub ei ffrind bach pluog rhag pâr o ddwylo blewog cyn y 'Dolig.

Hefyd ymysg y ffilmiau sydd ar gael i'w gwylio ar Clic dros y Nadolig mae ffilm Tair Chwaer - Cymer Dy Siâr, 1999, dolen allanol (hefyd ar S4C am 22:30 ar noson San Steffan); Porc Pei, dolen allanol, a'r ffilm Hedd Wyn, dolen allanol.

Efallai o ddiddordeb: