'Angen trin pob claf syndrom ofari polysystig'

  • Cyhoeddwyd
Nia Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Nia Jenkins bod ei symptomau'n "gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn"

Mae'r driniaeth a'r cyngor sydd ar gael i ferched sy'n byw gyda'r cyflwr PCOS neu Syndrom Polycystic Ovary yn "annigonol", yn ôl elusen.

Daw'r sylwadau ar ôl i un fenyw sy'n byw gyda'r cyflwr ddweud wrth raglen Newyddion S4C nad oes cymorth ar gael i ferched sy'n dymuno cael triniaeth am resymau tu hwnt i gymorth beichiogi.

Er iddi gael diagnosis pan yn 15, mae Nia Jenkins o Aberystwyth yn parhau i chwilio am ffyrdd o drin y symptomau y mae'n rhaid iddi ddygymod â nhw bob dydd.

"Dwi'n dechre teimlo'n isel amdano fe," meddai. "Fi'n gweld bod symptomau fi'n gwaethygu o flwyddyn i flwyddyn.

"Ma' pwyse fi'n codi, dwi'n colli gwallt, ma'r mood swings yn uffernol. Pan dwi ar period fi dwi'n cal trafferth gad'el y tŷ gan bod e mor wael."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr apêl yw am well driniaeth i bob claf PCOS, boed yn ceisio beichiogi ai peidio

Mae PCOS yn cael ei achosi gan anghydbwysedd yn lefelau hormonau merched, ac os caiff ei adael heb ei drin gall arwain at gymhlethdodau hirdymor gan gynnwys problemau ffrwythlondeb.

Erbyn hyn yn fam i dri o blant, mae Nia yn teimlo nad oes digon o gyngor ar gael i'r rheini sydd angen cymorth am resymau ar wahân i rai sy'n ymwneud ag atgenhedlu.

"S'dim byd yn cal ei gynnig rhagor gan bo fi'm yn trio am blant a menopos rownd y gornel." meddai.

"S'dim cymorth i ga'l ar hyn o'r bryd heblaw am mynd nôl ar y pill sy'n teimlo'n od nawr. I fi, sa i'n credu bod hwnne yn driniaeth sydd yn gallu bod yn hirdymor am gyflwr sy' 'da fi am weddill fy oes."

Disgrifiad o’r llun,

Julie Richards yw llefarydd yr elusen Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW)

Ma cyflwr PCOS yn effeithio ar un o bob 10 o ferched ar draws y Deyrnas Unedig.

Dywedodd llefarydd ar ran elusen Fair Treatment for the Women of Wales (FTWW) , Julie Richards, bod y driniaeth a'r cyngor sydd ar gael i ferched sy'n byw gyda cyflwr PCOS yn "annigonol".

Maen nhw yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi fwy o sylw i gyflyrau iechyd merched fel PCOS i adnabod symptomau yn fwy prydlon er mwyn atal camddiagnosis.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi sefydlu Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod sy'n parhau i gefnogi ystod o faterion iechyd merched, gan gynnwys iechyd y mislif a PCOS.

Mi fydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru hefyd yn cyhoeddi cynllun iechyd deg mlynedd yn yr Hydref er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd da i ferched.

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae Nia Jenkins yn troi at blatfformau fel TikTok am wybodaeth i geisio lleddfu ei symptomau

A hithau'n chwilio am atebion, mae Nia wedi troi at blatfformau cyfryngau cymdeithasol fel TikTok am gymorth ar sut i leddfu'r symptomau sy'n dod gyda PCOS.

Yn ôl FTWW, mae hyn yn bryder gan nad ydi'r cyngor hwn bob amser yn gyngor arbenigol.

Ychwanegodd Julie Richards: "Er bod lot o bobl yn ceisio codi ymwybyddiaeth ac yn siarad am broblemau yn agored [ar blatfformau fel TikTok] mae'n bwysig bod chi'n cael cyngor iechyd proffesiynol."

Y gobaith i Nia a nifer o ferched eraill yw y bydd pethau'n dod y gliriach yn y dyfodol am sut i drin cyflyrau gydol oes fel PCOS.

Pynciau cysylltiedig