Pam ein bod yn cael llai o fabanod, ac a oes ots?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Katie Baskerville, 30, bod "llwyth o ffactorau" ynghlwm â'r penderfyniad

Gall cyfradd genedigaethau isel Cymru achosi "canlyniadau sylweddol" i wasanaethau cyhoeddus, yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae nifer y genedigaethau yng Nghymru ar ei isaf ers 100 mlynedd ac mae'r gyfradd yma yn is na chyfartaledd Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mynd i'r afael â "her ddemograffig" Cymru yn "flaenoriaeth fawr".

"Yn ôl y tueddiadau presennol, mae risg y gallai'r oedolion o oedran gweithio fod yn ddim ond 58% o'r boblogaeth erbyn 2043," meddai llefarydd.

"Mewn ymateb, rydym wedi gosod gweledigaeth glir ynglŷn â'r hyn sy'n gwneud Cymru yn lle deniadol i fyw, astudio, gweithio a buddsoddi ynddo, gan gynnwys ansawdd bywyd mewn cenedl gynhwysol, agored a gwyrdd."

'Pwysau emosiynol'

Mae menywod sy'n cael llai o blant a'u cael yn ddiweddarach mewn bywyd yn rhan o duedd hirdymor ar draws y byd gorllewinol ac mae'n ffenomen gadarnhaol mewn sawl ffordd: o ganlyniad i fenywod yn cael mwy o rôl yn y gweithle a mwy o reolaeth dros eu ffrwythlondeb.

Ond gall y rhesymau fod yn negyddol hefyd, gyda phryderon am y gost o gael plant ar adeg o ansicrwydd economaidd fel y pandemig.

Gall y "mudiad di-blant," a ysgogir yn aml gan bryderon am newid yn yr hinsawdd, hefyd fod yn gynyddol arwyddocaol.

Felly beth mae pobl yn ei feddwl wrth benderfynu a ydyn nhw am gael plant?

Mae Katie Baskerville, 30 o Ddeiniolen yng Ngwynedd, yn awdur llawrydd sydd bellach yn byw ym Mryste.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie Baskerville a'i phartner Pete yn cwestiynu pa mor ddiogel yw hi i ddod â phlentyn i'r byd

Mae hi a'i phartner Pete yn ystyried a ddylen nhw ddechrau teulu.

Mae gan Katie syndrom ofari polysystig a all achosi problemau ffrwythlondeb, ac mae'n dod â risg uwch o gymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd.

Yn ogystal â'r "pwysau emosiynol" y gallai ceisio beichiogi olygu, mae Katie a Pete hefyd yn pwyso a mesur ffactorau eraill.

"Does gennym ni ddim pren mesur i weld 'iawn oce, 'naeth rhieni fi wneud hyn felly 'da ni yn gallu gwneud hyn hefyd'," meddai Katie.

"'Da ni ar ben ein hunain mewn sefyllfa sydd erioed wedi digwydd o'r blaen hefo'r pandemig byd-eang, efo Covid-19, efo'r economi a chostau byw.

"Yr argyfwng hinsawdd hefyd. A yw'n ddiogel dod â phlentyn i'r byd?

"Yn fiolegol a yw'n ddiogel? A yw'r amgylchedd yn ddiogel? A fydd ganddyn nhw ansawdd bywyd da? A allwn ni ei fforddio?

"Felly rhaid meddwl sut allwn ni wneud bywydau ein plant yn y dyfodol yr hapusaf ac iachaf posib ac os na allwn ni wneud hynny efallai na ddylem."

Y gost yn ffactor

Cafodd Shannon Lloyd, 24, a'i phartner Morgan Weaver, 35 o Bont-y-pŵl, eu plentyn cyntaf Romilly bum mis yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai gan Shannon Lloyd gymaint o blant ag a allai pe bai arian allan o'r cwestiwn

Dywed Shannon y byddai ganddi "gynifer o blant ag y gallwn" pe na bai arian yn ystyriaeth, ond nid dyna'r realiti.

"Yn bendant un arall, ond tri, allwn ni ddim ei wneud, yn bendant ddim," meddai Shannon, gan nodi'r angen am dŷ mwy, car mwy a mwy o ofal plant.

"Rwy'n gweithio'n llawn amser, mae fy mhartner yn gweithio'n llawn amser - mae'n gweithio iddo'i hun.

"Dydyn ni ddim yn cael unrhyw help gyda gofal plant tan fod Romilly yn dair oed, felly wrth gynllunio ein plentyn nesaf bydd yn rhaid iddo fod pan fydd hi'n dair."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Shannon a Morgan yn gweithio'n llawn amser

Mae'r oedran cyfartalog y mae merched yn cael plant wedi codi'n gyson ers canol y 1970au a'r mis diwethaf datgelwyd bod dros hanner merched Cymru a Lloegr yn cyrraedd 30 oed yn ddi-blant.

'Gyrfa yn gyntaf'

Cafodd Naomi Burge a John King o Gaerllion eu plentyn cyntaf Aoife, yn 2020 pan oedd Naomi yn 35 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Naomi yn un o'r nifer o famau a arhosodd tan ei 30au i gael babi

Roedd Naomi wedi penderfynu datblygu ei busnes trin cŵn cyn dechrau teulu.

"Fy ngyrfa oedd gyntaf," meddai.

"Penderfynais fynd yn hunangyflogedig pan oeddwn yn 30 oed, felly roeddwn i eisiau sefydlu fy musnes fel bod gennyf fusnes i fynd yn ôl ato pan oedd hi [Aoife] yma.

"Felly roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr fy mod yn gyfforddus cyn y byddwn yn meddwl am gael babi, gan wybod y gallwn ei chynnal yn ariannol â beth bynnag y mae hi eisiau a'i angen."

'Breuddwyd allan o gyrraedd'

Mae Joe Stockley, 26, yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio i elusen ond mae'n dweud, er ei fod yn ennill cyflog "tua'r cyfartaledd" ei fod "yn gorfod dod i delerau" gyda'r ffaith ei bod yn debygol na fydd yn gallu cael plant yn y 10 mlynedd nesaf.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Joe Stockley ei fod yn cael trafferth cynilo digon i fforddio'r freuddwyd o gael teulu a phrynu tŷ

"Gwerthwyd breuddwyd i ni o fynd i'r brifysgol, rhentu ac yna dechrau cynilo a cheisio dringo ar y farchnad dai," meddai.

"Mae'r freuddwyd honno o brynu tŷ, cael teulu - mae allan o gyrraedd. Ni allwch arbed digon.

"Oni bai eich bod wedi cael rhywfaint o etifeddiaeth ni allwch byth ei fforddio. Rwy'n cynilo £30 y mis os ydw i'n lwcus."

'Newid sylfaenol'

Mewn dadansoddiad ar gyfer BBC Cymru, mae'r Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton yn dweud ein bod yn gweld "newid sylfaenol i siâp y boblogaeth" yma, gyda'r gyfradd genedigaethau yn gostwng tra bod y boblogaeth oedrannus yn cynyddu.

Dywed Mr Crompton y gallai'r canlyniadau gynnwys:

  • Gostyngiad yn niferoedd disgyblion, sy'n gwneud rhai ysgolion yn anhyfyw;

  • Galw cynyddol ar y GIG a gwasanaethau gofal gan yr henoed yn dod ar adeg pan nad yw'r boblogaeth oedran gweithio yn tyfu;

  • Cynnydd tebygol yng nghost fesul person unedau mamolaeth, gofal plant a gwasanaethau ieuenctid, sy'n golygu y gallai fod yn rhaid i deuluoedd deithio ymhellach i'w defnyddio.

Mae'r Athro Dr Sarah Harper o Brifysgol Rhydychen yn credu y bydd cyfraddau genedigaethau yn parhau i fod yn isel drwy gydol yr 21ain ganrif.

"Mae hynny'n dda ar un lefel. Mae'n dda i ferched, mae'n dda i gymunedau, mae'n dda i'n planed.

"Ond rwy'n meddwl i'r cyplau ifanc hynny sydd eisiau dechrau teulu, ei fod yn helpu os yw llywodraethau'n gallu cydymdeimlo â'u hanghenion ac mae hynny'n ymwneud â phethau fel gofal plant ac efallai ei gwneud yn fwy hyfyw yn economaidd i gael y plentyn cyntaf hwnnw drwy'r system fudd-daliadau, er enghraifft."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Canfu dadansoddiad Archwilio Cymru hefyd:

  • Mae cyfradd genedigaethau Cymru wedi gostwng bob blwyddyn ers 2010;

  • Yn 2020 roedd 19% yn llai o enedigaethau nag yn 2011;

  • Mae nifer cyfartalog y plant a anwyd i fenyw, a elwir yn gyfradd ffrwythlondeb gyfan (TFR), wedi cyrraedd y lefel isaf erioed - 1.47;

  • Mae hynny'n is na Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac yn is na chyfartaledd yr UE;

  • Mae 26.5% o boblogaeth Cymru yn 65 oed a throsodd, o'i gymharu â 18.5% yn 2011;

  • Mae'r cynnydd cyffredinol ym mhoblogaeth Cymru yn cael ei ysgogi gan fudo, ond dim ond 10% o'r rhai a symudodd yma oedd rhwng 10-15 oed, sy'n awgrymu nad oedd symudiad net sylweddol o deuluoedd â phlant i mewn i Gymru.

Mae cyfradd ffrwythlondeb gyfan Yr Alban hyd yn oed yn is na chyfradd Cymru, sef 1.29.

Y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Yr Alban ei "strategaeth boblogaeth genedlaethol" gyntaf wrth iddi geisio dadansoddi'r "rhwystrau" y gall pobl eu hwynebu wrth benderfynu a ydynt am ddechrau teulu.

Gallwch weld mwy am y stori hon ar Wales Live ar BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig