Llofruddiaeth Clydach: Teyrnged i ddynes, 71

  • Cyhoeddwyd
Wendy BuckneyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Wendy Buckney fore Mawrth

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dynes gafodd ei chanfod yn farw mewn tŷ yng Nghlydach, Abertawe fore Mawrth.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Wendy Buckney, 71, mewn tŷ ar Heol Tanycoed toc ar ôl 08:20.

Mae dyn, 55, yn y ddalfa wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Ms Buckney fore Mawrth

Wrth roi teyrnged ddydd Mercher, dywedodd teulu Ms Buckney: "Fel teulu, mae ein calonnau wedi'u torri gan bod ein chwaer, modryb a'n ffrind cariadus wedi ei chymryd oddi arnom gan amgylchiadau mor drasig.

"Mae ein teulu ni wedi torri, ac fe fyddwn ni'n ei cholli hi am byth."

Pynciau cysylltiedig