Pride Cymru 'mor bwysig i'r genhedlaeth nesaf'
- Cyhoeddwyd
50 mlynedd ers gorymdaith Pride cyntaf y DU, mae un fydd yn dathlu yng Nghymru eleni wedi sôn am sut mae'r ŵyl yn galluogi'r genhedlaeth nesaf i fod yn agored yn eu cymunedau.
Mae "mor bwysig i ddathlu Pride yng Nghymru", meddai Ellis Lloyd Jones o'r Rhondda, i bobl hoyw sydd wedi tyfu i fyny yn "teimlo fel bo' nhw ddim yn ffitio mewn".
Mae digwyddiadau Pride yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd dros y penwythnos.
Ond ar drothwy'r ŵyl, fe wnaeth ymgyrchwyr ddweud nad yw cynnydd mewn cynnyrch LHDTC+ yn golygu bod yr elw yn mynd i'r cymunedau yma.
'Y fi dwi ishe bod'
Mae Ellis Lloyd Jones o'r Rhondda yn mynychu Pride eleni, ac yn dweud ei fod "mor bwysig i ddathlu Pride yng Nghymru".
"Mae lot o bobl hoyw, fel fi, wedi tyfu lan mewn ardaloedd lle roeddent yn teimlo fel bo' nhw ddim yn ffitio mewn", meddai.
Pwysleisiodd Ellis bwysigrwydd cynnal digwyddiadau Pride mewn trefi llai er mwyn ehangu cynhwysiant y tu allan i ddinasoedd fel Caerdydd.
"Gan ddathlu Pride yn yr ardaloedd bach 'ma, mae'n galluogi'r genhedlaeth nesa' i dyfu lan yn teimlo'n agos gyda'u cymuned lleol.
"Eleni lawr yn Rhondda, o le dwi'n dod, roedd dau ddigwyddiad Pride am y tro cynta' erioed.
"Os o'dd hwnna 'di digwydd pryd o'n i'n ifanc bydda i'n siŵr wedi teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded strydoedd Treorci fel y fi dwi ishe bod."
Mae Ellis yn cymryd rhan yn nathliadau Pride Cymru yng Nghaerdydd eleni hefyd.
"Dwi mor ffodus i allu perfformio fel fy drag persona, 'Catrin Feelings' mewn ambell gig Pride.
"Bydde' Ellis bach, 12 oed, yn caru'r person mae e wedi datblygu mewn i!"
'Braidd yn emosiynol'
Yn mynychu Pride am y tro cyntaf, fe ddywedodd Mikey Denman fod y profiad yn un "braidd yn emosiynol".
"Ma' fe'n really wholesome i fod yma - ma' pawb just mor hapus a ma' pawb just yn dod at ein gilydd, sydd mor bwysig.
"Mae'n ffordd o ddangos bo' ni yma i'n gilydd - ma' rhai pobl falle'n teimlo eu bod nhw ar ben eu hunain nhw, a ma' pethau fel hyn yn cael pawb mas i ddathlu efo'n gilydd."
"Mae'n wych gweld gymaint o fwrlwm ar strydoedd Caerdydd," meddai'r Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd.
"Mae hi'n hynod bwysig cael digwyddiad o'r maint yma sy'n dangos ein gwerthoedd ni fel cymuned a'n bod ni'n sefyll yma gyda'n gilydd i'r gymuned LHDT."
Busnesau yn manteisio?
Yn cael lle amlwg yn y dathlu mae baner Pride, sy'n cynnwys lliwiau'r enfys, ac sy'n cael ei defnyddio i ddathlu gwahaniaethau pobl.
Mae'r coch yn symbol o fywyd, oren yn symbol o iachâd, melyn yn symbol o olau, gwyrdd yn symbol o natur, glas yn symbol o gelf a fioled yn symbol o'r ysbryd dynol.
Er y negeseuon o bositifrwydd ynghylch y digwyddiad, mae ymgyrchwyr LHDTC+ yn dweud bod 'na gynnydd mewn gwerthiant cynnyrch Pride yn y siopau, ond mai "elw cyflym" yw hyn.
Dywedodd Yan White, sylfaenydd a chyfarwyddwr The Queer Emporium yng Nghaerdydd ei fod yn croesawu'r cynnydd yn y nifer o faneri ond "does dim llawer o arian" yn mynd ôl i'r cymunedau, meddai.
"Mae cymaint o gwmnïoedd mawr yn rhoi'r faner lliwgar ar eu cynnyrch ac yna'n eu gwerthu am bris uwch na'r arfer," dywedodd.
Ychwanegodd y dylai busnesau sy'n elwa o gynnyrch LHDTC+ wneud mwy i helpu'r cymunedau hyn.
'Agored a llawn amrywiaeth'
Mae'r parêd yn rhan fawr o Pride, a dyma un o ddigwyddiadau mwyaf lliwgar y brifddinas.
Yn fudiad rhyngwladol gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal dros y byd, mae lle i ddathlu "pob diwylliant" yn yr ŵyl, meddai Dan Walsh, un o ymddiriedolwyr Pride Cymru.
"Fe fydd grwpiau gwahanol yn gorymdeithio, yn enwedig rhai sy'n dangos undod gyda Kyiv.
"Fe aeth rhai o'n hymgyrchwyr i orymdaith Pride Efrog Newydd gyda baner Pride Cymru, felly mae hyn yn fudiad rhyngwladol, agored a llawn amrywiaeth."
Ond mae rhai newidiadau wedi'u cyflwyno sy'n gwneud digwyddiad Caerdydd yn un unigryw, meddai.
"Rydyn ni hefyd yn dathlu'r Gymraeg drwy ein partneriaeth gydag S4C, a defnyddio baneri dwyieithog yn ystod yr ŵyl.
"Ry' ni eisiau dathlu ein hunaniaeth genedlaethol, dathlu cefndir pawb a'r hyn sy'n gwneud Cymru'n arbennig."
Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros y penwythnos, gan gynnwys sgyrsiau 'Balchder Cymru Byddar'.
Mae llywydd Pride Cymru, Gian Molinu, yn hapus i fod 'nôl yn dathlu gyda phawb.
"Wrth ddathlu 50 mlynedd o'r orymdaith gyntaf, rydym ni eisiau dathlu ein cymunedau, ond hefyd dangos faint sydd angen ar gymdeithas lle mae troseddau yn erbyn aelodau LHDTC+ ar gynnydd, yn enwedig ar ein cymuned draws."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2022