Teyrnged teulu i 'ferch a mam falch' o Gwmbrân

  • Cyhoeddwyd
Susan MooreFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyn i Susan Moore yn anymwybodol mewn cartref ar Ffordd Redbrook

Mae teulu dynes, 53, a gafodd ei lladd yng Nghwmbrân, wedi'i disgrifio fel "merch a mam falch" wrth i'r heddlu gyhuddo dyn o'i llofruddio.

Cafwyd hyd i Susan Moore yn anymwybodol mewn cartref ar Ffordd Redbrook, fore Sadwrn.

Cafodd plismyn eu galw i'r safle wedi adroddiad bod rhywun wedi ymosod ar ddynes.

Fe gyrhaeddodd parafeddygon y tŷ am 07:25 a rhuthrwyd Ms Moore i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ac yno bu farw o'i hanafiadau.

Cafodd dau ddyn, 48 a 45, eu harestio ar amheuaeth o'i llofruddio.

Mae'r dyn, 48, o Gwmbrân, wedi'i gyhuddo a bydd yn ymddangos ger bron Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.

'Byw bywyd i'r eithaf'

Mewn datganiad dywedodd aelodau o deulu Ms Moore eu bod "wedi'u tristáu ac mewn sioc" wedi'r golled.

"Roedd Susan yn byw ei bywyd i'r eithaf ac yn bendant doedd na'm eiliad ddiflas," meddent.

"Roedd hi'n ferch, ac yn fam falch i dri a bydd yn cael ei cholli'n fawr.

"Fel teulu ry'n yn parhau i brosesu yr hyn sydd wedi digwydd ac yn dymuno preifatrwydd i wneud hynny.

"Ry'n yn diolch i'r rhai sy'n helpu gydag ymholiadau ac yn ddiolchgar am negeseuon o gefnogaeth."

Ffynhonnell y llun, Google

Mae'r ail ddyn a gafodd ei arestio wedi'i ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliad Heddlu Gwent yn parhau.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Sedgebeer: "Mae'r gymuned wedi chwarae rhan allweddol yn yr achos hwn ac ry'n yn diolch am y gefnogaeth mor belled. Ry'n yn meddwl am deulu a ffrindiau Susan yn ystod y cyfnod hwn.

"Fel rhan o'n hymchwiliad ry'n yn awyddus i glywed gan unrhyw un a siaradodd â Susan rhwng dydd Iau a dydd Sadwrn, 25 a 27 Awst.

"Ry'n hefyd yn dymuno siarad ag unrhyw un oedd yn ardal Southville, Cwmbrân, ger Ffordd Redbrook, rhwng hanner nos a 07:30 fore Sadwrn 27 Awst neu unrhyw un sydd â lluniau CCTV neu dashcam."