Gwerthu capel yn codi pryder dros fynediad i fynwent
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd sydd ag anwyliaid wedi eu claddu ym mynwent capel yn Abertawe yn galw am sicrwydd y byddan nhw'n dal yn gallu ymweld â beddau teuluol ar ôl i'r capel gael ei werthu.
Mae adeilad presennol Capel Annibynnol Bethel, Y Sgeti, yn dyddio o 1870 ond mae pobl wedi bod yn addoli ar y safle ers 1777.
Yn ôl ymddiriedolwyr y capel doedd dim dewis ond rhoi'r adeiladau a'r fynwent pedair erw ar werth, gan fod y "gynulleidfa yn oedrannus a'r aelodaeth yn lleihau".
Ond mae pryder wedi codi am beth fydd yn digwydd i'r fynwent wedi'r gwerthiant, gyda theuluoedd yn gofyn am sicrwydd y byddan nhw dal yn gallu cael mynediad i'r beddau ac y bydd y fynwent yn cael ei chadw'n daclus.
'Emosiynol iawn'
Fe gafodd pwyllgor ei sefydlu i bwyso am ddiogelu dyfodol y fynwent, ac mae dros 50 o bobl wedi ymuno. Fe fyddan nhw'n cwrdd am yr eildro nos Lun.
Dr Barbara Morris yw cadeirydd y pwyllgor, ac mae hi'n dweud eu bod am i'r ymddiriedolwyr roi mwy o wybodaeth am beth yw'r cynlluniau ar gyfer y fynwent a phwy fydd yn gyfrifol am y tir a'r beddau ar ôl gwerthu.
"Ar y funud," meddai, "does dim sicrwydd o gwbl gyda ni ynglŷn â mynediad i'r fynwent na chwaith a fydd y fynwent yn cael ei chadw yn daclus."
Dywedodd fod nifer fawr o aelodau'r grŵp yn teimlo'n "emosiynol iawn am bod rhai â chenedlaethau o'u teuluoedd wedi eu claddu ym mynwent Bethel, ac yn dod yno bob wythnos i edrych ar ôl y beddau".
Mae ymgyrchwyr yn dweud hefyd bod y fynwent yn cynnwys nifer o feddau o arwyddocâd hanesyddol.
Yn eu plith mae bedd y cenhadwr Cristnogol Griffith John, a aeth i China yn 1855 ac aros yno tan 1912, gan gyfieithu'r Testament Newydd a rhan o'r Hen Destament i fwy nag un o dafodieithoedd y wlad.
Mae bedd un o arwyr Brwydr Rorke's Drift, y Preifat James Owen, hefyd ar y safle.
Roedd e yn un o'r 150 o filwyr wnaeth amddiffyn storfa ac ysbyty yn Ne Affrica yn ystod ymosodiad gan filoedd o Zulus. Fe gafodd ei anfarwoli yn y ffilm Zulu yn 1964.
Mae pedair cenhedlaeth o deulu mam Rob Orchard wedi eu claddu yn y fynwent.
Mae e'n dweud ei fod yn "deall beth yw problem yr ymddiriedolwyr, a pham bod angen iddyn nhw werthu".
Ond "ein pryder ni," meddai, "yw be' sy'n mynd i ddigwydd i'r fynwent enfawr yma. Mae fy hynafiaid wedi eu claddu yma."
Mewn datganiad fe ddywedodd ymddiriedolwyr y capel: "Wedi trafodaethau hir, dwys ac anodd, y mae ymddiriedolwyr Bethel Sgeti wedi dod i'r penderfyniad i roi yr adeiladau a'r fynwent (sydd yn eiddo i'r ymddiriedolwyr) ar werth.
"Yr ydym yn wynebu lleihad yn nifer yr aelodaeth a chynulleidfa sydd yn oedrannus, ac fel canlyniad bu'n rhaid dod i'r penderfyniad tu hwnt o anodd."
Mae'r capel wedi ei gofrestru gan y corff cadwraethol Cadw.
Dywedodd llefarydd: "Pan fydd capeli yn cau, bydd dyfodol unrhyw fynwentydd yn dibynnu ar y trefniadau a wneir gan gynulleidfaoedd neu enwadau unigol.
"Pan fydd mynwent yn rhan o leoliad adeilad rhestredig, bydd hyn yn ystyriaeth i'r awdurdod cynllunio lleol yn y broses cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig."
Mae tad Geoffrey Evans hefyd wedi ei gladdu yn y fynwent. Mae'n ymwelydd cyson â'r llecyn ac yn cyfaddef ei fod yn teimlo'n emosiynol iawn am y sefyllfa.
"Rwy' yma adeg penblwyddi, Nadolig ac ati," meddai. "Rwy' nôl a 'mlaen drwy'r amser. Mae e yn bopeth i fi ac wedi bod yn rhan o'n teulu am genedlaethau.
"Yr ansicrwydd yw y peth gwaethaf. Ddim yn gwybod be sy'n digwydd. Y cyfan dwi ishe nawr yw gwybod be' sy'n mynd i ddigwydd i fynwent Bethel."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2020