Cost cynyddol ynni yn her anferth i hosbis Tŷ Hafan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ty Hafan
Disgrifiad o’r llun,

Mae hosbis Tŷ Hafan wedi galw am gymorth gan lywodraethau Cymru a'r DU

Mae hosbis plant Tŷ Hafan yn rhybuddio bod y sefydliad yng nghanol "storm berffaith" wrth i'w cyllideb ddioddef yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni ac argyfwng costau byw.

Yr elusen, sydd â'i phrif ganolfan yn Sili ym Mro Morgannwg, yw'r diweddaraf i alw am gymorth ariannol gan lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig.

Mae Tŷ Hafan yn cynnig cymorth arbenigol i bron i 300 o blant sydd yn dioddef o gyflyrau iechyd sy'n byrhau oes.

Mae'r heriau presennol, medd yr elusen, yn "fwy nag adeg y pandemig".

Codi o £100,000 i o leiaf £460,000

Ar hyn o bryd mae bil ynni Tŷ Hafan ar gyfer yr hosbis 10 gwely a'u 19 siop ar draws de-orllewin a chanolbarth Cymru yn £100,000 y flwyddyn.

Gyda'r cytundeb yn dod i ben ar ddiwedd Medi 2022, fe fydd yn dringo'n sylweddol.

£460,000 yw pris un cytundeb sy'n cael ei gynnig iddyn nhw dros dair blynedd, neu £600,000 y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tŷ Hafan bod angen cymorth penodol ar elusennau

Dywed Maria Timon Samra, Prif Weithredwr Tŷ Hafan, bod "cynnydd enfawr mewn pris ynni yn cyfuno gyda gostyngiad sylweddol mewn incwm, a galw uwch am ein gwasanaethau yn storm berffaith ac yn her fawr i ni".

Mae'n pwysleisio hefyd bod angen cymorth penodol i elusennau gan y llywodraeth "er mwyn gallu parhau i ofalu am rai o blant mwyaf bregus Cymru, a'u teuluoedd drwy adeg anodd".

Mae teuluoedd sy'n defnyddio'r hosbis yn dweud ei bod yn hanfodol er mwyn ceisio byw bywyd mor normal â phosib, ac maen nhw'n eilio galwad yr elusen am help gan y llywodraeth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jayde Adams y byddai hi a'i merch Savanah-Bleu ar goll heb Tŷ Hafan

Mae teulu Savanah-Bleu sy'n dair oed ac o bentref Creigiau ger Caerdydd, yn dibynnu ar Tŷ Hafan. Mae ganddi gyflwr Leukodystrophy, sy'n cael effaith ar yr ymennydd.

Yn ôl ei mam Jayde Adams, 30, maen nhw wedi gweld biliau ynni'r teulu'n dringo'n barod.

Mae angen pwmp i fwydo Savanah-Bleu a goleuadau arbennig i gynorthwyo ei datblygiad.

"Mae'n ddigon anodd i ni," meddai Jayde, "alla i ddim dychmygu'r pryder iddyn nhw.

"Mae lot o blant yn dod yma yn ddyddiol sydd angen ocsigen, a pheiriannau anadlu, ac mae angen tipyn o drydan ar eu cyfer.

"Mae angen mwy o gymorth [ar Tŷ Hafan] nac maen nhw'n ei gael nawr."

'Ni'n becso'

Laura James yw pennaeth manwerthu Tŷ Hafan. Mae'n dweud bod yr elusen "fel pob busnes yn gwneud popeth ni'n gallu i helpu gyda'r costau ond mae angen mwy o help arnom ni o'r cyhoedd neu'r llywodraeth".

Mae'r elusen eisoes wedi gosod paneli solar ar y prif adeilad ac yn ymchwilio i ehangu hyn i adeilad arall. Mae hynny, medden nhw, yn golygu arbediad o 13%.

Ar hyn o bryd mae'n costio £5.2m y flwyddyn i ariannu Tŷ Hafan gyda 80% o'r arian yna'n cael ei roi gan y cyhoedd. Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd sy'n cyfrannu'r 20% arall.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Laura James, pennaeth manwerthu Tŷ Hafan, bod cyfraniadau arferol wedi gostwng hefyd

Ond mae Tŷ Hafan wedi gweld cyfraniadau'r cyhoedd yn gostwng 50% ers dechrau'r flwyddyn wrth i'r argyfwng costau byw daro pawb.

Dywedodd Laura James: "Mae pobl yn cael yr un broblem â ni, mae costau yn mynd lan, a dy'n nhw ddim yn gallu fforddio rhoi'r un arian i ni nawr."

Ymatebion llywodraethau Cymru a'r DU

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae £2.2m yn ychwanegol y flwyddyn wedi ei ymroddi, yn dilyn adolygiad, ar gyfer hosbisau yng Nghymru.

"Rydym yn gweithio gyda Tŷ Hafan a hosbisau eraill i'w helpu i ddelio gyda'r argyfwng costau byw," dywedodd llefarydd.

"Ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu nawr i fynd i'r afael â chostau ynni cyn y gaeaf."

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn ymwybodol o'r pwysau sy'n wynebu aelwydydd a chymunedau a bod "elusennau'n wynebu cynnydd yn y galw am ei gwasanaethau ochr yn ochr â chostau cynyddol".

Gan bwysleisio "na all unrhyw lywodraeth genedlaethol reoli'r ffactorau byd-eang sy'n gwthio pris ynni i fyny" dywedodd llefarydd y bydd y llywodraeth "yn parhau i gefnogi'r byd busnes yn y misoedd i ddod".

Mae'r gefnogaeth hynny'n cynnwys lleihau cyfraniad Yswiriant Cenedlaethol y cyflogwr trwy gynyddu'r Lwfans Cyflogaeth a thorri'r dreth ar danwydd, cyflwyno Rhyddhad Ardrethi Busnes o 50%".