Syr Robert Buckland yn aros fel Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Robert BucklandFfynhonnell y llun, PA Media

Mae AS De Swindon Syr Robert Buckland wedi cael ei ail-benodi'n Ysgrifennydd Cymru yng nghabinet cyntaf Liz Truss.

Daeth y cyhoeddiad yn hwyr nos Fawrth wrth i Brif Weinidog Ceidwadol newydd y DU roi swyddi i sawl AS oedd wedi ei chefnogi yn y ras i olynu Boris Johnson.

Roedd Syr Robert yn cefnogi'r cyn-Ganghellor Rishi Sunak yn wreiddiol ond fe newidiodd ei feddwl yn ystod yr ymgyrch gan ddatgan mai Ms Truss oedd "y person cywir i symud y wlad yn ei blaen".

Ar ôl derbyn y swydd dywedodd mai un o'i flaenoriaethau oedd sicrhau cymorth i bobl allu ymdopi gyda'r argyfwng ynni a chostau byw, ac awgrymodd fod gan Gymru rôl bwysig i'w chwarae wrth ddarparu ynni yn y dyfodol.

"Mae costau byw a biliau ynni cynyddol yn cael effaith sylweddol ar bob un person yn y wlad ac mae'n flaenoriaeth gennyf i wneud yn siŵr fod teuluoedd, busnesau ac unigolion ar draws Cymru yn cael pob cefnogaeth sy'n bosib i'w helpu drwy'r gaeaf heriol," meddai.

"Mae gan Gymru ran fawr i'w chwarae gyda'n hanghenion ynni yn y tymor hir gyda'r potensial ar gyfer ynni gwynt oddi ar yr arfordir, a chynlluniau ynni niwclear ac adnewyddol.

"Mae rhain yn brosiectau sy'n creu swyddi a ffyniant, helpu i ddiogelu ein cyflenwad ynni i'r dyfodol ac i gyrraedd targedau sero net."

Yn ddiweddarach ar BBC Wales Today, gwadodd Mr Buckland ei fod wedi newid ei gefnogaeth o Rishi Sunak i Liz Truss er mwyn cadw swydd yn y cabinet.

"Doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai'r canlyniad", meddai.

"Dwi wedi bod i mewn ac allan o lywodraeth, felly dwi'n hollol synhwyrol am yrfaoedd gwleidyddol."

Pwy ydy Robert Buckland?

Cafodd Syr Robert, a gafodd ei eni yn Llanelli, ei benodi yn wreiddiol ym mis Gorffennaf yn dilyn ymddiswyddiad Simon Hart o lywodraeth Mr Johnson.

Yn dilyn cyfnod o weithio fel bargyfreithiwr yng Nghaerdydd, fe gafodd ei ethol yn AS yn 2010.

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r penderfyniad i gadw Ysgrifennydd Gwladol sy'n cynrychioli etholaeth yn Lloegr.

Cafodd ei benodi'n Dwrnai Cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr fel rhan o lywodraeth David Cameron, ac fe wasanaethodd fel Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Cyfiawnder dan Boris Johnson.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts mae'n adlewyrchu'n wael ar y 13 AS Ceidwadol Cymreig "bod dim un yn cael eu hystyried yn gymwys" i fod yn Ysgrifennydd Cymru gan Liz Truss.

'Caffaeliad i'n cenedl'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies ei fod yn "hapus iawn i weld Robert Buckland yn parhau fel Ysgrifennydd Cymru".

Ychwanegodd: "Mae'n gaffaeliad i ein cenedl, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag e - i wneud Cymru'n lle gwell ac i wneud llywodraeth Lafur fethedig Mark Drakeford yn atebol."

Mae penodiadau eraill i gabinet cyntaf Liz Truss yn cynnwys Kwasi Kwarteng fel Canghellor a Suella Braverman sy'n olynu Priti Patel fel yr Ysgrifennydd Cartref newydd.

Nadhim Zahawi yw'r gweinidog sy'n gyfrifol o hyn ymlaen am berthnasau Llywodraeth y DU gyda gweinyddiaethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Pynciau cysylltiedig