Pum degawd o gasglu yn Amgueddfa Lechi Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae eleni'n garreg filltir yn hanes Amgueddfa Lechi Cymru gan fod yr Amgueddfa wedi dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed ym mis Mai.
Mae Cadi Iolen, uwch guradur yr amgueddfa, wedi dewis pump gwrthrych - un o bob degawd - o gasgliad yr amgueddfa i Cymru Fyw.
Gwrthrychau ydi craidd unrhyw amgueddfa - heb wrthrychau nid yw amgueddfa yn ddim gwahanol i unrhyw sefydliad neu atyniad arall. Mae oddeutu 13,000 o wrthrychau arbennig ac amrywiol yng nghasgliad yr Amgueddfa Lechi.
Roedd hon yn dasg anodd iawn … petaech yn gofyn i aelod arall o staff dwi'n siŵr y bydden nhw yn dewis pum gwrthrych gwahanol iawn ... rwyf wedi newid fy meddwl sawl gwaith, ac efallai y byddai wedi bod yn rhwyddach dewis 50 gwrthrych! Ond dyma ni ….
1. Adeilad Gilfach Ddu
Dwi'n sicr y byddai sawl un yn disgwyl imi ddewis rhywbeth bychan, a fyddai yn ffitio mewn blwch arddangos fel gwrthrych cyntaf. Ond mewn gwirionedd dwi wedi dewis gwrthrych mawr sydd yn llawn o wrthrychau llai - sef adeilad y Gilfach Ddu.
Yn 1972 nid mewn adeilad newydd gyda waliau gwyn gweigion y sefydlwyd yr Amgueddfa Lechi ond yn y Gilfach Ddu, adeilad trawiadol sydd yn llawn hanes a chymeriad.
Adeiladwyd gweithdai Gilfach Ddu ym 1870 gan gwmni De Winton, Caernarfon, ar batrwm tebyg i gaer o gyfod yr Ymerodraeth Brydeinig, neu efallai iard stabl mewn tŷ gwledig crand. Pedair rhes o weithdai yn wynebu ei gilydd, ac iard betryal yn y canol. Dyma arwydd gweladwy o gyfoeth Stad y Faenol - perchnogion Chwarel Dinorwig.
Roedd y gweithdai yma'n lle anhygoel - yn y Gilfach Ddu oedd yr holl waith cynnal a chadw ar gyfer Chwarel Dinorwig yn cael ei wneud, chwarel oedd yn ei anterth yn cyflogi dros 3,000 o ddynion. Roedd anghenion peirianyddol a chynnal a chadw'r chwarel yn ddibendraw.
Mae'r gwrthrych yma yn adlewyrchu dawn a gallu'r unigolion arbennig a weithiai yma. Am bron i 100 mlynedd roedd yn adeilad a gyflogodd dynion lleol i wneud gwaith arbennig a sicrhâi fod Chwarel Dinorwig yn gweithio yn effeithiol.
Mae o'n adeilad i'w drysori ac yn llawn cymeriad a naws arbennig, ac yn gwneud Amgueddfa Lechi Cymru yn safle unigryw iawn.
2. Plac llechfaen
O'r cyfnod 1980 - 1989 dwi wedi dewis gwrthrych a gasglwyd ym 1987, sef plac llechen gyda'r geiriau 'Swyddfa Undeb y Chwarelwyr'.
Pan mae rhywun yn meddwl am lechi'r peth cyntaf sydd yn dod i'r meddwl ydi llechi to, a hynny yn amlwg gan fod llechi Cymru wedi toi'r byd ond mae llawer mwy o ddefnydd i lechi na dim ond llechi to. Beth am lechi ysgrifennu … deunydd adeiladu … deunydd ffensio … cerrig beddi … gwlâu byrddau snwcer a billiards …. cafnau dŵr … silffoedd ffenestri … urinals … addurniadau… gemwaith. Drwy'r plac yma gallwn gyflwyno'r syniad o ddefnydd amrywiol llechen.
Caglwyd y gwrthrych gan ei fod yn fodd o ddehongli hanes undebaeth o fewn y diwydiant llechi. Yn 1874 sefydlwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru fel mudiad i amddiffyn y chwarelwyr. Cynhelid cyfarfodydd weithiau ar gyrion Llanberis, ar graig a elwir heddiw yn Graig yr Undeb.
Er nad oedd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn sefydliad hollol lwyddiannus, erbyn troad yr ugeinfed ganrif roedd yr undeb wedi bod yn rhan o rai o'r anghydfodau diwydiannol mwyaf chwerw yn hanes Prydain.
Yr amlycaf oedd Streic Fawr y Penrhyn - un o'r anghydfodau hiraf yn hanes diwydiannol Prydain, a estynnwyd o fis Tachwedd 1900 tan fis Tachwedd 1903.
3. Bwrdd llifio
O'r cyfnod 1990 - 1999 dwi wedi dewis gwrthrych a gasglwyd ym 1996, sef bwrdd llifo a gynhyrchwyd gan John Owen yn ffowndri 'Menai Iron Works', Bangor, ym 1875.
Casglwyd y bwrdd llifio yma gan ei fod yn fodd o adlewyrchu'r ffaith fod y diwydiant llechi yn cefnogi diwydiannau ategol megis gweithfeydd haearn, gweithdai annibynnol, a ffowndrïau. Roedd nifer o ffowndrïau yn cefnogi'r diwydiant llechi, megis y Vulcan Foundry yng Nghaernarfon, Britannia Foundry ym Mhorthmadog, a'r Tanygrisiau Foundry yn ardal Ffestiniog.
Rheswm arall dros gasglu'r gwrthrych yma oedd oherwydd y lleoliad ble bu yn gweithio. Casglwyd y bwrdd llifio o Chwarel Garreg Fawr yn Waunfawr. Dyma chwarel fechan a weithiwyd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen, ac a fu o dan berchnogaeth sawl person unigol a chwmni gwahanol.
Dyma ffordd o adlewyrchu'r ffaith fod y diwydiant llechi i'w ganfod ar hyd a lled Cymru, ac nid dim ond yn y prif ganolfannau megis Chwarel Penrhyn, Chwarel Dinorwig, chwareli Dyffryn Nantlle, a chwareli Blaenau Ffestiniog.
Mae hyn yn bwysig i gofio gan mai Amgueddfa Lechi Cymru ydym ni - nid Amgueddfa Lechi Dinorwig neu Llanberis. Mae dyletswydd arnom ni i gasglu gwrthrychau o wahanol ardaloedd o Gymru sydd â chysylltiad gyda'r diwydiant llechi.
4. Cadair Eisteddfod Gadeiriol Caban Mills 1938
O'r cyfnod 2000 - 2009 dwi wedi dewis gwrthrych a gasglwyd yn 2000 sef Cadair Eisteddfod Gadeiriol Caban Mills 1938.
Y caban oedd enw ble byddai'r chwarelwyr yn bwyta eu cinio. Roedd yn stafell syml gyda byrddau, meinciau, a stof yn gwresogi.
Roedd y caban yn fwy nag ystafell ginio - y caban oedd calon ddiwylliannol y chwarel. Yma byddai'r chwarelwyr yn trafod materion pwysig y dydd megis crefydd, gwleidyddiaeth, a materion undeb. Roedd llawer o hwyl a thynnu coes yn y caban hefyd!
Cynhaliwyd 'Eisteddfod Gadeiriol Caban Mills' ym Medi 1938. Parhaodd am dri diwrnod gyda chystadlaethau i unawdwyr, partïon, offerynnau …. cystadlaethau adrodd, darllen emynau a rhannau o'r Ysgrythur, ac yn y blaen. Enillydd y Gadair oedd Emyr Jones, chwarelwr ifanc o'r Waunfawr a weithiai ym Mhonc Muriau.
Mae'r gwrthrych yma yn adlewyrchu diwylliant arbennig y diwydiant llechi.
Yn ogystal mae'r gadair yn fodd o ddehongli'r offer a'r arfau a ddefnyddiwyd gan y chwarelwyr oherwydd ei bod wedi ei chynllunio mewn steil arbennig. Mae'r gadair wedi ei chynllunio ar steil 'blocyn tin' - y stôl isel a eisteddai'r chwarelwyr arno wrth hollti llechi.
5. Trowsus chwarelwr
O'r cyfnod 2010 - 2022 dwi wedi dewis gwrthrych a gasglwyd yn 2021, sef pâr o drowsus chwarelwr - trowsus cotwm gwyn (ffustion) yn cau gyda botymau, i'w gwisgo gyda bresys. Dyma enghraifft o wisg ddyddiol/dillad gwaith chwarelwr.
Mae trowsus o'r math yma yn eiconig - gwelir cannoedd o enghreifftiau yn cael eu gwisgo gan chwarelwyr yn y ffotograffau archif sydd yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Ond gan ei fod yn rhywbeth 'bob dydd' tydyn nhw heb oroesi. Rhain yn aml ydi'r pethau anoddaf i'w casglu, gan fod pobl wedi diystyru eu pwysigrwydd.
Beth am feddwl am bwy oedd yn gyfrifol am olchi'r trowsus? Merched wrth gwrs! Mae hanes merched yn yr ardaloedd chwarelyddol yn weddol anweledig - o bosibl gan nad oedden nhw yn gweithio yn y diwydiant.
Yn ystod yr 1890au roedd beirniadaeth hallt o ferched y cymunedau chwarelyddol. Mae'r dystiolaeth sydd gennym yn deillio o ymchwiliadau cyhoeddus i sefyllfa'r diwydiant llechi a'r cymunedau chwarelyddol ar ddiwedd yr 19fed ganrif.
Ond wrth gwrs barn unochrog iawn oedd hwn, ac mewn gwirionedd merched oedd yn gyfrifol am gynnal y teuluoedd a'r gymdeithas. Gellir meddwl am sawl enghraifft o ferched wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r cymunedau chwarelyddol, megis Côr Merched y Penrhyn a deithiodd hyd a lled Prydain yn casglu arian.
Mae gwaith haneswyr megis Elin Tomos yn agor cwr y llen ar hynny erbyn hyn. Ac mae rôl merched yn destun sgwrs neu ddarlith ei hun! Ond i ni yn yr Amgueddfa gellir defnyddio'r trowsus yma i ddechrau'r drafodaeth.