'Bywyd hynod': Senedd Cymru yn cofio'r Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau o'r Senedd wedi ymgynnull i dalu teyrnged i Frenhines Elizabeth II a fu farw ddydd Iau yn 96 oed.
Fe wnaeth y Llywydd adalw'r Senedd ar gyfer y sesiwn arbennig a ddechreuodd am 15:00 ddydd Sul.
Dywedodd y Llywydd Elin Jones wrth y Senedd, er bod safbwyntiau gwahanol ar y frenhiniaeth ymhlith 60 Aelod o'r Senedd nad oedd llawer o wahaniaeth rhyngddynt o ran y ffordd y mae'r Frenhines wedi cyflawni ei rôl.
"Roedd Elizabeth II yn chwilio am yr hyn oedd yn uno pobl yn hytrach na'r hyn oedd yn creu rhaniad.
"Gallwn ninnau hefyd geisio'r undod hwnnw heddiw yn ein cydymdeimlad," meddai'r Llywydd.
Wrth nodi ei chwe ymweliad â'r Senedd, dywedodd fod y Frenhines wedi eistedd ymhlith Aelodau o'r Senedd "wrth iddi gyflawni ei dyletswydd gyfansoddiadol fel pennaeth y wladwriaeth".
"Rydym yn diolch iddi am ei gwasanaeth i Gymru," meddai.
Mae holl fusnes a digwyddiadau eraill y Senedd wedi'u gohirio yn ystod y cyfnod o alaru cenedlaethol, ac mae'r adeilad ar gau i'r cyhoedd nes bod yr Angladd Gwladol wedi'i gynnal.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae'n anodd credu nawr ein bod wedi ymgynnull yma yn y Senedd dim ond cwpl o fisoedd byr yn ôl i ddathlu cyflawniad unigryw y Jiwbilî Blatinwm.
"Roedd y Frenhines yn fregus, yn dilyn ei blynyddoedd o wasanaeth a hunan-aberth. Henaint ni ddaw ei hunan. Ond er hyn i gyd, roedd hi'n dal yn weithgar ac yn llawn egni.
"Bydd y llyfrau hanes yn nodi mai'r chweched Senedd hon oedd yr olaf o bedair Senedd y Deyrnas Unedig i gael ei hagor gan y Frenhines Elizabeth II, lai na blwyddyn yn ôl."
Ychwanegodd fod y Frenhines wedi byw "bywyd hynod" gydag "ymdeimlad hollbwysig o ddyletswydd".
Disgrifiodd "ymrwymiad personol y Frenhines i Gymru a'i sefydliadau democrataidd", gan ddweud ei bod wedi gwneud "penderfyniad personol" yn 1999 i agor tymor cyntaf y Cynulliad newydd, "gan anwybyddu'r cyngor a roddwyd iddi".
Roedd y ddelwedd o'r Frenhines yn eistedd ar ei phen ei hun yn angladd Dug Caeredin "wrth arsylwi'n urddasol a phenderfynol" ar reoliadau Covid yn un o "ddelweddau diffiniol ei theyrnasiad" meddai'r prif weinidog.
Dywedodd Mr Drakeford hefyd ei fod yn anfon ei "gydymdeimlad diffuant i'r Brenin newydd a'i deulu".
"Mae ein meddyliau gyda Thywysog a Thywysoges newydd Cymru," meddai.
"Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y bennod newydd hon yn eu bywydau o wasanaeth."
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, fod gwasanaeth cyhoeddus bob amser yn "gyntaf ac yn bennaf" gyda'i Mawrhydi Y Frenhines.
"Yma yng Nghymru fe welsom hynny dro ar ôl tro gyda'r holl sefydliadau y mae hi wedi bod yn noddwr iddynt ac y mae hi wedi'u cefnogi," meddai.
"Mae'n ffaith yn y pen draw pan edrychwch yn ôl, mae'n debyg na fydd y rhan fwyaf ohonom byth yn gweld teyrnasiad o'r fath yn ein hoes a'r fath ymroddiad i wasanaeth."
'Araith wych'
Ar ran grŵp Plaid Cymru yn y Senedd, mynegodd eu harweinydd Adam Price "ein tristwch ninnau ac estyn ein cydymdeimladau dwysaf i'r teulu brenhinol, yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth."
Soniodd Mr Price am ymweliad hanesyddol cyntaf y Frenhines â Gweriniaeth Iwerddon yn 2011.
"Mewn araith yng Nghastell Dulyn - datganodd, "gyda'r ddawn o edrych yn ôl ar hanes, gallwn ni i gyd weld y pethau yr ydym yn dymuno eu bod wedi'u gwneud yn wahanol, neu ddim o gwbl".
Ychwanegodd Mr Price: "I rai, bydd hon yn foment o bryder mawr. Ond efallai, wrth i'r Frenhines Elizabeth gychwyn ar ei thaith olaf, ac i ni ystyried beth sydd gan y dyfodol i'w gynnig, gallwn ddilyn siars y Frenhines ei hun yn yr araith wych honno yn Nulyn - i ymgrymu i'r gorffennol ond heb gael ein rhwymo ganddo."
'Ffrind i Gymru'
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, "roedd Ei Mawrhydi yn ffrind i Gymru, a bydd llawer yma yn y Deyrnas Unedig, y Gymanwlad ac ymhellach yn ei cholli'n fawr.
"Mae fy meddyliau a'm gweddïau, wrth gwrs, yn mynd at y teulu brenhinol, ond hefyd at bobl ym mhob cornel o'r Deyrnas Unedig sydd wedi'u cyffwrdd gan waith elusennol ac arweinyddiaeth Elizabeth II.
"Mae'r don o gydymdeimlad sydd i'w gweld gan bobl a gwleidyddion ar draws y byd yn dangos faint o fywydau a wnaeth y Frenhines Elizabeth II eu cyffwrdd, ynghyd â'r gobaith, urddas ac anrhydedd yr oedd hi'n eu hymgorffori ar gyfer cynifer."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022