Rygbi Merched: Lloegr 73-7 Cymru
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd Merched Cymru'n drwm yn eu gêm brawf yn erbyn Lloegr ym Mryste nos Fercher - gêm baratoadol olaf y ddau dîm cyn i'r carfannau gael eu dewis ar gyfer pencampwriaeth Cwpan y Byd fis nesaf.
Roedd Lloegr - enillwyr y Chwe Gwlad eleni, gan sicrhau'r Gamp Lawn - yn ffefrynnau clir i ennill.
Mae'r sgôr terfynol ar ddiwedd y gêm yn stadiwm Ashton Gate, Bryste - 73 pwynt i 7 - wedi tanlinellu eu statws fel tîm gorau'r byd ar hyn o bryd.
Gwen Crabb wnaeth sgorio unig gais tîm Ioan Cunningham, wrth i ferched Lloegr dirio 11 o weithiau.
Fe giciodd Elinor Snowsill yn gywir wedi cais Crabb - ail gais y noson - i unioni'r sgôr wedi 14 munud o chwarae.
Ond yna fe aeth Lloegr ati i lwyr reoli'r gêm - erbyn yr egwyl roedden nhw 33-7 ar y blaen a doedd dim modd i Gymru daro'n ôl yn yr ail hanner 'chwaith.
Sgoriodd Helena Rowland dri o'r ceisiau i Loegr o flaen torf o 11,691.
Golyga'r fuddugoliaeth mai Lloegr yw'r tîm cyntaf i ennill 25 gêm brawf yn olynol - Seland Newydd oedd y tîm olaf i'w curo, yn 2019.
Roedd bwlch mor sylweddol yn arbennig o siomedig gan fod y garfan wedi gallu hyfforddi'n llawn amser ers yr haf ers i sawl aelod gael cytundebau proffesiynol.
Roedd yna funud o dawelwch cyn y gic gyntaf a theyrnged i'r Frenhines Elizabeth II drwy'r gêm. Roedd yna gymeradwyaeth hefyd wedi 70 munud o chwarae i gydnabod hyd ei theyrnasiad - 70 o flynyddoedd.
Bydd prif hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham, yn cyhoeddi pwy sydd yn y garfan ar gyfer Cwpan y Byd ar 21 Medi.
Yr Alban fydd eu gwrthwynebwyr cyntaf yn Seland Newydd, ar 9 Hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2021