Caerdydd yn paratoi i groesawu'r Brenin newydd
- Cyhoeddwyd
Mae paratoadau ar droed yng Nghaerdydd ar gyfer ymweliad cyntaf y Brenin Charles III â Chymru ers iddo etifeddu'r Goron.
Ddydd Gwener fe fydd y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn bresennol mewn gwasanaeth o fyfyrdodau a gweddïau dros y Frenhines Elizabeth II yng Nghadeirlan Llandaf.
Byddan nhw wedyn yn mynd i ddigwyddiadau pellach yn y Senedd ac yng Nghastell Caerdydd.
Dywed Cyngor Caerdydd y bydd y pâr brenhinol yn cwrdd ag aelodau'r cyhoedd ar dir y castell ond mae yna rybudd i ddisgwyl ciwiau hir gyda phobl yn cael mynediad ar sail y cyntaf i'r felin.
Bydd nifer o ffyrdd ar gau, dolen allanol yn ystod yr ymweliad, ac fe fydd mesurau diogelwch llym mewn grym.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud bod yna gyfyngiadau ar ddefnyddio'r gofod awyr uwchben y ddinas rhwng 06:00 a 20:00 ddydd Gwener, gan gynnwys dronau.
Mae protest yn erbyn y Frenhiniaeth hefyd wedi ei threfnu ar gyfer y diwrnod.
Trefnydd y "brotest dawel" ger Castell Caerdydd ydy cyn-AS Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Dywedodd: "Mae pobl yn dweud wrthym nad nawr yw'r amser i drafod y mater hwn, fodd bynnag, pan fydd y frenhiniaeth yn trosglwyddo i Frenin newydd, nawr yw'r union amser i drafod y mater hwn.
"Mae'n ymwneud â thegwch, cydraddoldeb, a'r Gymru yr ydym am ei llunio ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Gwahoddedigion yn unig fydd yn y gwasanaeth yng Nghadeirlan Llandaf, a fydd yn cynnwys anerchiad gan Archesgob Cymru, Andrew John.
Deon dros dro Llandaf, Michael Komor, fydd yn arwain y gwasanaeth a bydd Esgob Llandaf, June Osborne, yn arwain y gweddïau.
Bydd cynrychiolwyr eglwysi a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru hefyd yn darllen gweddïau a bydd yna ddarlleniad gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Bydd côr yn perfformio anthem, Gweddi Gymreig - wedi ei chyfansoddi gan Paul Mealor gyda geiriau gan y Dr Grahame Davies.
Bydd Alis Huws a Catrin Finch yn cyfeilio - dwy sydd wedi gwasanaethu fel telynores swyddogol y brenin newydd pan roedd yn Dywysog Cymru.
Bydd y pâr brenhinol hefyd yn derbyn cynnig o gydymdeimlad gan Mr Drakeford yn ystod ail ddigwyddiad y dydd, yn y Senedd.
Yn y castell wedyn, fe fyddan nhw'n cwrdd â chynrychiolwyr mudiadau ac elusennau sy'n derbyn nawdd brenhinol ac aelodau cymunedau ffydd.
'Cofio a diolch'
Bydd Archesgob Cymru, Andy John, yn gwneud anerchiad yn ystod y gwasanaeth, a rhoddodd ragolwg i'r BBC o'i gynnwys.
Dywedodd ei fod wedi'i chael hi'n anodd crisialu cyfraniad y Frenhines ar draws y byd yn ogystal â Chymru a'r Gymanwlad, am ei fod mor "eithriadol".
Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r gwasanaeth yn galluogi "Cymru i deimlo ein bod wedi gwneud yn iawn â'n cyn-Frenhines".
Bydd y gwasanaeth yn "cofio ein cyn-Frenhines ac yn diolch i dduw am ei chyfraniad eithriadol i fywydau unigolion, yn ogystal â bywyd cyhoeddus, ac yn nodi hynny mewn ffordd sy'n addas".
"Fe agorodd ein Senedd, ac roedd hynny eto yn rhan anferthol o'n bywyd fel cenedl, i gael ein senedd ein hunain.
"Rwyf am geisio tynnu atgofion at ei gilydd fydd yn creu darlun byw a real ym meddyliau pobl."
Byddai ffydd Gristnogol ddwfn y Frenhines hefyd yn rhan o'i anerchiad.
Roedd ei negeseuon Nadoligaidd, meddai, yn dangos pa mor bwysig oedd Iesu Grist iddi.
"Roedd hi'n modelu ei bywyd arno, siaradodd am ei fywyd a'i farwolaeth, a'i atgyfodiad.
"Roedd yr holl bethau hyn wedi siapio, nid yn unig ei gwerthoedd a'i chyfraniad i fywyd cyhoeddus, ond wedi ei gwneud hi y person yr oedd hi," meddai.
Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu gan y BBC ac yn cael ei ddangos ar draws y byd, a dywedodd yr Archesgob ei fod wrth ei fodd y bydd yna "bobl sy'n cynrychioli pob rhan o'r bywyd Cymreig" yn cymryd rhan ac mai'r nod oedd diolch am yr hyn roddodd y Frenhines i Gymru a'r byd.
'Llawer o brofiad yng Nghaerdydd'
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast bore Iau dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, ei fod yn hapus gyda'r trefniadau o flaen llaw.
"Mae 'na gymysgiad mawr rhwng y pethau sydd wedi eu paratoi ers blynyddoedd, yn aros am y ffaith fod y Frenhines am farw rhyw ddiwrnod, a'r pethau sydd jyst wedi eu penderfynu yn yr wythnos ddiwetha' 'ma a phenderfyniadau gan y Brenin newydd," meddai.
"Mae'r paratoadau wedi mynd yn dda iawn, mae'r Prif Gwnstabl, Jeremy Vaughan, yn cymryd diddordeb personol yn y ffordd mae pethau'n cael eu datblygu.
"Ond rhaid dweud bod llawer o brofiad yng Nghaerdydd rhwng Heddlu De Cymru a'r cyngor lleol, er enghraifft 'da ni wedi cael yn y blynyddoedd diwetha' NATO yn dod yma, Cwpan [pêl-droed] Ewrop gyda nifer enfawr o bobl yn dod i'r ddinas a lot o waith paratoi a chadw trefn."
Canol y ddinas
Mae rhai o ffyrdd y brifddinas eisoes ar gau er mwyn paratoi ar gyfer digwyddiadau dydd Gwener.
O 06:00 tan 18:00 ddydd Gwener 16 Medi, bydd y ffyrdd canlynol ar gau:
Heol y Gogledd rhwng Boulevard de Nantes a Ffordd y Brenin
Ffordd y Brenin o Heol y Dug i Heol y Gogledd
Heol y Dug ar ei hyd
Stryd y Castell ar ei hyd
Stryd Wood rhwng Heol y Porth a Heol Eglwys Fair
Heol Eglwys Fair o Heol y Tollty i'r Stryd Fawr
Stryd Fawr ar ei hyd
Stryd Wood
Heol y Porth
Heol Ddwyreiniol y Bont-faen rhwng Heol y Porth a Heol y Gadeirlan ond bydd mynediad ar gael.
Mae yna gynllun wrth gefn i gau ardal ehangach i gerbydau os fydd yna dorfeydd mawr.
Dywed Cyngor Caerdydd bod wedi trefnu nifer "sylweddol" o stiwardiaid i gydweithio â swyddogion heddlu fel rhan o'r cynlluniau sydd hefyd yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Heddlu De Cymru.
Mae'r cyngor hefyd yn cynghori pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheisio gyrru a pharcio yng nghanol y ddinas.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rhagweld y bydd gwasanaethau trên yn brysur iawn, ac yn annog pobl i ganiatáu mwy o amser i deithio ac i gadw golwg ar y sefyllfa ddiweddaraf, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2022
- Cyhoeddwyd11 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022