Cyhuddo dyn wedi 'ymosodiad difrifol' â bwa saeth yn Aberafan

  • Cyhoeddwyd
Victoria Road a Princess Margaret WayFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn wedi ymddangos mewn llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â bwa saeth yn Aberafan, Port Talbot, nos Sadwrn.

Cafodd dyn 32 oed ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn dilyn yr "ymosodiad difrifol".

Daeth yr heddlu o hyd i fwa saeth mewn bloc o fflatiau ar Heol Victoria yn y dref.

Fe wnaeth Adam Calland, 50 o Aberafan, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Mawrth.

Dywedodd yr heddlu nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad gan apelio am ragor o wybodaeth.

Mae'r dyn 32 oed yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.

Pynciau cysylltiedig