Cynnal angladd y Frenhines Elizabeth II
- Cyhoeddwyd

Mae angladd y Frenhines Elizabeth II wedi cael ei gynnal ddydd Llun ar ôl i'r arch orffwys yn gyhoeddus yn Neuadd Westminster am bedwar diwrnod.
Roedd y Frenhines wedi gwneud trefniadau personol i ychwanegu at gynlluniau'r angladd, yn ôl Palas Buckingham.
Fe deithiodd yr arch i Abaty Westminster ar gyfer gwasanaeth crefyddol cyhoeddus yn gyntaf.
Wedi hynny roedd Gwasanaeth y Traddodiant, llai o faint, yng Nghastell Windsor.
Bydd y claddu'n digwydd mewn gwasanaeth preifat yn ddiweddarach.


Roedd tua 2,000 o bobl yn Abaty Westminster ar gyfer rhan gyntaf yr angladd
Fe ddechreuodd y gwasanaeth yn Abaty Westminster yn swyddogol am 11:00 gydag arweinwyr byd wedi teithio i ymuno â'r Teulu Brenhinol.
Cafodd yr arch ei chludo yno gan Gerbyd Gynnau y Llynges Frenhinol o Neuadd Westminster i'r Abaty, gydag aelodau blaenllaw o'r teulu yn dilyn.
Dyna ddechrau rhan seremonïol y diwrnod ac roedd tua 2,000 o westeion yno.

Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden a'i wraig Jill yn cyrraedd Abaty Westminster
Roedd ffigyrau gwleidyddol amlwg o'r DU yno hefyd a chyn brif weinidogion.
Roedd arweinwyr o ar draws y byd yno, gan gynnwys Arlywydd America, Joe Biden, ac Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron.
Yn cynrychioli Cymru roedd y prif weinidog Mark Drakeford a Llywydd y Senedd Elin Jones.

Fe gyrhaeddodd Mark Drakeford yr Abaty ar yr un pryd â phrif weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon

Y prif weinidog Liz Truss yn darllen llith
Roedd aelodau o deuluoedd Brenhinol o ar draws Ewrop yno hefyd.
Deon Abaty Westminster, David Hoyle wnaeth arwain y gwasanaeth ac fe gafodd y bregeth ei thraddodi gan Archesgob Caergaint, Justin Welby.
Fe ddarllenodd y Prif Weinidog, Liz Truss, lith yn yr angladd.

Roedd miloedd o aelodau'r lluoedd arfog yn rhan o'r angladd

Yr arch yn cael ei chludo mewn gorymdaith i Wellington Arch gan aelodau'r llynges Frenhinol
Cafodd arch y Frenhines ei chludo mewn gorymdaith o'r Abaty i Wellington Arch ger Hyde Park.
Doedd hi ddim yn orymdaith dawel gan fod y Magnelwyr Brenhinol yn tanio gynnau yn Hyde Park bob munud ac hefyd bydd Big Ben yn canu bob munud.

Yr hers yn gadael Wellington Arch
Wedyn, cafodd yr arch ei chludo ar yr Hers Wladol i Gastell Windsor. Fe deithiodd ar hyd y ffyrdd gwledig yn hytrach na'r draffordd.
Yn dilyn gorymdaith hir ar hyd ffordd The Long Walk sy'n arwain at y castell, fe wnaeth y Brenin a gweddill y Teulu Brenhinol ymuno wrth y pedrongl yng Nghastell Windsor.

Yna cafodd Gwasanaeth y Traddodiant ei gynnal yng Nghapel San Siôr yn Windsor.
Tua 800 o westeion oedd yno mewn gwasanaeth llai o faint.
Unigolion fu'n gwasanaethu'r Frenhines yn uniongyrchol drwy ei theyrnasiad oedd wedi eu gwahodd, gan gynnwys staff yr ystadau preifat.

Y Brenin Charles III yn gosod baner fechan ar arch ei fam yng Nghapel San Siôr
Yn dilyn alaw gan bibydd y Sofran daeth y gwasanaeth i ben gyda'r fendith a chanu God Save The King.
Yna, cafodd arch y Frenhines ei gostwng i'r Gladdgell Frenhinol.
Ar ôl y seremoni gyhoeddus, roedd yna wasanaeth preifat i'r Teulu Brenhinol.
Yn dilyn y gwasanaeth preifat fe gafodd y Frenhines ei rhoi i orwedd yn yr un man â'i diweddar ŵr, Dug Caeredin, yng Nghapel San Siôr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022