'Dwi dal yn dysgu beth yw galar'
- Cyhoeddwyd
"'Oedd y dychryn 'na i weld beth oedd yn mynd ymlaen gyda gymaint o bobl mor agos i fi (wedi cael canser). 'Oedd y dychryn wedi dechrau ar y daith o ofyn y cwestiynau - a oes rhywbeth i stopio hyn o ddod i fi?"
Dyma eiriau Nia Price, y gantores gospel o Gynwyl Elfed yn Sir Gaerfyrddin. Mae Nia, sy' wedi teithio ar draws y byd yn canu, wedi wynebu'r penderfyniad anodd i godi dwy fron ar ôl colli sawl aelod o'r teulu i ganser.
Bu'n siarad gyda John Roberts am alar a'r newid yn ei bywyd yn rhaglen Yr Oedfa ar Radio Cymru.
Mae wedi bod yn amser anodd. 'Natho ni golli Mam i ganser y fron yn 2015. Ers hynny ry'n ni wedi colli cousin i ganser y fron hefyd. Ar ôl colli Mam 'oedd fy chwaer wedi cael canser y fron, jest chwe mis ar ôl i Mam farw.
Ac mae rhai eraill yn y teulu hefyd wedi cael canser o ryw fath neu gilydd, rhestr eitha' hir o ganser yn bwrw teulu ni. Ac wrth gwrs pam ddim teulu ni? Ond mae 'di bod yn amser digon anodd.
Ar ôl i'n chwaer i ddechrau fynd yn sâl o'n i 'di dechrau edrych mewn i falle a ddylen i gael mamogram bob blwyddyn ond o'n i'n rhy ifanc i neud hynny. Dyw nhw ddim moyn dechrau gwneud hynny nes bod fi'n 50.
D'wedodd fy ddoctor lleol i, 'wel falle gyda'r holl sy' 'di bod yn mynd ymlaen yn y teulu, bydde fe'n werth edrych mewn i'r genetics'. So 'nes i drio neud apwyntiad a 'nath yr apwyntiad ddod mewn 4 neu 5 mis yn hwyrach.
Penderfyniad anodd
Yn yr apwyntiad hynny 'natho nhw eistedd lawr gyda fi i ddweud, 'gyda'r holl ni'n edrych arno ni'n teimlo falle bydde fe'n neud synnwyr i ti gael double mastectomy a reconstruction'. Achos mae mor amlwg bod hyn yn mynd i fod o dy flaen di heb wneud hynny'.
Sioc
Y peth cyntaf feddyliais i oedd, pam na fydden i wedi dod â'n ngŵr i gyda fi (i'r apwyntiad)?
Pam dwi wedi dod ar ben fy hunan? A pam dwi dim ond wedi parcio am 20 munud tu fas?
Achos doedd e ddim yn rhywbeth allen i fynd adref a sortio mas. 'Oedd e'n mynd i fod yn lot mwy o feddwl a gweddïo am y peth.
A meddwl i'n hunan, ydw i'n chwarae Duw os ydw i ddim yn sâl ac yn mynd i gael operation mawr fel 'na, sy'n dod â risks ei unan wrth gwrs?
'Oedd y dychryn 'na i weld beth oedd yn mynd ymlaen gyda gymaint o bobl mor agos i fi (wedi cael canser). 'Oedd y dychryn wedi dechrau ar y daith o ofyn y cwestiynau - a oes rhywbeth i stopio hyn o ddod i fi?
Mae wedi bod yn frwydr.
Roedd yr holl gwestiwn 'na o 'wyt ti'n mynd i chwarae Duw?' Ti'n dweud wrth Duw bod ti ddim yn mynd i gael canser. O'n i wedi gorfod torri e lawr dros bron i ddwy flynedd i ddod i'r sefyllfa o 'ie, dwi yn mynd i fynd trwyddo a'r driniaeth.'
A gorfod edrych nôl a meddwl am y ffaith bod yr NHS wedi eistedd lawr gyda fi a dweud, 'bydden i'n wirioneddol gofyn i ti am feddwl am fynd trwy hyn.'
Doedd e ddim yn rhywbeth dros nos.
Triniaeth
Roedd e'n 12 awr o driniaeth yn Bryste. Y ffaith bod ddim canser yn fy nghorff i, dyna oedd y frwydr yn fy mhen i.
O'n i ffaelu symud am ddyddiau ac emynau o'n i'n canu fel plentyn oedd yn dod i'n feddwl i - ac yn mynd rownd a rownd yn fy mhen i yn y nos.
Dwi dal yn meddwl bod fi 'di neud y peth iawn yn mynd trwyddo.
Galar
Dwi wedi colli'n chwaer ers y driniaeth, bron i ddwy flynedd yn ôl nawr.
Mae colli chwaer yn wahanol i golli rhiant achos ni wedi 'nabod ein gilydd erioed. Mae'r galar sy' wedi dod o hynny yn wahanol alar. Ac yna colli 'nhad chwe mis ar ôl colli chwaer.
Dwi dal yn dysgu beth yw galar. Mae'n dod ambell waith yn dawel bach ac ambell waith mae'n dod fel llif. Ac mae'n wahanol i bob un ohono' ni ac mae'n effeithio bob teulu mewn ffordd wahanol.
Patrymau galar
Dwi wedi bod yn grac a dod â lot o gwestiynau gerbron Duw o ran pam. Ddim pam fi ond pam pobl mor agos i fi yn mynd drwy sut amser caled.
Mae rhai pethau byddwn ni ddim yn gwybod nes bod ni'n gweld Duw wyneb yn wyneb. Mae Duw yn gyson a'n ffyddlon ac ar ein ochr ni.
Mae 'na dal lawenydd yn watcho'r plant - mae 'na lot o lawenydd.
Dwi yn ddiolchgar i Dduw am y ffaith bod fi'n eistedd fan hyn, bod y plant yn y tŷ a bod 'da fi deulu mor agos a bod Duw mor ffyddlon.