Mark Drakeford: Toriadau treth yn 'syfrdanol'

  • Cyhoeddwyd
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Honnodd Mr Drakeford y byddai'r gyllideb o fudd i'r rhai sy'n ennill cyflog uwch hyd at deirgwaith yn fwy na'r tlotaf

Mae pobl yn wynebu "gaeaf caled" wedi i lywodraeth y DU gyhoeddi toriadau treth "ysgytwol", yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'r gyllideb fach o fudd i'r cyfoethocaf tra bod y tlotaf yn wynebu adeg anodd.

Mae'r Canghellor Kwasi Kwarteng wedi amddiffyn y llu o doriadau treth fel "teg i bawb" wrth i bobl wynebu costau cynyddol.

Ond honnodd Mr Drakeford y bydden nhw o fudd i'r rhai sy'n ennill cyflog uwch hyd at deirgwaith yn fwy na'r tlotaf.

Mae'r felin drafod annibynnol, y Resolution Foundation, hefyd wedi honni y byddai pobl yng Nghymru £500 ar eu hennill diolch i doriadau treth, ar gyfartaledd, tra byddai'r rhai yn ne ddwyrain Lloegr yn elwa o gymaint â £1,600.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Yn ol y Canghellor, Kwasi Kwarteng, bydd y gyllideb yn annog tyfiant economaidd

Mae Ysgrifennydd Cymru, Syr Robert Buckland, wedi dweud bod y gyllideb yn edrych i'r tymor hir ac yn delio â heriau tymor byr fel costau ynni, gyda'r bil domestig cyfartalog yn cael ei gapio ar £2,500 y flwyddyn o fis nesaf ymlaen.

Galwodd Mr Drakeford y gyllideb fach yn "syfrdanol" a dywedodd ei bod yn nodi "dychweliad economeg voodoo" drwy "arbrawf llywodraeth sombi".

'Rhwygiadau'

Yn siarad ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales o flaen cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl ddydd Sul, dywedodd Mr Drakeford fod naws y gynhadledd yn gymysg â "synnwyr sobr iawn o realaeth ynghylch yr effaith y bydd y gyllideb yn ei chael".

Ychwanegodd y byddai'n effeithio'n "enwedig ar y bobl fwyaf bregus sydd angen yr help fwyaf ac ymdeimlad sobr iawn o'r rhwygiadau y bydd y gyllideb yn eu creu".

"Ac, ar yr un pryd, mae yna ymdeimlad gwirioneddol o ymrwymiad i roi o flaen pobol y Deyrnas Unedig raglen realistig ond radical y bydd llywodraeth Lafur newydd yn gallu ei chyflawni."

'Tyfu'r gacen'

Ond dywedodd Syr Robert fod y gyllideb yn nodi "trobwynt bwysig" i'r economi.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Syr Robert Buckland wedi amddiffyn cyllideb ei lywodraeth

"Rwy'n meddwl bod y llywodraeth yn llygad ei lle ar hyn o bryd i geisio tyfu'r economi oherwydd, trwy dyfu'r gacen, dyna'r ffordd y byddwn yn talu am well gwasanaethau cyhoeddus," meddai.

"Felly, mae hon yn gyllideb sy'n edrych i'r tymor hir yn ogystal ag ymdrin â rhai heriau tymor byr yn enwedig o ran costau ynni."

Cyflogau sector gyhoeddus

Yn nes ymlaen yny dydd fe ddywedodd Mr Drakeford y dylai gweithwyr sector gyhoeddus dderbyn codiadau cyflog sydd "o leiaf yn cyfateb â chwyddiant".

Wrth siarad ar BBC Politics Wales, dywedodd ei fod yn deall "y dicter sy'n cael ei deimlo gan bobl yn y rheng flaen" sydd wedi cael cynnig codiadau cyflog islaw chwyddiant gan lywodraeth Cymru, gan gynnwys gweithwyr y GIG ac athrawon, gyda chwyddiant y DU yn cyrraedd 9.9% yn Awst.

"Rydym wedi ceisio tynnu unrhyw beth y gallwn at ei gilydd i gynnig y cynnig gorau y gallwn ei wneud o fewn y cyfyngiadau sy'n ein hwynebu," meddai.