Osian Pryce yn cipio Pencampwriaeth Rali Prydain

  • Cyhoeddwyd
Noel O'Sullivan (chwith) ac Osian Pryce (dde)Ffynhonnell y llun, Motorsport UK
Disgrifiad o’r llun,

Noel O'Sullivan (chwith) ac Osian Pryce (dde) wedi iddynt gipio tlws Pencampwriaeth Rali Prydain

Mae'r Cymro Osian Pryce wedi sicrhau tlws Pecampwriaeth Rali Prydain Motorsport UK, yn dilyn buddugoliaeth yn Rali Trackrod Swydd Efrog dros y penwythnos.

Yn galw ar ei holl brofiad blaenorol, llwyddodd y gyrrwr 29 oed o Fachynlleth i sicrhau perfformiad di-ffael yn ei Volkswagen Polo GTi wrth iddo ef a'i gyd-yrrwr, Noel O'Sullivan, sicrhau'r fuddugoliaeth holl bwysig.

"Rydw i wastad wedi bod eisiau cael fy enw ar y tlws yna," meddai Osian wedi'r ras.

"Mae wedi bod yn broses mor hir i wneud i hyn ddigwydd ac mae'n rhaid i mi ddweud diolch yn fawr iawn i bawb.

"Rydyn ni wedi bod yn amyneddgar, felly rydw i mor falch ein bod ni wedi dyfalbarhau a chadw ato."

Mae ei lwyddiany yn golygu bydd enw Osian yn ymddangos ar y tlws sydd wedi ei hennill gan fawrion y gamp fel Colin McRae a Hannu Mikkola.

Pynciau cysylltiedig