Arestio saith yn dilyn trafferth yn gêm Cymru v Gwlad Pwyl

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tân gwyllt yn saethu o'r dorf yng ngêm Cymru v Gwlad Pwyl

Cafodd saith o gefnogwyr eu harestio yn y gêm bêl-droed rhwng Cymru a Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd nos Sul.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod y saith a arestiwyd yn eisteddle'r ymwelwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a bod pedwar wedi eu cyhuddo o fod â dyfeisiadau tân gwyllt yn eu meddiant.

Cafodd y tri arall eu harestio am fod yn feddw ac afreolus, trosedd hiliol o dan y drefn gyhoeddus, ac o fynd ar y cae.

Mae'r saith wedi eu cadw yn y ddalfa.

Ysmygu ac yfed alcohol

Mae unrhyw ddyfeisiadau tân gwyllt wedi eu gwahardd mewn meysydd pêl-droed yn y DU.

Cafodd Cymru ddirwy ar ôl i ganister mwg gael ei daflu ar y cae yn ystod y gêm yn erbyn Awstria ym mis Mawrth.

Yn ystod y gêm nos Sul cafodd sawl ffagl oleuo eu cynnau ymhlith y cefnogwyr yn eisteddle Gwlad Pwyl, cyn i dân gwyllt hefyd gael ei danio i'r awyr wedi i'r ymwelwyr sgorio.

Cafodd nifer o gefnogwyr Gwlad Pwyl eu hel o'r stadiwm am dorri rheolau, yn cynnwys ysmygu ac yfed alcohol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ffaglau golau yn cael eu dal gan y cefnogwyr oddi cartref yn ystod y gêm rhwng Cymru a Gwlad Pwyl

Mewn datganiad ar ran Heddlu'r De, dywedodd PC Christian Evans bod y mwyafrif sy'n mynd i gemau yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn mwynhau'r profiad mewn ffordd ddiogel.

"Mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi ennill enw da iddyn nhw'u hunain gartref a hefyd wrth ymweld â gwledydd eraill," meddai.

"Mae bod â dyfais tân gwyllt yn eich meddiant mewn gêm bêl-droed, neu geisio dod ag un i mewn i stadiwm bêl-droed yn drosedd, ac mae unrhyw un sy'n cael ei farnu'n euog o drosedd o'r fath yn wynebu gwaharddiad o gemau pêl-droed (Football Banning Order)."

Collodd Cymru o 0-1 yn yr ornest yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Sul, sy'n golygu eu bod yn disgyn o Gynghrair A i Gynghrair B.