Cymru'n disgyn o haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi disgyn o haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd a hynny wedi iddyn nhw golli 0-1 yn erbyn Gwlad Pwyl yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd yn rhaid i Gymru ennill nos Sul os oedden nhw am barhau i chwarae mewn adran yn erbyn gwledydd gorau Ewrop.
Di-sgôr oedd hi wedi'r hanner cyntaf gyda gêm llawn toriadau yn atal llif y chwarae.
Fe gafodd y ddau dîm sawl cyfle a'r ddau yn gymharol gyfartal - Cymru yn hyderus yn y chwarter cyntaf ac yna'r Pwyliaid yn bywiogi.
Wedi hynny fe gafodd Dan James a'i gyflymder gyfle da i Gymru ac wedi 41 munud roedd ergyd Brennan Johnson tua'r gôl yn gywir cyn i Dan James ei chicio'n llydan.
Roedd yna sawl arbediad gan Wayne Hennessey, golwr Cymru, ond bu bron iddo roi'r bêl yng ngôl ei hun wedi 39 munud. Ymhen rhai munudau roedd yna siom i Rhys Norrington-Davies wedi iddo gael carden felen am drosedd yn erbyn Robert Lewandowski.
Ar ddechrau'r ail hanner roedd carden felen i Neco Williams wrth iddo herio Bartosz Bereszynski, ac yna wedi 57 munud o chwarae roedd yna gôl i'r ymwelwyr wedi i Robert Lewandowski basio'n gelfydd i Karol Swiderski. Roedd Cymru felly angen dwy gôl i aros yn yr haen uchaf.
Roedd yna ambell ymgais tua'r gôl gan Gymru ar ddiwedd y gêm - yn eu plith peniad gan Bale a darodd y trawst - ond aros yn 0-1 wnaeth y sgôr wrth i Gymru ei chael hi'n anodd y rhan fwyaf o'r amser i adennill y bêl.
Roedd sawl wyneb cyfarwydd ar goll o'r garfan nos Sul gan gynnwys Aaron Ramsey, Joe Allen, Ben Davies a Harry Wilson sy'n absennol gydag anafiadau.
Hefyd ar goll roedd Ethan Ampadu a Chris Mepham oherwydd gwaharddiadau, wedi iddyn nhw gael eu hail gardiau melyn o'r ymgyrch yn y golled o 2-1 yn erbyn Gwlad Belg nos Iau.
Mae absenoldeb chwaraewyr allweddol wedi bod yn thema gyson i Gymru yn eu hymgyrch gyntaf yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd, gyda'r gêm dyngedfenol yn erbyn Wcráin fis Mehefin hefyd wedi effeithio ar baratoadau tîm Robert Page.
Nos Sul oedd y cyfle olaf i'r chwaraewyr i greu argraff yng nghrys coch Cymru cyn i Page ddewis ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022
- Cyhoeddwyd22 Medi 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022