Penodi dynes i arwain Heddlu'r Gogledd am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Amanda BlakemanFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Amanda Blakeman yn ymuno â Heddlu'r Gogledd o Heddlu Gwent, ble mae hi'n Ddirprwy Brif Gwnstabl

Mae Amanda Blakeman wedi cael ei phenodi fel Prif Gwnstabl newydd Heddlu Gogledd Cymru - y ddynes gyntaf erioed i arwain y llu.

Bydd Ms Blakeman yn ymuno o Heddlu Gwent, ble mae hi'n Ddirprwy Brif Gwnstabl.

Cadarnhawyd ei phenodiad gan Banel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru mewn cyfarfod ddydd Llun, a bydd yn dechrau yn ei rôl newydd ddiwedd mis Hydref.

Ymunodd Ms Blakeman â Heddlu Gorllewin Mercia yng nghanolbarth Lloegr yn 1992, cyn mynd ymlaen i fod yn Ddirprwy Brif Gwnstabl yno erbyn 2017.

Symudodd i'r un rôl gyda Heddlu Gwent yn 2019.

'Gwaith caled yn dechrau rŵan'

Dywedodd Ms Blakeman ei bod "ar ben fy nigon" wedi iddi gael ei chymeradwyo yn bennaeth ar Heddlu'r Gogledd.

"Fe fydda i'n rhannu fy strategaeth a chynlluniau ar gyfer y llu yn ehangach wedi i mi ddechrau [ar y swydd], fydd yn gosod fy ngweledigaeth ar sut i daclo trosedd ac amddiffyn pobl gogledd Cymru," meddai.

"Mae'r gwaith caled yn dechrau rŵan, ond mae'n her rydw i'n edrych ymlaen at ei chyrraedd."

Pynciau cysylltiedig