Deiseb meddyg yn galw am ddiddymu bwrdd iechyd Betsi

  • Cyhoeddwyd
Ysbytai ardal Betsi Cadwaladr
Disgrifiad o’r llun,

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r mwyaf yng Nghymru

Mae deiseb sydd wedi ei sefydlu gan feddyg presennol yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael ei "ddileu" am ei fod wedi "methu pobl gogledd Cymru".

Mae dros 700 o bobl bellach wedi arwyddo'r ddeiseb, gafodd ei chreu'r wythnos diwethaf.

Fe wrthododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru wneud sylw ar y ddeiseb a'i chynnwys.

Yn ôl y ddeiseb, mae'r bwrdd iechyd wedi gweld cyfres o benaethiaid "sydd heb eithriad wedi methu mynd i'r afael â'r trychineb sefydliadol enfawr sydd yng ngofal Betsi".

"Dydy gwasanaethau fasgwlaidd, gwasanaethau strôc, amseroedd aros trychinebus adrannau brys, iechyd meddwl ac amseroedd aros llethol ar gyfer llawdriniaethau wedi'u cynllunio ddim yn cael eu trin yn ddigon sydyn.

"Mae'n bryd cyfaddef bod y sefydliad yn llawer rhy fawr a lletchwith i ymateb i'r heriau sy'n ei wynebu, a bod angen ei rannu'n unedau daearyddol llai sy'n ymateb i anghenion eu poblogaethau lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd ei fod yn "sefydliad mawr a chymhleth"

Mae Dr Stefan Coghlan, a ddechreuodd y ddeiseb, yn gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fel anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cael eu beirniadu mewn sawl adroddiad damniol dros y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig am eu gofal fasgwlaidd a gwasanaethau iechyd meddwl.

Yn gynharach y mis yma fe gyhoeddodd y prif weithredwr presennol, Jo Whitehead, ei bod yn ymddeol am resymau personol, ar ôl cael ei phenodi lai na dwy flynedd yn ôl.

Ei holynydd fydd y nawfed prif weithredwr, gan gynnwys penaethiaid dros dro, mewn 13 mlynedd.

Mesurau arbennig

Bu'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig am dros bum mlynedd - oedd yn golygu rheolaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru - cyn dod allan o hynny ym mis Tachwedd 2020.

Ond ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd Llafur, Eluned Morgan y bydd mesurau ymyrraeth wedi'u targedu ar gyfer y bwrdd iechyd yn cael eu hymestyn i gynnwys gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.

Mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ad-drefnu iechyd yn y gogledd fel yr unig ateb i broblemau'r bwrdd.

Betsi Cadwaladr ydy'r bwrdd iechyd mwyaf yn y wlad yn ddaearyddol, ac mae hefyd yn gwasanaethu'r boblogaeth fwyaf.

Hyd yn hyn mae Ms Morgan wedi wfftio galwadau o'r fath fel rhai drud a diangen.

Mae unrhyw ddeiseb ar wefan y Senedd sy'n casglu dros 250 o lofnodion yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau.

Os yw'n cyrraedd dros 10,000 o lofnodion, caiff y ddeiseb ei hystyried ar gyfer dadl ar lawr y Senedd.

Bydd deiseb Mr Coghlan yn fyw ar wefan y Senedd tan 20 Mawrth y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig