'Gwell gan gleifion y gogledd fynd i ysbyty yn Lloegr'
- Cyhoeddwyd
Byddai'n well gan gleifion yn y gogledd deithio i Loegr am driniaeth pe baen nhw'n cael strôc yn hytrach na defnyddio adran frys Ysbyty Glan Clwyd, yn ôl rhai sydd wedi siarad â chorff gwarchod iechyd yn y gogledd.
Dyna ddywedodd pennaeth y Cyngor Iechyd Cymuned, sy'n cynrychioli cleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, wrth i adroddiad newydd ddatgelu difrifoldeb problemau'r adran sy'n wynebu trafferthion ers tro.
Mae Jo Whitehead, prif weithredwr y bwrdd iechyd, wedi ymddiheuro i gleifion "na dderbyniodd y gofal y maent yn ei haeddu" yn adran achosion brys Ysbyty Glan Clwyd.
Dywedodd bod staffio yn parhau i fod yn broblem yno.
Mae'r adroddiad diweddaraf wedi cynyddu'r pwysau eto ar y gweinidog iechyd i roi'r bwrdd iechyd yn ôl dan fesurau arbennig.
Mae Eluned Morgan eisoes wedi dweud y bydd yn ei adolygu eto cyn mis Hydref.
Mae adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn manylu ar ei rhesymau dros ddynodi'r adran yn 'Wasanaeth sydd Angen ei Wella'n Sylweddol' yn dilyn arolygiad dirybudd ym mis Mai.
Mae hyn yn golygu bod AGIC "o'r farn bod risg glir a sylweddol i ddiogelwch cleifion" yn yr adran.
Dim ond mis Tachwedd y llynedd y cyflwynwyd y broses hon, ond mae bellach wedi'i defnyddio ar gyfer dau wasanaeth yn y gogledd - yr adran achosion brys yng Nglan Clwyd a gwasanaethau fasgwlaidd.
Dywedodd Geoff Ryall-Harvey, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned gogledd Cymru, wrth y BBC mai "dyma'r sefyllfa waethaf i ni ei gweld."
"Mae pobl yn dweud wrthyn ni os ydyn nhw'n cael strôc maen nhw'n mynd yn syth i fyny i Lerpwl neu Arrowe Park, felly mae yna niwed i enw da'r uned a cholli hyder."
Er iddi ymddiheuro i gleifion, mae Jo Whitehead o'r bwrdd iechyd wedi mynnu ei bod wedi ymrwymo i weithio gyda staff i weld gwasanaethau iechyd yn gwella.
"Fi sy'n gyfrifol yn y pen draw," cyfaddefodd.
"Rwy'n cymryd y pryderon hyn yn hynod bersonol, yn anhygoel o ddifrif, a dyna pam rwy'n gwbl benderfynol o weithio drwy'r heriau gyda'n staff.
"Rwy'n teimlo'n hyderus ein bod yn rhoi'r camau cywir yn eu lle er mwyn gwella gwasanaethau ar gyfer gogledd Cymru.
"Dyna beth sy'n fy ngyrru i ymlaen - yr awydd i wella pethau i gleifion."
Roedd Mark Pullin o Fae Colwyn yn 42 mlwydd oed pan adawodd adran achosion brys Glan Clwyd yn oriau mân y bore.
Er ei bod yn gynnar ym mis Ionawr, gadawodd heb esgidiau am ei draed.
Dyna'r tro olaf iddo gael ei weld yn fyw.
Cafwyd hyd iddo'n farw ddyddiau'n ddiweddarach yn dilyn apêl gan yr heddlu.
Mae ei deulu'n dweud mai ei achos ef yw'r rheswm y dechreuodd AGIC ymchwilio i'r problemau yn yr adran, er ni wnaeth AGIC gadarnhau hynny.
Mae Jo Whitehead wedi cynnig ei hymddiheuriadau i'r teulu am yr hyn ddigwyddodd.
"Mae'n ddigwyddiad hynod o drist ac wrth gwrs hoffwn gynnig fy ymddiheuriadau hollol ddiffuant i ffrindiau a theulu," meddai.
"Roedd yn amgylchiadau anodd iawn, iawn iddo ef a'r rhai oedd yn ymwneud â'i ofal ac o ganlyniad i'r farwolaeth anffodus iawn honno rydym wedi rhoi camau ar waith i sicrhau bod ein trefniadau rhyddhau, yn enwedig ar gyfer rhai unigolion penodol, yn wirioneddol gadarn."
Mae'r cwest i'w farwolaeth yn parhau.
Beth mae adroddiad AGIC yn ei nodi?
Rhai o brif ganlyniadau'r adroddiad yw:
Roedd diogelwch yn annigonol ac yn golygu bod cyfleoedd i aelodau'r cyhoedd gael mynediad i ardaloedd heb gael eu herio;
Nid oedd cleifion yn cael eu monitro'n ddigon aml - gan gynnwys claf yr amheuir iddo gael strôc fu'n disgwyl yn yr ystafell aros am dros 17 awr gydag arsylwadau anaml;
Roedd rhai offer a meddyginiaeth yn rhy hen i'w defnyddio;
Roedd offer budr amlwg mewn cypyrddau, gan gynnwys gorchuddion thermomedr wedi'u staenio â chwyr clust a hyd yn oed hen ddillad isaf;
Roedd y staff yn teimlo'n rhwystredig ac yn bryderus ynghylch cleifion oedd angen mewnbwn seiciatrig. Yn ystod yr arolygiad roedd awgrym y gallai un claf gael ei rhyddhau heb gwblhau asesiad seiciatrig;
Roedd pryderon penodol hefyd ynghylch trin plant.
Gwelodd yr arolygwyr staff yn trin cleifion a'i gilydd ag urddas a pharch, ond dywedodd llawer o staff eu bod yn anhapus ac yn cael trafferth ymdopi â'u llwyth gwaith.
Dywedodd staff wrth yr arolygwyr hefyd "nad oeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan yr uwch-reolwyr yn yr ysbyty" â "diffyg cysylltiad sylweddol" rhwng staff ar y ward a'r rhai sy'n rhedeg y bwrdd iechyd.
Dywedodd AGIC ei bod yn bryderus nad oedd uwch reolwyr yn ymwybodol o rai o'r "materion difrifol iawn" a ganfuwyd yn yr arolygiad.
Daw'r manylion o'r ymweliad ym mis Mai wythnos ar ôl i'r gweinidog iechyd gyhoeddi y byddai ail ysbyty yn Lloegr yn cymryd rhai o'r cleifion fasgwlaidd o ogledd Cymru, oherwydd "breuder y gwasanaeth".
Mae rhai eisoes yn mynd i Lerpwl i gael llawdriniaeth, ond yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Eluned Morgan y gallai rhagor nawr fynd i Stoke.
Mae gwasanaethau fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sydd wedi'u canoli yn Ysbyty Glan Clwyd, o dan "ymyrraeth wedi'i thargedu" gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd - yr ail lefel uchaf.
Ond ym mis Mehefin fe wrthwynebodd Ms Morgan alwadau i gymryd y bwrdd iechyd cyfan yn ôl i fesurau arbennig.
'Safon is na'r disgwyl'
Mewn ymateb i ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "hynod bryderus a siomedig gyda chynnwys yr adroddiad".
"Mae'r safon hon o ofal yn sylweddol is na'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ar gyfer cleifion yng Nghymru," meddai.
"Fe wnaethon ni gymryd camau ar unwaith ym mis Mehefin drwy godi'r gwasanaeth hwn i statws Ymyrraeth wedi'i Dargedu a chychwyn ymyriad gwella i wneud newidiadau ar unwaith i sicrhau bod y gwasanaeth yn ddiogel.
"Rydym wedi ein sicrhau gan y bwrdd iechyd bod llawer o'r camau hyn bellach wedi'u rhoi ar waith a'i bod yn ddiogel i bobl barhau i fynychu'r adran achosion brys yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Rhaid cofio bod y mwyafrif o gleifion sy'n mynychu'r adran frys hon yn derbyn gofal da a diogel."
Cwestiynu "pryd ddaw hyn i ben" wnaeth Plaid Cymru mewn ymateb i'r adroddiad, a galw eto ar y gweinidog iechyd i weithredu ymhellach.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal: "Dyma wythnos arall ac adroddiad damniol arall, a mwy o bryderon am ddiogelwch cleifion. Pryd fydd hyn yn dod i ben?"
Dywedodd Darren Millar AS o blaid y Ceidwadwyr Cymreig, bod Llywodraeth Lafur Bae Caerdydd yn "methu pobl gogledd Cymru".
Fe gyhuddodd y llywodraeth o dynnu bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig "cyn etholiadau'r Senedd ar gyfer rhesymau gwleidyddol yn unig".
Adleisio hynny wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds AS, gan ddweud ei bod yn "gwbl glir" fod y bwrdd iechyd wedi ei dynnu o fesurau arbennig "cyn yr oedd hi'n addas i wneud hynny".
"Mae'n rhaid i gleifion a staff nawr gael eu sicrhau fod pethau'n mynd i newid gan y Blaid Lafur," dywedodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2022