Yfed a gyrru i fynd â'i fab bedydd i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd
GLan ClwydFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Liam Goodall-Keen wedi bod yn yfed caniau o lager cyn gyrru ei fab bedydd i Ysbyty Glan Clwyd

Mae dyn oedd yn poeni na fyddai ambiwlans yn cyrraedd i fynd â'i fab bedydd i'r ysbyty wedi colli ei drwydded am yfed a gyrru.

Cafodd Liam Goodall-Keen, 35, o Gayton Glannau Mersi, ei wahardd ar ôl i lys glywed ei fod wedi gyrru ei fab bedydd, pedair oed, i Ysbyty Glan Clwyd o dan ddylanwad alcohol.

Roedd wedi ceisio dadlau fod yr amgylchiadau'n rhai arbennig ac na ddylai golli ei drwydded, ond gwrthododd Ynadon Llandudno dderbyn hynny am nad oedd wedi gwneud unrhyw ymgais i ffonio 999 neu geisio cymorth gan rywun arall.

Roedd Goodall-Keen, plastrwr wrth ei alwedigaeth, wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Awst.

Cafodd ei arestio ym maes parcio'r ysbyty ar ôl cael ei ddilyn gan gar heddlu cudd.

Dangosodd prawf anadl fod ganddo 52 microgram o alcohol mewn 100 mililtr o anadl - 35mg yw'r trothwy cyfreithiol.

'Dioddef pwl o'r fogfa'

Clywodd y llys ei fod eisiau i'r ynadon glywed yr amgylchiadau cyn pennu'r ddedfryd.

Dywedodd y cyfreithiwr Huw Roberts fod y diffynnydd wedi bod yn ymweld â ffrindiau mewn parc gwyliau yn Y Rhyl ym mis Gorffennaf, pan ddioddefodd ei fab bedydd bwl o fogfa (asthma).

Daeth y digwyddiad toc wedi trafodaeth gyda pherson arall oedd ar ei wyliau a ddywedodd ei fod wedi gorfod aros bedair awr am ambiwlans pan oedd merch wedi llewygu mewn ardal nofio y diwrnod cynt.

Roedd y diffynnydd mor bryderus y byddai'n rhaid aros yn hir nes iddo benderfynu gyrru ei fab bedydd a thad y plentyn i'r ysbyty, er ei fod wedi yfed tri chan o lager.

"Roedd o'n argyfwng," meddai wrth y llys.

Roedd yn pryderu y gallai'r bachgen farw, meddai.

"Petawn i'n cael fy rhoi yn y sefyllfa yna eto a minnau'n mynd i achub bywyd pl;entyn, byddwn yn gwneud yr un peth eto," meddai.

'Heb geisio cymorth arall'

Dywedodd tad y bachgen, Paul Robinson, wrth y llys eu bod mewn panic pan gafodd ei fab, Luke, drafferthion anadlu ac roeddynt yn poeni y byddai'n rhaid aros yn hir am gymorth 999.

"Cynigiodd Liam ein gyrru ni - byddwn wedi gwneud yr un peth iddo fo pe bai ei blant yn yr un sefyllfa."

Ond pan gafodd ei groesholi, cadarnhaodd y diffynnydd nad oedd ef na theulu ei fab bedydd wedi ffonio 999 nac wedi ystyried gofyn am help arall - a ddim wedi ffonio tacsi i fynd â nhw i'r ysbyty bum milltir i ffwrdd.

Dywedodd cadeirydd yr ynadon, Ann Dickinson, er bod y llys yn cydymdeimlo a'i fod yn argyfwng dilys fe ddylai fod wedi chwilio am gymorth arall.

Clywodd y llys bod ganddo euogfarn arall am yrru dan ddylanwad cyffuriau yn 2019 a'i fod wedi cael ei wahardd am flwyddyn am y drosedd honno.

Cafodd ei wahardd am dair blynedd, gyda gostyngiad os bydd yn cwblhau cwrs ailhyfforddi, yn ogystal a dirwy o £660, a gorchymyn i dalu gordal dioddefwr (victim surcharge) £266 ac £85 o gostau.