Wrecsam: 'Cefnu ar addysg Gymraeg' o achos problemau trafnidiaeth

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dan ni'n 'stuck' yn fama - 'di o'm yn deg'

Mae'n "annheg" nad oes trafnidiaeth am ddim i chweched dosbarth ysgol uwchradd Cymraeg Wrecsam, yn ôl disgyblion a rhieni.

Dywedodd un myfyriwr sy'n byw mewn ardal wledig bod ei waith yn dioddef gan ei fod yn "poeni am sut i fynd adref" o Ysgol Morgan Llwyd.

Does dim gorfodaeth ar Gyngor Wrecsam i gynnig cludiant i addysg ôl-16.

Ond mae coleg sy'n darparu cyrsiau drwy gyfrwng y Saesneg yn y ddinas yn gwneud hynny.

Dywedodd AS lleol ei fod yn gwybod am 10 disgybl sydd wedi cefnu ar addysg Gymraeg oherwydd y problemau trafnidiaeth.

Yn ôl yr awdurdod lleol, maen nhw'n "deall pryderon rhieni unigol" ac yn ceisio'u datrys.

'Straen' o drefnu lifftiau

Cerddoriaeth, Cemeg, Ffiseg a Bioleg ydy pynciau Lefel-A Ifan Davies, sy'n byw ym mhentref gwledig Dolywern yn Nyffryn Ceiriog.

Oherwydd prinder trafnidiaeth gyhoeddus, mae o'n dibynnu ar deulu a ffrindiau i gyrraedd Ysgol Morgan Llwyd, sydd tua 18 milltir i ffwrdd yn nwyrain Wrecsam.

Ond mae ei gyfoedion sy'n mynd i Goleg Cambria i wneud eu cyrsiau drwy'r Saesneg yn cael bws o'r dyffryn.

Disgrifiad o’r llun,

Does dim gorfodaeth ar Gyngor Wrecsam i gynnig cludiant i addysg ôl-16, sy'n effeithio ar Ysgol Morgan Llwyd

"Dwi'n teimlo ei fod o ddim yn deg bod o mor hawdd i bobl gael o yn Saesneg, ac mae'r coleg 'mond deg munud i lawr y ffordd o'n chweched dosbarth i," meddai.

Mae'r straen o orfod trefnu lifftiau yn effeithio ar ei waith, ond mae'n dweud bod ei athrawon yn cydymdeimlo.

"Na'th o effeithio fi heddiw. Y wers olaf oedd ffiseg, ac o'n i methu gwneud y gwaith achos o'n i'n poeni am sut i fynd adref," meddai.

'Ddim yn teimlo'n deg'

Draw yn Yr Orsedd, yng ngogledd Sir Wrecsam, mae Nia Lederle yn rhannu'r un pryderon am fynediad at addysg Gymraeg.

Mae ei merch, Catrin, yn gorfod talu i fynd ar fws cyhoeddus i'r chweched yn Ysgol Morgan Llwyd, tra fod cymdogion sydd wedi dewis addysg Saesneg yn cael mynd i'w coleg nhw am ddim.

Disgrifiad o’r llun,

Nia Lederle: "Dan ni'n teimlo bod y gefnogaeth ddim yna i'r plant"

"Dydy o ddim yn teimlo'n deg, rîli," meddai.

"Mae'r cyngor yn cefnogi ysgolion Cymraeg... Mae 'na ysgol gynradd Gymraeg arall 'di agor mis Medi yma.

"Ond 'dan ni'n teimlo bod y gefnogaeth ddim yna i'r plant fynd ymlaen a gwneud Lefel A drwy'r Gymraeg."

Yn ôl Llyr Gruffydd AS, mae'n gwybod am ddeg disgybl sydd wedi troi at addysg ôl-16 cyfrwng Saesneg achos y sefyllfa o ran cludiant.

Mae'n credu bod y penderfyniad "gwleidyddol" i beidio ariannu trafnidiaeth i Ysgol Morgan Llwyd yn "tanseilio" amcanion ehangach y sir o ran addysg Gymraeg, sydd wedi eu gosod yn eu Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg, dolen allanol.

"Mae 'na uchelgais strategol gan y cyngor eu hunain i dyfu addysg Gymraeg yn y sir, felly os ydyn nhw o ddifri' ynglŷn â hynny, yna mae'n rhaid iddyn nhw ddarparu trafnidiaeth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llyr Gruffydd bod peidio ariannu trafnidiaeth i Ysgol Morgan Llwyd yn "tanseilio" amcanion ehangach y sir o ran addysg Gymraeg

Ategu hynny wnaeth Arwyn Davies, tad Ifan.

"Mae'r sefyllfa'n eitha' gwarthus, dwi'n meddwl - y ffaith bod gynnon ni ysgol Gymraeg yn yr ardal, yn Wrecsam, a dim trafnidiaeth i gymryd stiwdants y chweched yno," meddai.

"Be' sy'n poeni fi fwyaf rŴan ydy fod rhai pobl yn mynd i feddwl bod dim pwynt mynd â'u plant i addysg Gymraeg."

Mewn ymateb i sylwadau'r rhieni a Mr Gruffydd, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam eu bod yn "deall pryderon rhieni unigol" a'u bod yn gwneud popeth yn eu gallu i'w datrys.

Pynciau cysylltiedig