Heddwas yn gwadu ymosod ar fachgen 16 oed fu'n ei ffilmio

  • Cyhoeddwyd
Dean GittoesFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arolygydd Dean Gittoes yn gwadu cyhuddiad o ymosod trwy guro

Mae llys wedi clywed fod heddwas wedi ymosod ar fachgen 16 oed am ei fod "wedi cael digon ar freaks ar y we yn ffilmio a phostio clipiau ar-lein" o'r heddlu.

Mae'r Arolygydd Dean Gittoes, 49, yn gwadu cyhuddiad o ymosod trwy guro.

Mae'r bachgen 16 oed, nad oes modd ei enwi, yn honni fod yr Arolygydd Gittoes wedi bod yn ymosodol tuag ato a'i fod wedi ei dagu.

Cafodd fideo o'r bachgen yn ffilmio'r Arolygydd tu allan i orsaf heddlu Merthyr Tudful fis Awst 2021 ei ddangos i'r barnwr sirol yn Llys Ynadon Cwmbrân ddydd Llun.

Mewn cyfweliad heddlu a ddangoswyd i'r llys, dywedodd y llanc ei fod yn rhan o grŵp byd-eang sy'n ffilmio heddweision a sut maen nhw'n ymwneud â'r cyhoedd.

Dywedodd ei fod wedi mynd i'r orsaf heddlu ar ôl i aelod arall o'r grŵp ddweud wrtho ei fod wedi ffilmio'r Arolygydd Gittoes tua mis ynghynt.

Tynnu coler y bachgen

Yn y fideo o'r digwyddiad a ddangoswyd i'r llys, mae modd clywed yr Arolygydd Gittoes yn gofyn am enw'r bachgen, cyn dweud y gallai fod yn derfysgwr.

Yna, mae'n gofyn i'r llanc "beth wyt ti'n 'neud?" cyn cael yr ateb "Rwy'n ffilmio".

Mae'r fideo yna'n mynd yn ddu ond mae modd clywed yr hyn sy'n mynd ymlaen.

Dangoswyd fideo camerâu cylch cyfyng i'r llys hefyd, ble mae'r Arolygydd Gittoes yn gafael ym mraich y bachgen 16 oed a'i dywys i mewn i'r orsaf heddlu, ble gafodd ei arestio ganddo.

Clywodd y llys fod yr Arolygydd yn credu ei fod wedi gwneud y peth iawn wrth ddelio gyda'r sefyllfa.

Ond dywedodd y llanc fod yr heddwas wedi bod yn "ymosodol", wedi ei wthio, a'i fod wedi ei dagu.

Yn y fideo camerâu cylch cyfyng o'r digwyddiad, mae'n ymddangos fod yr Arolygydd Gittoes yn tynnu coler y bachgen.

Ffynhonnell y llun, Jaggery | Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei glywed gan farnwr sirol yn Llys Ynadon Cwmbrân

Dywedodd yr erlyniad fod yr heddwas hefyd wedi bod yn anghywir i ddefnyddio'r Ddeddf Derfysgaeth i'w arestio.

Maen nhw'n honni fod yr Arolygydd "yn ddig am yr hyn ddigwyddodd wythnosau ynghynt" a'i fod wedi "dweud ei fod wedi cael digon ar freaks ar y we yn ffilmio a phostio clipiau ar-lein".

Yn cael ei holi gan fargyfreithiwr yr Arolygydd Gittoes fe wadodd y bachgen 16 oed ei fod wedi gwawdio'r heddweision, gan ddweud nad yw'n "wrth-heddlu o gwbl".

Yn y fideo camerâu cylch cyfyng mae'r llanc i'w weld yn gwisgo cap a mwgwd du, ond fe wadodd ei fod wedi gwneud hynny er mwyn ceisio peidio â chael ei adnabod.

'Dim pryderon' am yr heddwas

Clywodd y llys dystiolaeth gan Leighton Winstone - aelod o staff sifil gyda Heddlu De Cymru oedd yn gweithio yn yr orsaf y diwrnod hwnnw.

Dywedodd ei fod wedi codi'r ffaith y gallai'r llanc fod yn risg i ddiogelwch cyn i'r Arolygydd Gittoes fynd i siarad gydag ef.

Ychwanegodd nad oedd yn teimlo fod unrhyw berygl i'w ddiogelwch ei hun, ond fod ganddo "ddim pryderon" am ymddygiad yr Arolygydd.

Dywedodd fod canllawiau'r llu yn awgrymu i swyddogion fynd i siarad a "bod yn gwrtais" gydag unrhyw un sy'n ffilmio tu allan i orsaf heddlu, ond nad oes modd eu hatal rhag ffilmio.

Clywodd y llys hefyd gan y Ditectif Arolygydd Katherine Morris, oedd ar alwad fel rhan o uned gwrthderfysgaeth Heddlu De Cymru y diwrnod hwnnw.

Fe wnaeth yr Arolygydd Gittoes ei ffonio hi ar ôl arestio'r bachgen ac egluro'r sefyllfa, ond dywedodd hi wrtho nad oedd hi o'r farn bod y llanc wedi cyflawni trosedd derfysgol.

Dywedodd fod yr alwad wedi mynd ymlaen am gyfnod eithaf hir, a'i bod wedi gorfod dweud: "Dydw i ddim am ddadlau gyda chi - rydw i wedi egluro fy nghyngor ac ni fyddaf yn ymchwilio ymhellach."

Mae'r achos yn parhau.