Marwolaeth Peter Ormerod: Rhyddhau dyn, 39, ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd
Peter OrmerodFfynhonnell y llun, Llun teulu / Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Peter Ormerod yn gyn-athro Mathemateg poblogaidd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin

Mae dyn wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn digwyddiad a arweiniodd at farwolaeth cyn-athro.

Cafodd Peter Ormerod, 75, ei anafu'n ddifrifol mewn digwyddiad ar Heol yr Orsaf, Porth Tywyn ger Llanelli ar nos Sadwrn 24 Medi.

Bu farw Mr Ormerod, oedd yn gyn-athro Mathemateg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin, rai dyddiau'n ddiweddarach.

Ddydd Llun fe ymddangosodd Hywel Williams, 39, yn Llys y Goron Abertawe ar gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth, dan amodau sy'n cynnwys byw a chysgu bob nos mewn cyfeiriad yng Nghaerdydd, adrodd i'w orsaf heddlu leol bob wythnos, a pheidio â mynd i Sir Gaerfyrddin.

Bydd gwrandawiad pellach yn cael ei gynnal ar 26 Hydref.

Pynciau cysylltiedig