Atgofion 'Rob y Bara' ar ôl 37 mlynedd o wasanaeth
- Cyhoeddwyd
Mae bara wedi bod yn feunyddiol am dros 37 mlynedd yng Nghwm Gwendraeth, diolch i Robert Bowen a'i fan.
Yn fwy adnabyddus fel 'Rob y Bara', mae o newydd roi'r gorau i ddosbarthu bara a bwydydd eraill fel cacennau cartref, wyau a llysiau i ddrysau pobl cefn gwlad.
Bu Robert yn rhannu ei hanes a'i atgofion ar raglen Ifan Evans, Radio Cymru yn ystod ei wythnos olaf o wasanaethu cartrefi, ffermydd, a chaffis ei ardal.
Dechrau'r daith gyda fan 'British Telecom'
Pan symudodd Robert a'i deulu i'r Tymbl pan oedd yn ei arddegau, roedd eu cartref gyferbyn â becws Morgan.
Roedd arogl bara ffres o'r ffwrn yn ei hudo i'r becws yn ogystal â'i awydd i ddysgu mwy.
Eglura: "Es i draw ryw fore i gael pip a gwrddes i'r perchennog sy' nawr yn dad-yng-nghyfraith i fi.
"A wedodd e, 'Pam smo ti'n dechre rownd fara?', a o'n i'n ysgol ar y pryd a wedes i 'go on te'. So es i a'n dad lawr i ocsiwn yn Abertawe a brynes i hen fan, hen fan British Telecom.
"Cliron ni fe i gyd mas a dyna pryd ddechreues i gnocio dryse, fel bachgen 17 oed oedd newydd basio ei dest!"
Cefnogaeth ffermydd cyfagos
Ffermydd â theuluoedd mawr oedd asgwrn cefn y busnes yn y dyddiau cynnar:
"Pryd 'ny oedd teuluoedd mawr, doedd dim byd iddyn nhw brynu deuddeg torth ar y tro. Sdim ffermydd fel'na i gael nawr, chi'n gwerthu un neu ddau dorth fach.
"Yr amser 'ny oedd teuluoedd mawr a phawb yn gweithio gartre ac o'n nhw'n bwyta fel ceffyle. Mae tipyn o gwsmeriaid 'da fi ers y dechre."
'Mae'n bryd i gwpla' wrth i gostau godi
Gyda llawer o sôn am gostau'n codi ar hyn o bryd, yr un yw pryder Robert a dyna sydd wrth wraidd ei benderfyniad i roi'r gorau i 'Rob y Bara'.
Eglurodd wrth Ifan: "Fel ti'n gwbod yn y byd ffarmio, mae prisau yn codi ac mae arna i ofn bod pethe fel gwenith a fflŵr yn mynd i fynd 'run ffordd a mae fertilizer a cêc yn mynd i fynd yn y byd amaeth.
"Fi 'di penderfynu fi ddim yn barod i drosglwyddo y codiadau mawr hyn i'r cwsmeriaid. Fi wedi penderfynu tra bod pethe yn gwd - mae'n bryd i gwpla nawr.
"Mae prisie pethe ni'n iwsio i ni 'neud bara ddim am ddod lawr yn yr amser byr. Smo fi'n teimlo yn gyfforddus i ofyn i rywun sydd wedi nghefnogi fi dros y blynydde i dalu ryw 30c y dorth yn fwy."
Gofalu am bobl yng nhgefn gwlad
Wrth yrru hyd lonydd gwledig Cwm Gwendraeth ar hyd y blynyddoedd, mae cludo bwyd i dai anghysbell a bod yn gymdogol yr un pryd wedi bod yn flaenoriaeth.
Meddai Robert: "Yr un fath â dynion post mas yng nghefn gwlad, mae'n bwysig bod pobl yn galw 'da rhai pobl yng nghefn gwlad neu bydde neb arall yn mynd.
"Fi 'di gweld sawl peth, rywun yn cwympo yn tŷ a neb 'di ffindio nhw. Fi 'di gorfod cleimio drwy ffenestri pobl sy' 'di cloi hunan mas.
"Fi'n cofio sbel yn ôl o'n i'n mynd heibio mam Grav, draw ym Mynydd y Garreg fynna a wedodd hi wrtha i, 'Nei di favour i fi, ei di mas i nôl bwced o lo i fi o'r sied lo.'
"Gwnaf wedes i a roddodd hi scuttle i fi, es i mas i'r sied lo, smo fi'n gwbod lle o'dd i'n cael glo ond oedd y twlpe glo - o'n nhw seis ffwtbol - weles i'm byd tebyg iddo fe!
"O'n i ffili ffindo mwrthwl yn unman so gorffes i fynd at y boi drws nesa i ffindo mwrthwl i dorri glo iddi!
"O'n nhw'n gofyn i ti neud pethe bydden nhw ddim yn gofyn i rywun o'n nhw ddim yn nabod."
Dim i guro torth wen, blaen!
Ar ôl dod i adnabod pobl Cwm Gwendraeth dros y 37 mlynedd ddiwethaf, mae Robert yn gwybod beth sy'n dwyn dŵr i ddannedd pobl y cwm.
"Blynydde nôl weden ni jest torth, bara gwyn, plaen, torri fe eu hunen - dim sliced - oedd yn gwerthu orau. Dim nonsens. Dim organic a'r pethe hyn â beetroot a seaweed ynddo fe, jest torth fowr, wen blaen.
"Mae pethe 'di newid dros y blynydde a pobl moyn pethe bach mwy iachus a phethe gyda llai o fat a siwgr. Ar ôl gweud 'ny fi'n gwerthu llawer mwy o pastries a cêcs nawr na fi 'di gwneud erioed. Mae'r wraig wrth gwrs wedi bod yn gwneud y cêcs dros y blynydde."
Bydd Robert yn gweld eisiau ei gwsmeriaid ffyddlon ond mae'n edrych ymlaen at y bennod nesaf iddo sef gyrru tancer olew. Meddai Robert: "Fyddai dal ar y rhewl!"
Hefyd o ddiddordeb: