Cymru heb dreth yn 'fwy o fudd' na chodi tâl ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
Maes gwersylla
Disgrifiad o’r llun,

Byddai treth dwristiaeth yn rhoi'r hawl i gynghorau i godi tâl ar ymwelwyr am letya yng Nghymru dros nos

Fe ddylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo Cymru fel gwlad sy' ddim yn trethu ymwelwyr, yn hytrach na bwrw 'mlaen gyda chynlluniau i godi treth ar dwristiaid, yn ôl arweinydd Cyngor Wrecsam.

Mae'r llywodraeth ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynigion i roi'r hawl i awdurdodau lleol i gyflwyno treth ar ymwelwyr.

Byddai tâl bychan yn cael ei godi ar bobl sy'n aros mewn llety dros nos yng Nghymru.

Ond dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard y byddai mwy o fudd o farchnata Cymru i'r gwrthwyneb, fel cyrchfan sydd ddim yn codi tal am aros.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn ystyried pob barn ynghylch sut orau i roi ardoll ar waith fel rhan o'r broses ymgynghori sy'n mynd rhagddi."

Beth yw'r cynllun?

Pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo, byddai gan bob cyngor lleol yn y wlad yr hawl i benderfynu a ydyn nhw am gyflwyno'r dreth ar ymwelwyr.

Byddai'r arian fyddai'n cael ei godi yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr ardal, i hyrwyddo twristiaeth leol.

Gallai hynny olygu gwario ar gadw traethau a phalmentydd yn lân, neu gynnal a chadw parciau, toiledau a llwybrau cyhoeddus.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Byddai arian o'r dreth dwristiaeth yn gallu cael ei wario ar gynnal a chadw atyniadau

Mae rhai awdurdodau wedi dweud y bydden nhw'n croesawu hynny i wneud iawn am y costau ychwanegol mae'r diwydiant yn ei roi arnyn nhw.

Ond mae rhai busnesau yn gwrthwynebu'r syniad, gan ddweud y gallai daro'r diwydiant ac ymwelwyr mewn cyfnod lle mae cadw dau ben llinyn ynghyd yn anodd.

'Ffôl â hithau'n adeg mor anodd'

Mae'r Cynghorydd Pritchard wedi dweud ei fod yn bendant yn erbyn y dreth: "Dydy busnesau drwy Gymru ddim yn ei chefnogi, a dwi'n creu y byddai'n ffôl, yn enwedig â hithau'n adeg mor anodd.

"Dwi'n credu mai'r hyn ddylai Llywodraeth Cymru ei wneud ydy edrych ar hyn mewn ffordd arall - a hyrwyddo'r ffaith ein bod ni'n wlad sy' ddim yn codi treth dwristiaeth. Dwi'n credu y byddai hynny o fwy o fudd i ni."

Yn ôl y Cynghorydd Prichard mae awdurdodau lleol yng Nghymu eisoes yn "gwneud yn dda" o ganlyniad i dwristiaeth, a cham gwag fyddai gwneud i ymwelwyr dalu costau ychwanegol.

"Be' sydd angen ei ddeall yma yw bod twristiaeth yn dod â miliynau o bunnau i'r wlad, a dwi'n credu bod nifer o awdurdodau yn gwneud yn bur dda ohono, o safbwynt yr arian maen nhw'n ei godi mewn meysydd parcio, y cynnydd mewn busnes, a phopeth arall."

Pwysleisiodd y Cynghorydd Pritchard hefyd nad yw am i'r dreth gael ei chyflwyno yn Wrecsam: "Yn fy marn i mae'n ffolineb. Fel arweinydd y cyngor fydda i ddim yn cefnogi cyflwyno hyn yn Wrecsam.

"Dwi'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn hir ar hyn cyn bwrw 'mlaen â'r cynlluniau. Dwi'n credu y byddai'n niweidiol i Gymru fel gwlad."

'Ystyried pob barn'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae llawer o wledydd ledled y byd yn codi ardoll ar ymwelwyr ac yn defnyddio'r arian er lles cymunedau a busnesau lleol a thwristiaid.

"Mater o ddewis i'r awdurdod lleol fydd codi ardoll neu beidio, ar sail anghenion yr ardal ond gallai wneud gwahaniaeth go iawn trwy godi refeniw newydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau a seilwaith lleol. 

"Byddwn yn ystyried pob barn ynghylch sut orau i roi ardoll ar waith fel rhan o'r broses ymgynghori sy'n mynd rhagddi."

Pynciau cysylltiedig