'Amser anghywir' i godi treth newydd ar ymwelwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmnïau twristiaeth a chwmnïau sy'n elwa o wariant ymwelwyr wedi dweud "nad nawr yw'r amser" i Lywodraeth Cymru ystyried codi treth ar bobl sy'n aros y nos yng Nghymru.
Mae cyfnod o ymgynghori cyhoeddus wedi dechrau ar y syniad o godi treth o'r fath ar ymwelwyr - gan gynnwys pobl o Gymru sy'n lletya dros nos.
Pe bai'r syniad yn cael ei gymeradwyo, penderfyniad cynghorau sir unigol fyddai a ydynt am ddefnyddio'r dreth newydd.
Ond mae rhai busnesau yn gwrthwynebu'r syniad gan ddweud y gallai daro'r diwydiant ac ymwelwyr mewn cyfnod lle mae cadw dau ben llinyn ynghyd yn anodd.
Dywedodd Chris Frost, Cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru: "Rydym yn deall yn iawn cymhelliad Llywodraeth Cymru o fod eisiau treth twristiaeth o ran bod rhai mannau poblogaidd wedi gweld mwy fyth o dwristiaeth.
"Rydym yn cydnabod fod Llywodraeth Cymru a'u partneriaid mewn llywodraeth yn teimlo fod ganddynt sêl bendith yr etholwyr, ond rydym o'r farn nad hwn yw'r cyfnod iawn i gynnal cyfnod o ymgynghoriad oherwydd y newidiadau economaidd a chymdeithasol sylweddol sydd wedi digwydd ers yr etholiad."
Ychwanegodd Mr Frost, sydd hefyd yn berchennog ar westy a thŷ bwyta'r Manorhaus yn Rhuthun: "Mae nifer o fusnesau yn dal i dalu am fenthyciadau cawsant o gyfnod Covid dwy flynedd yn ôl.
"Mae'r taliadau yna yn parhau tan 2026 ac i fusnesau bach fel un fi mae hynny dros £900 y mis."
Mae'r bwriad y llywodraeth o godi treth ar dwristiaeth yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Does yna ddim manylion wedi eu cyhoeddi o ran maint y dreth - ond mae yna awgrym y byddai'n "gost fechan fyddai'n cael ei godi ar bobl sy'n aros dros nos".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod nifer o wledydd eisoes yn codi treth o'r fath.
Byddai cynghorau sir sy'n penderfynu mabwysiadu'r dreth yn gallu defnyddio'r arian yn ôl eu dewis.
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y gallai gael ei defnyddio ar gyfer pethau fel diogelu amgylchedd ardaloedd sy'n denu twristiaeth.
Pe bai'n cael ei gymeradwyo gan y Senedd mae disgwyl y byddai'n cymryd rhai blynyddoedd cyn iddo ddod i rym yn llawn.
Dywedodd Rebecca Evans, gweinidog cyllid a llywodraeth leol: "Ein bwriad yw ysgogi'r syniad o rannu cyfrifoldeb o ran pobl leol ac ymwelwyr, i amddiffyn a buddsoddi yn ein hardaloedd lleol.
"Byddwn yn hyrwyddo'r syniad o dwristiaeth fwy cynaliadwy drwy ofyn i ymwelwyr - rhai o Gymru a thu hwnt - i wneud cyfraniad bach i wella ardaloedd lle maent yn ymweld â nhw."
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru roedd yna dros 90 miliwn o ymweliadau i Gymru cyn y pandemig yn 2019, gan olygu gwariant o dros £5.9bn.
O ran yr ymweliadau, roedd 10 miliwn yn ymweliadau dros nos, gan olygu gwariant o dros £2bn.
Ond yn ôl y ddogfen ymgynghorol "mae yna hefyd elfen o gost ynghlwm â thwristiaeth o ran y cymunedau dan sylw," gan roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau lleol.
Dywedodd Paul Williams, rheolwr cyffredinol Pier Llandudno, fod y syniad yn "un gwael iawn, yn enwedig gan mai ni yw un o'r prif atyniadau twristiaeth yn y gogledd".
"Rydym newydd ddod allan o Covid y llynedd, a'r peth olaf sydd ei angen yw treth ar dwristiaeth.
"Hwn yw un o'r prif sectorau yn y gogledd. Mae codi treth ychwanegol yn swnio'n wirion, yn enwedig rŵan."
Mae Richard Workman yn gyfarwyddwr ar wersyll Shell Island ym Mochras, Gwynedd, gydag 800 o safleoedd yno ar gyfer carafanau
Dywedodd fod yna "sawl cwestiwn sydd angen eu hateb" fel faint fydd y gost, ar gyfer pwy, a pwy fyddai'n gyfrifol am ei godi.
"Yn ôl be dwi wedi ei ddarllen bydd bob cyngor sir unigol yn gallu codi treth benodol eu hunain.
"Gallwch weld Gwynedd yn codi un pris a chyngor yn y de yn dweud 'da ni ddim angen ei wneud o'.
"Felly pe bai ni'n wynebu cost ychwanegol, a bod cyngor arall ddim yn gwneud hyn, fe allwn golli cwsmeriaid i ardal arall."
"Mae cael bobl o dros y ffin i ddod i ogledd Cymru yn beth digon anodd.
"Pe bai treth arall yn dod fe fydda nhw'n mynd i ddwyrain Lloegr. Bydd pobl y Midlands yn mynd i arfordir de Lloegr lle nad oes yna dreth o'r fath."
Ychwanegodd ei fod yn poeni y gallai treth ar dwristiaeth hefyd olygu cynnydd mewn gwersylla gwyllt.
Fe wnaeth BBC Cymru holi rai o'r gwersyllwyr ym Mochras.
Dywedodd Chloe Riley o Sir Derby: "Er mwyn dod yn ôl i Shell Island fe fyddwn i yn talu'r dreth... ond mae'n dibynnu faint fyddai'r gost."
Dywedodd ei phartner Matthew ei fod yn cytuno y byddai'n parhau i dalu oherwydd bod y lle yn hudolus.
Ond ychwanegodd: "Rydym yn genedl o drethdalwyr. Rydym y codi trethi ar bopeth. Felly pam cyflwyno treth newydd... just i fynd ar wyliau.
Mae David Langsdale wedi bod yn dod i Gymru i wersylla am sawl blwyddyn ond dywedodd y gallai treth newydd "wneud i mi ailfeddwl am fynd i rywle arall... rwy'n credu mewn talu trethi yn Derby ond pan dwi'n dod ar wyliau dylwn i ddim gorfod talu am unrhyw le arall".
Does yna ddim manylion wedi eu cyhoeddi o ran maint y dreth - ond mae yna awgrym y byddai'n "gost fechan fyddai'n cael ei godi ar bobl sy'n aros dros nos".
Costau ychwanegol 'yn syrthio ar y trethdalwr lleol'
Mewn sgwrs ar raglen Dros Frecwast, dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd - sir sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i ardaloedd fel Eryri a Phen Llŷn - y byddai yn bersonol yn croesawu treth twristiaeth "i wneud yn iawn am y gost ychwanegol mae'r diwydiant yn ei roi ar y pwrs cyhoeddus".
Dywedodd Dyfrig Siencyn: "Mae yna ddisgwyliad bod ni'n darparu, er enghraifft, toiledau o safon i ymwelwyr, meysydd parcio ychwanegol.
"Mae angen wardeinio yn aml iawn mewn rhai o'n mannau mwya' poblogaidd ni. Mae ein llwybrau ni yn diodde' yn ystod yr haf ac angen gwaith cynnal a chadw.
"Mae yna restr o bethe sydd ar hyn o bryd yn syrthio wrth gwrs ar y trethdalwr lleol, a 'dw i ddim yn credu bod hynny'n iawn, a dyle fod yr ymwelydd yn cyfrannu at y gost yna."
Dywedodd Mr Siencyn ei fod yn deall pryderon busnesau'r sector, ond bod niferoedd cynyddol ymwelwyr ag ardaloedd fel Eryri yn y ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael effaith ar gymunedau a'r amgylchedd.
Ychwanegodd bod dim sôn am "dreth sylweddol iawn" a bod dim tystiolaeth bod codi "Ewro neu ddau y llofft neu y pen" yn gwneud llawer o wahaniaeth i ddiwydiant twristiaeth gwledydd eraill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2022