Busnesau twristiaeth yn ofni blwyddyn galed

  • Cyhoeddwyd
Maes gwersylla Vanner, Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hi'n fwy munud olaf, mae hi'n arafach", medd perchennog un busnes gwyliau

Mae'r diwydiant twristiaeth yn ofni y bydd haf eleni'n anodd i fusnesau.

Wedi blwyddyn eithriadol o brysur yn 2021, mae cwmnïau'n dweud bod apêl gwyliau tramor, rhagor o ddewis o lety a chynnydd costau byw yn golygu eu bod hi'n anoddach llenwi ystafelloedd yr haf hwn.

Yn ôl un busnes hunanarlwyo, mae'r tymor yn "arafach" ac yn "fwy munud olaf".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn helpu'r sector trwy godi llai o dreth.

'Mae'r gystadleuaeth yn fwy'

Mae Delyth Rowlands yn rhedeg bythynnod gwyliau a maes gwersylla ar fferm y teulu ger Dolgellau, Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Robert Parry Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Delyth Rowlands, yma gyda'i gŵr Geraint, mae 'na "storm berffaith"

"Mae hi wedi bod yn arafach. Hyd at yr wythnos ddiwethaf roedd gen i bythefnos yn wag yn y tŷ mwyaf," meddai.

"'Da ni erioed wedi cael hynny o'r blaen.

"Felly mae hi'n fwy munud olaf, mae hi'n arafach. Mae 'na gyfuniad o ffactorau. Mae 'na storm berffaith."

Ymhlith y ffactorau hynny, yn ôl Delyth, mae'r ffaith bod rhagor o ddewis hunanarlwyo ar gael bellach.

"Mae'r bythynnod yma'n bod ers 15 mlynedd ac mae'r dewis rŵan o'i gymharu â 15 mlynedd yn ôl yn dra gwahanol.

"Mae'r gacen yn gorfod rhannu. A falle bod hynny'n beth da bod gan bobl fwy o ddewis. Mae'r gystadleuaeth yn fwy."

'Pobl yn bwcio'n hwyrach'

Nid busnesau hunanarlwyo yn unig sy'n gweld gwahaniaeth eleni.

Yn Rhuthun, Sir Ddinbych, mae Gavin Harris yn rhedeg gwesty'r Manorhaus.

"Y llynedd ym mis Awst roeddem ni dros 95% yn llawn," meddai.

"Ar hyn o bryd mae gennym ni bookings o flaenllaw o ryw 20-25%. Fysen ni wedi disgwyl bod hynny'n fwy erbyn rŵan."

Disgrifiad o’r llun,

Gavin Harris: "'Da ni ddim yn meddwl fyddwn ni'n agos at y ffigyrau oedd gennym ni y llynedd"

"Mae pobl yn bwcio'n hwyrach, last minute, ond fysen i wedi disgwyl efo gwyliau haf, a theuluoedd, bod nhw'n bwcio ychydig bach yn fwy ymlaen llaw.

"So gawn ni weld, ond 'da ni ddim yn meddwl fyddwn ni'n agos at y ffigyrau oedd gennym ni y llynedd."

'Pobl yn poeni am gostau byw'

Gyda llai o alw, cynnydd mewn Treth ar Werth a chymorth pandemig wedi gorffen, mae cynrychiolwyr y diwydiant yng Nghymru yn dweud bod pethau'n argoeli'n anodd i fusnesau.

Yn ôl Eirian Ifan sydd berchen bythynnod gwyliau Llannerch Goch yng Nghapel Garmon yn Sir Conwy - mae hi'n flwyddyn anarferol iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Bythynnod gwyliau Llannerch Goch, Capel Garmon

"Dwi wedi bod yn y [sector] lletygarwch ers 28 mlynedd ac erioed wedi ei gweld hi fel hyn," meddai. "Mae hi'n rhyfedd iawn.

"Rydan ni fel arfer yn llawn drwy'r tymor ond mae pobl yn bwcio funud diwetha' eleni, a ma' hi'n dawelach na'r arfer ym mis Medi a Hydref ar hyn o bryd.

"Rydan ni wedi llenwi dipyn erbyn hyn ond 'da ni wedi gorfod addasu tipyn a gwneud cynigion arbennig, gostwng prisiau a dwi'n cymryd cŵn mewn ambell fwthyn lle fyswn i ddim wedi gwneud hynny o'r blaen.

"Hefyd rydym am y tro cyntaf wedi dechrau cynnig gwyliau byr dymor tair i bedair noson.

"Dwi'n amau fod pobl yn poeni am gostau byw, eraill yn mynd dramor a mae yna ddipyn o fythynnod, podiau, glampio a llefydd ar wefannau a gwefannau cymdeithasol yn y farchnad erbyn hyn."

'Tawel iawn'

Yn ôl Jim Jones o Twristiaeth Gogledd Cymru, mae'r tymor yma'n annisgwyl.

"Roeddem ni'n disgwyl haf llewyrchus iawn, iawn er mwyn ein rhoi yn ôl ar ein traed ac ar yr un lefel â 2019," meddai.

"Ond mae eleni'n rhyfedd iawn, yn dawel iawn o'i gymharu â'r hyn rydan ni wedi arfer ag o."

Ffynhonnell y llun, Mandy Jones Photography
Disgrifiad o’r llun,

Jim Jones: "Mae popeth yn ein herbyn"

Mae'n dweud mai pryderon am gostau byw ydy'r broblem fwyaf gan gynnwys y gost o deithio ym Mhrydain.

"Mae 'na bryder yn y diwydiant achos maen nhw angen tymor da ar ôl dwy flynedd a hanner ofnadwy.

"Ond ar hyn o bryd mae popeth yn ein herbyn."

Cynnig cymorth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r diwydiant lletygarwch ac ymwelwyr i sicrhau eu bod yn cael haf llwyddiannus".

"Rydym yn sylweddoli bod hwn yn adeg pryderus i'r sector, gyda chwyddiant a chostau yn codi, a heriau staffio," meddai.

"Rydym yn cynnig pecyn o gymorth gwerth £116m o ryddhad treth i'r sector - sy'n golygu bod busnesau'n derbyn 50% o ryddhad treth yn 2022-23."