Busnesau 'mewn trwbl' os fydd treth ar ymwelwyr i Gymru

  • Cyhoeddwyd
CarafanauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae treth posib ar ymwelwyr a'r argyfwng costau byw yn bryder i rai perchnogion busnes sy'n dibynnu ar dwristiaeth

Mae 'na rybudd y bydd busnesau sy'n ddibynnol ar dwristiaeth yn cau os na fydd Llywodraeth Cymru yn dechrau gwrando ar bryderon y diwydiant.

Yn ôl Cynghrair Twristiaeth Cymru, mae trafodaethau ym Mae Caerdydd i gyflwyno ardoll twristiaeth yn pryderu eu haelodau.

Dywedodd un yn y diwydiant y bydd ei fusnes mewn "trwbl mawr" os oes treth ar ymwelwyr yn cael ei gyflwyno.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod trethi tebyg yn gyffredin ar draws y byd.

Penderfyniad 'trychinebus'

Mae ogofau Dan-yr Ogof ger Ystradgynlais, Abertawe wedi cael ei haf gorau ers dechrau'r pandemig.

Mae'r perchennog yn disgwyl y bydd lefelau incwm yn ôl i 90% o'r hyn yr oedd yn 2019.

Ond, mae Ashford Price yn pryderu na fydd pethau fyth yr un peth, yn enwedig os y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno treth ar ymwelwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ashford Price, perchennog Dan-y-Ogof yn Ystradgynlais yn poeni am bosibilrwydd treth ar ymwelwyr a'r effaith ar y busnes

"Os mai Cymru fydd yr unig wlad ddatganoledig i gyflwyno treth ar ymwelwyr ry'n ni mewn trwbl mawr," dywedodd.

"'Dan ni fel cwmni wedi cynnal arolygiadau, ac wedi gweld y byddai 70% o'r 2,000 o bobl gafodd eu holi yn dweud y byddai treth o'r fath yn cael effaith ar ble fyddan nhw'n dewis mynd ar wyliau."

Fe ddywedodd Mr Price bod y llywodraeth yn dilyn polisïau "gwrth dwristiaeth", a dyna pam fod Mark Drakeford ac aelodau ei gabinet wedi eu gwahardd o'r ogofau yn ddiweddar.

"Gyda chwyddiant efallai yn cyrraedd 18% y flwyddyn nesa', fe allai'r penderfyniad yma fod yn drychinebus i'r diwydiant."

Mae Hywel Davies yn berchennog ar barc carafanau bach yn Llangennech, Llanelli.

Mae'n cytuno nad nawr yw'r amser i gyflwyno treth o'r fath. Mae pethau wedi bod ddigon anodd wedi dwy flynedd o'r pandemig, meddai.

Ar ben hynny, mae 'na gysgod arall dros ei fusnes nawr, sef yr argyfwng costau byw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hywel Davies yn berchen ar barc carafanau yn Llangennech ac mae'r argyfwng costau byw yn gysgod ar ei fusnes

"Un o'n meters ni, o'n ni'n talu £4,000, os fydd pethau yn parhau fel y mae e, y flwyddyn nesa' mi fydd e'n £14,000.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar ble allwn ni dorri costau. Dwi ddim eisiau codi'r pris ond s'dim lot o ddewis gyda ni i fod yn onest.

"Ni'n lwcus mae'r bobl sy' yma, mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi ymddeol. Ond ma'r cynnydd mewn prisiau yn effeithio ar bawb, felly ni yn gofidio am y flwyddyn nesaf."

'Rhaid cymryd sylw'

Gyda'r pwysau'n cynyddu ar fusnesau twristiaeth, mae'r corff sy'n cynrychioli busnesau proffesiynol o fewn y diwydiant yn rhybuddio y gallai nifer benderfynu cau eu drysau.

Fe ddywedodd Suzy Davies, o Gynghrair Twristiaeth Cymru bod yn rhaid i weinidogion ddechrau gwrando ar bryderon cwmnïau o fewn y diwydiant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gwrando a chymryd sylw o bryderon y diwydiant yn ôl Suzy Davies o Gynghrair Twristiaeth Cymru

"Hoffwn i glywed gan y llywodraeth, eu bod nhw'n gwneud mwy 'na dim ond gwrando ond cymryd sylw o be' mae'r busnesau yn dweud wrthynt.

"Ry'n ni wedi clywed gan fusnesau bod nhw yn mynd i gau oherwydd nad ydyn nhw'n gwneud digon o arian neu maen nhw wedi cael digon o'r newidiadau sydd wedi eu cyflwyno gan y llywodraeth."

"Mae busnesau yn teimlo nad yw Llywodraeth Cymru yn gofalu amdanynt," ychwanegodd.

Amcangyfrifon 'syfrdanol'

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod ardollau ymwelwyr yn "gyffredin ledled y byd, gyda refeniw yn cael ei ddefnyddio er budd cymunedau, twristiaid a busnesau lleol.

"Rydym yn ymgynghori ar roi grym i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll a byddwn yn ystyried y sylwadau i gyd fel rhan o'r broses ymgynghori yn yr hydref."

Ond yn ôl llefarydd twristiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard, mae llywodraeth Lafur Cymru wedi "bygwth" treth dwristiaeth i'w diwydiant "am rhy hir, gyda dim amcan faint fyddai'n costio i fusnesau ac ymwelwyr".

Dywedodd Mr Giffard bod amcangyfrifon ei blaid ei hun yn "syfrdanol" a "bydd risg i fywoliaethau" gan fod "1 o bob 7 swydd yn ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth".

Ychwanegodd: "Mae yna amser o hyd i ailystyried a gwrando ar leisiau'r diwydiant, sydd yn amlwg yn unedig yn erbyn y polisi yma."