'Yr heriau mwyaf yn hanes gwasanaethau canser Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Claf yn cael sganFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gwasanaethau canser yng Nghymru'n wynebu'r "heriau mwyaf yn eu hanes" yn ôl un o arbenigwyr canser amlycaf y wlad.

Yn ôl yr Athro Tom Crosby mae'r cynnydd yn y galw wedi'r pandemig, law yn llaw â phrinder staff, wedi arwain at ddirywiad mewn amseroedd aros am driniaethau sy'n debygol o arwain at ostyngiad mewn cyfraddau goroesi.

Ond mae'r Athro Crosby - Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru - yn dadlau fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru eisoes wedi cymryd "cam anferth" yn yr ymdrech i wella'r sefyllfa.

Cymru yw gwlad gyntaf y DU i sefydlu cyfres o ganolfannau diagnosis canser cyflym (CDC) er bod gan rai rhannau o'r DU ambell ganolfan fan hyn ac acw.

Mae'r canolfannau yma wedi arwain at ostyngiad dramatig mewn amseroedd rhoi diagnosis i gleifion â symptomau aneglur neu amhenodol ond sydd â photensial i fod yn rhai difrifol - o nifer i wythnosau i ychydig ddiwrnodau.

Tra'n croesawu'r datblygiad, mae elusennau canser yn mynnu bod 'na waith sylweddol eto i'w gyflawni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ers rhai blynyddoedd, mae cyfraddau goroesi Cymru, a gwledydd eraill y DU, wedi bod yn is o'i gymharu â llawer o wledydd cyfatebol.

Mae'r straen ar wasanaethau wedi dwysáu yn dilyn y pandemig.

Awgryma'r dystiolaeth fod mwy o achosion canser unigolion yn cael eu cadarnhau'n hwyr.

Mae hynny'n rhannol am fod rhai cleifion, o bosib, wedi bod yn amharod i chwilio am help yn sgil ofn dal Covid, ond hefyd am fod gwasanaethau'n cael trafferth ymdopi â'r galw presennol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Tom Crosby'n rhagweld "dirywiad yn nhermau canlyniadau canser o ran goroesi, ansawdd bywyd a phrofiad y claf"

"Rydym yn wynebu cyfnodau mwyaf heriol i ni erioed eu profi o fewn gwasanaethau canser oedd eisoes yn fregus," meddai'r Athro Crosby.

"Mae'r galw'n uwch na'r capasiti ac mae hynny'n golygu bod cleifion yn cael diagnosis a thriniaeth yn hwyrach na fydden ni'n dymuno."

"Rydym yn mynd i weld dirywiad yn nhermau canlyniadau canser o ran goroesi, ansawdd bywyd a phrofiad y claf... rydym yn gweld ffigyrau perfformiad gwaeth nawr nag erioed o'r blaen."

Yn ôl y ffigyrau swyddogol diweddaraf, dim ond mewn 53.5% o achosion (853 o 1,594) y dechreuodd triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r amheuaeth cyntaf bod claf â chanser.

Mae hynny'n is o lawer na tharged Llywodraeth Cymru, sef 75%, - y ganran fisol waethaf ond un ers cyflwyno targedau newydd yn 2021.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa ar hyn o bryd "wir yn argyfwng" medd Richard Pugh, pennaeth elusen Macmillan yng Nghymru

Dywed elusennau canser bod gwasanaethau dan straen enfawr.

"Mae wir yn argyfwng," medd Richard Pugh o'r elusen ganser Macmillan.

"Ni'n gwybod fod pobol wedi bod yn cael symptomau yn ystod cyfnod Covid ond bellach ma' nhw'n dod nôl i mewn i'r system.

"Mae'r system wedi cael ei swampio a nid gan bobol sydd angen mân driniaethau ond pobl sydd angen triniaethau mawr."

"Ma' staff wedi blino a rhai yn ymddeol. Mae pethau'n ddrwg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cymaint yw maint yr heriau mae'r arbenigwyr yn dadlau fod mwy o angen nag erioed i'r gwasanaeth iechyd fabwysiadu dulliau newydd ac arloesol o weithio.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i sefydlu cyfres o Glinigau Diagnosis Cyflym ar lefel genedlaethol ar sail model gafodd ei ddatblygu yn Nenmarc.

Gall cleifion gael eu cyfeirio i'r clinigau os yw meddyg teulu'n amau eu bod â chanser ond ddim eto'n arddangos symptomau amlwg canser penodol.

O fewn ddyddiau gallai claf gael cyfres o brofion a sganiau yn y clinigau sy'n angenrheidiol i gael diagnosis i ddangos a yw canser yn bresennol ai peidio.

Mae tua un o bob tri yn cael gwybod bod cyflwr difrifol arall, yn hytrach na chanser, arnyn nhw.

Cynt fe allai cleifion â symptomau amhenodol dreulio misoedd lawer yn cael eu hanfon yn ôl ac ymlaen at wahanol arbenigwyr.

Disgrifiad,

Dyw'r clinigau ddim yn ateb pob problem, ond mae'n gwneud gwahaniaeth, meddai Ann Myfanwy Jones

"Mae'r clinigau hyn ar gyfer pobl sydd â symptomau sydd ddim yn glir," medd Ann Myfanwy Jones, un o uwch reolwyr rhaglen cyflwyno'r clinigau.

"Mae'r meddyg yn amau fod canser yn rhywle ond dyw'r cleifion ddim yn addas ar gyfer llwybrau ar gyfer tiwmor penodol, y frest, y coluddyn, yr ysgyfaint ac yn y blaen.

"Cyn sefydlu'r clinigau roedd y cleifion yma yn cael ei bownsio o amgylch y system i gael prawf fan hyn a phrawf fan draw, oedd yn cymryd amser."

'Ddyle'r clinigau yma fod ym mhobman'

Tua 10-20% o'r bobl sy'n mynychu'r clinigau sy'n cael diagnosis o ganser yn y pen draw ond gall y clinigau ddod o hyd i gyflyrau difrifol eraill.

Ar ôl datblygu poen o dan ei bol a cholli lot o bwysau ddechrau'r flwyddyn, fe wnaeth Meirwen Hyett o Glydach ddechrau poeni.

"O'n i'n gofidio'n ofnadw achos oedd mam wedi marw o ganser y stumog," meddai

"'Nath y meddyg teulu fy anfon i draw i'r clinig yn Ysbyty Castell Nedd Port-Talbot ac o fewn wythnos roeddwn i yma, ges i X-rays, profion, gweld doctoriaid, blood pressure a phob dim."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Meirwen Hyett reswm i boeni gan fod hanes o ganser o fewn y teulu

Er mawr ryddhad iddi fe gafodd Meirwen gadarnhad ar ôl yr holl brofion nad oedd ganddi ganser.

Ond mi gafodd ddiagnosis o glefyd Paget's - cyflwr sy'n gallu effeithio ar yr esgyrn. Bellach mae'n disgwyl triniaeth am hwnnw.

"I 'weud y gwir o'dd y broses yn ffantastig, achos os y chi'n gofidio y chi'n mynd yn fwy tost.

"Ma' hyn wedi gwneud fy meddwl i yn dawel a rhoi ail gyfle i fi symud mlaen.

"Wy'n credu ddyle'r clinigau yma fod ym mhobman."

O le daeth y syniad?

Yn 2016 fe benderfynodd grŵp o arbenigwyr canser o Gymru ymweld â Denmarc i weld sut y llwyddodd y wlad honno i drawsnewid gwasanaethau a gwella cyfraddau goroesi.

Roedd sefydlu Canolfannau Diagnosis Cymru yn ganolog i'r ymdrech.

Flwyddyn wedi'r ymweliad hwnnw fe gafodd dau glinig eu treialu yn ardaloedd byrddau iechyd Bae Abertawe a Cwm Taf Morgannwg.

Awgrymodd ymchwil fod sefydlu'r canolfannau wedi gostwng y cyfnod aros am ddiagnosis i glaf â symptomau amhenodol o tua 80 o ddiwrnodau i tua chwech.

Ers hynny mae clinigau tebyg wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru sy'n golygu fod modd i bob meddyg teulu gyfeirio rhywun maen nhw'n amau sydd â chanser i gael profion a sganiau cyflym.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen "ymfalchïo" yn llwyddiant y clinigau diagnosis cyflym, medd y radiolegydd Siân Phillips

"Rydym ni wedi wedi llwyddo fan hyn a llwyddo yn genedlaethol," medd Siân Phillips, radiolegydd oedd yn rhan o'r tîm wnaeth sefydlu'r clinig cyntaf yn Ysbyty Castell Nedd Port-Talbot.

"O'r dechre oeddwn ni'n gw'bod mai dyma oedd y peth iawn i wneud... a bellach ma' pob ardal yng Nghymru yn gallu manteisio. Dylen ni weiddi am hyn ac ymfalchïo yn hyn."

Ac o gael tawelwch meddwl yn dilyn ei hymweliad hi â'r clinig, dyw hi ddim yn syndod fod Meirwen Hyett yn ategu'r farn honno.

"Ma' rhywbeth ma' Cymru yn gallu ei wneud yn dda yn bluen yn ein cap ni... Ma' hala awr a hanner mewn clinig lot yn well na aros tri mis!"

Pynciau cysylltiedig