Canser yng Nghymru: 37% yn cael diagnosis mewn unedau brys

  • Cyhoeddwyd
Lucy Molloy
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy Molloy yn ddiolchgar i'r gwasanaeth iechyd am ddiagnosis cyflym - ond doedd ei thad ddim mor lwcus

Mae mwy nag un o bob tri achos o ganser yng Nghymru yn cael diagnosis ar ôl i bobl fynd i'r ysbyty fel achosion brys, yn ôl ymchwil newydd.

Daeth yr astudiaeth gyntaf o'i fath i'r casgliad fod 37% o ganserau wedi'u darganfod mewn adrannau brys ar ôl i gleifion gael eu rhuthro i'r ysbyty, cyfran sy'n debyg i wledydd eraill y DU.

Mae Cancer Research UK yn poeni bod hyn yn golygu bod diagnosis hwyr o ganser yn digwydd yn rhy aml, sy'n golygu bod gan gleifion lai o siawns o wella.

Mae'r elusen nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth uchelgeisiol er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa.

Mae Lucy Molloy, sy'n 35 oed ac yn fam i ddau, yn ddiolchgar i'r gwasanaeth iechyd am ddiagnosis cyflym o ganser.

Ond mae'n dweud bod angen gwelliannau ar ôl i'w thad farw yn dilyn diagnosis hwyr o ganser y prostad mewn adran brys ysbyty.

Daeth Lucy, o Gasnewydd, o hyd i lwmp yn ei bron tra ar absenoldeb mamolaeth ym mis Awst y llynedd.

Cyfeiriwyd at glinig y fron ar unwaith a dywedwyd wrthi fod ganddi ganser y fron gradd 2 ychydig wythnosau'n ddiweddarach.

Cafodd Lucy chwe rownd o gemotherapi a chafodd lawdriniaeth mastectomi ym mis Chwefror.

Mae Lucy wedi cael gwybod nad yw'r canser wedi lledu, ac mae'n aros i glywed a fydd hi'n cael triniaeth radiotherapi.

Roedd stori ei thad Alan yn wahanol iawn.

Aeth at y meddyg teulu bum gwaith yn 2018 gyda phoen cefn difrifol a gwendid yn ei goesau ond ni chafodd ei gyfeirio am brofion pellach.

Ffynhonnell y llun, Lucy Molloy
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Alan Molloy yn 74 oed yn 2020 - 18 mis ar ôl ei ddiagnosis canser

Dywedodd Lucy: "Roedd fy nhad mor ffit a byddai'n mynd ar reidiau beic 13 milltir. Ni fyddai byth yn mynd at y meddyg teulu a phan aeth, roedd ganddo boen cefn ofnadwy a gallech weld ei fod yn eithaf sâl.

"Ond dywedwyd wrtho ei fod yn iawn a'i fod wedi tynnu cyhyrau.

"Roedd ei ddau apwyntiad diwethaf dros y ffôn gan ei fod yn rhy wael i gyrraedd y feddygfa hyd yn oed."

Cafodd ei thad, cyn is-olygydd papur newydd y South Wales Argus, ddiagnosis yn y pen draw ar ôl mynd i'r adran frys yn Ysbyty Brenhinol Gwent mewn poen difrifol.

Dywedodd Lucy: "Cafodd ddiagnosis o ganser y prostad cam 4 o fewn 24 awr ar ôl mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys.

"Roedd y canser wedi lledu i'w asgwrn cefn, ei asennau a'i belfis a dyna pam yr oedd mewn cymaint o boen."

Bu farw Alan yn 74 oed yn 2020 - 18 mis ar ôl ei ddiagnosis.

Beth mae'r ymchwil yn ei ddweud?

Daeth ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain i'r canlyniad fod dros draean o gleifion yng Nghymru (37.4%), Lloegr (37%) a'r Alban (38.5%) wedi cael diagnosis ar ôl cael eu rhuthro i'r ysbyty.

Yng Ngogledd Iwerddon, a gafodd ei fesur gan ddefnyddio diffiniad gwahanol, roedd cyflwyniadau brys yn cyfrif am dros chwarter (27.9%) o bob diagnosis.

Dyma'r tro cyntaf i ffigyrau o wledydd y DU gael eu dadansoddi ochr yn ochr â data o wledydd tebyg.

Mae'n ystyried data gan Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU).

Disgrifiad,

Galw ar y llywodraeth i weithredu wrth i ymchwil ddangos bod nifer yn cael diagnosis canser yn rhy hwyr

Dywedodd Katie Till, rheolwr materion cyhoeddus Cancer Research UK yng Nghymru: "Mae'r astudiaeth hon yn wirioneddol bryderus.

"Mae'n cadarnhau bod gormod o bobl yng Nghymru ond yn cael diagnosis o ganser ar ôl i'w hiechyd waethygu i bwynt pan allai fod angen eu rhuthro i'r ysbyty.

"Mae hyn yn peri pryder oherwydd bod gwledydd sydd â lefelau uwch o gyflwyniadau brys gyda ffigyrau goroesi canser is.

"Os ydym am adeiladu gwasanaeth canser o'r radd flaenaf yng Nghymru, mae angen i ni ddysgu o wledydd tebyg a sicrhau bod llai o gleifion yn cael diagnosis o ganser ar ôl atgyfeiriad brys neu drip i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys."

Ffynhonnell y llun, CRUK
Disgrifiad o’r llun,

Katie Till: 'Mae'r astudiaeth hon yn wirioneddol bryderus'

Ychwanegodd: "Er gwaethaf ymdrechion gorau ei weithlu, mae'r GIG yn crefu o dan bwysau'r pandemig, prinder staff a diffyg buddsoddiad cyffredinol.

"Rydyn ni'n gwybod mai un rheswm pam mae cymaint o bobl yn mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys yw oherwydd nad oes gennym ddigon o staff a phecyn i brofi a diagnosio canser drwy'r llwybrau arferol.

"Mae angen cynllun canser uchelgeisiol wedi'i ariannu'n llawn i sicrhau bod y GIG yng Nghymru o'r radd flaenaf ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

"Heb hyn, gallai goroesi canser fynd yn ôl.

"Mae cleifion yng Nghymru yn haeddu gweithredu gwell a brys i wella gwasanaethau canser nawr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr effaith mae'r pandemig yn ei gael ar wasanaethau canser ac wedi gwneud adfer canser yn flaenoriaeth i GIG Cymru.

"Rydym wedi darparu £5m o adnoddau ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i gefnogi apwyntiadau canser ychwanegol ac rydym yn buddsoddi miliynau yn fwy o hyfforddiant i glinigwyr canser ychwanegol ac yn gosod yr offer trin diagnostig a radiotherapi diweddaraf.

"Mae meddygon teulu yng Nghymru yn cyfeirio'r nifer uchaf o bobl erioed i ymchwiliadau pellach ac mae Canolfannau Diagnostig Cyflym yn cael eu cyflwyno i helpu i adnabod pobl sydd â symptomau canser amwys."

Pynciau cysylltiedig