Ynni: 'Llywodraeth yn anghofio ardaloedd tu hwnt i'r grid'
- Cyhoeddwyd
Mae gwneuthurwr caws o Gymru wedi dweud bod y llywodraeth yn "anghofio" ardaloedd nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad nwy wrth iddyn nhw frwydro gyda chost gynyddol y tanwyddau amgen maen nhw'n eu defnyddio ar gyfer gwresogi.
Mae eraill yn galw am eglurder ynghylch pryd a sut y byddai cymorth sydd wedi'i gyhoeddi ar gyfer aelwydydd nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif gyflenwad nwy yn cael ei dalu.
Nid yw olew a nwy petrolewm hylifedig (LPG) yn dod o dan y cap ar brisiau ynni a ddaeth i rym ar 1 Hydref.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd cartrefi oddi ar y grid yn cael £100 ychwanegol ar ben taliad o £400 i bawb.
Mae disgwyl i fanylion cymorth i fusnesau oddi ar y grid gael eu cyhoeddi'n fuan.
'Mynd trwy'r to'
Dywedodd John Savage-Onstwedder, perchennog Caws Teifi yn Llandysul, fod ei gostau ynni yn "mynd trwy'r to".
Mae'r busnes yn defnyddio nwy petrolewm hylifedig i wresogi ei adeiladau a'r dŵr y mae'n ei ddefnyddio i gynhesu llaeth.
Mae pris LPG wedi mynd o 40c y litr i 82c ac mae ei wariant blynyddol ar danwydd a thrydan wedi cynyddu o £20,000 i £40,000.
Dywedodd nad yw pecyn cymorth ynni'r llywodraeth yn rhoi chwarae teg i bob busnes.
"Pe bawn i'n gwneud caws gadewch i ni ddweud yn yr ardal drefol, neu yn y ddinas, mi fyddai gen i fantais cap pris y prif gyflenwad nwy a thrydan, ond yn byw mewn ardal wledig rydym dan anfantais."
'Wedi ein hanghofio'
Mae eisoes wedi codi pris caws i helpu i dalu costau cynyddol, ond mae'n ofni gwneud hynny eto oherwydd y rheidrwydd i aros yn gystadleuol.
"Mae'n fy nghadw i'n effro yn y nos," meddai.
"Mae gen i 22 o bobl [gweithwyr], ond mae hefyd eu teuluoedd - dyna tua 40 o bobl sy'n dibynnu am eu bywoliaeth ar yr hyn ry'n ni'n ei wneud yma."
Ni all mwy o fanylion am becyn cymorth y llywodraeth ar gyfer busnesau oddi ar y grid ddod yn ddigon buan iddo.
"Pam sydd rhaid i ni aros mor hir mewn ardaloedd gwledig? Mae eisoes wedi'i gyhoeddi ar gyfer pobl sy'n byw yn y dinasoedd.
"Rydyn ni ar waelod y pentwr, rydyn ni wedi ein hanghofio, a dweud y gwir", ychwanegodd.
Mae'r cyflenwr tanwydd annibynnol Oil 4 Wales wedi cyflwyno cyflenwad untro o 800 litr o olew gwresogi am ddim i gwsmeriaid 80 oed a hŷn sydd wedi bod gyda'r cwmni am o leiaf dwy flynedd.
"Mae'r henoed yn arbennig yn cael trafferthion," meddai'r sylfaenydd Colin Owens.
"Rydyn ni'n ei glywed bob dydd, pobl ar y ffôn sydd wedi colli anwyliaid.
"Maen nhw'n anobeithio, dydyn nhw ddim yn gallu fforddio'r tanwydd y ffordd mae prisiau wedi mynd."
Un sy'n elwa o gynllun Oil 4 Wales yw'r peiriannydd Alan Ellis, 92 oed, o Langain.
Mae'n teimlo'n "ffodus" y gall "fwy neu lai" fforddio ei gostau ynni gyda chefnogaeth a pheth cwtogi.
"Rwy'n credu'n gryf mewn cadw fy hun yn gynnes, ond y gaeaf yma dwi wedi rhoi persbectif hollol wahanol ar bethau.
"Mae'n rhaid i bawb feddwl ddwywaith cyn iddyn nhw droi'r thermostat i fyny, a dwi'n un o'r rhai fydd yn gwneud hynny," meddai.
"Pa olew sydd gen i, rydw i eisiau gwneud iddo bara cyhyd ag y galla' i."
Dywedodd y grŵp ymgyrchu, y Gynghrair Cefn Gwlad, fod taliad ychwanegol y llywodraeth o £100 ar gyfer cartrefi oddi ar y grid yn "ddiferyn yn y môr".
"Mae cymunedau gwledig ar eu colled oherwydd nad yw'r polisi wedi'i brofi o safbwynt gwledig," meddai Rachel Evans, cyfarwyddwr y sefydliad dros Gymru.
Mae ASau mewn ardaloedd gwledig hefyd wedi codi pryderon am y sefyllfa.
Mae AS Plaid Cymru Ceredigion, Ben Lake, wedi galw am gyflwyno cynllun talebau.
Tra bod AS Ceidwadol Dyffryn Clwyd, Dr James Davies wedi dweud ei fod wedi siarad gyda gweinidogion yr wythnos hon i'w hatgoffa o bryderon am y mater.
Dywedodd un o swyddogion Llywodraeth y DU: "Rydym yn cydnabod bod pobl yn cael trafferth gyda chostau byw cynyddol, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio olew gwresogi i wresogi eu cartrefi.
"Dyna pam, yn ogystal â thaliad o £400 o fis Hydref i fis Mawrth a Gwarant Pris Ynn dwy flynedd ar gyfer eu costau trydan, byddwn yn darparu taliad pellach o £100 i aelwydydd sydd oddi ar y grid nwy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Awst 2022
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2022