Teyrnged teulu i ddyn fu farw yn Sir Y Fflint

  • Cyhoeddwyd
StevenFfynhonnell y llun, Llun teulu / Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Steven Wilkinson, a oedd yn byw yn lleol, ar ôl digwyddiad ym Mwcle

Mae teulu dyn fu farw yn dilyn ymosodiad yn Sir Y Fflint wedi talu teyrnged iddo.

Bu farw Steven Wilkinson, 23, ar ôl yr ymosodiad yn Precinct Way yn nhref Bwcle am 22:30 nos Fawrth.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon, bu farw yn yr ysbyty, medd Heddlu Gogledd Cymru.

Mae dyn o Fwcle wedi cael ei arestio ac yn parhau yn y ddalfa mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Cafodd dynes, sydd hefyd o'r dref, ei harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr ond cafodd ei rhyddhau heb gyhuddiad yn ddiweddarach.

'Bywyd fyth yr un peth'

Mewn teyrnged, dywedodd ei deulu fod Steven "mor frwdfrydig" am bopeth mewn bywyd.

"Nid yn unig y mae wedi gadael gwacter yn ein calonnau, ond yn ein bywydau hefyd.

"Fydd bywyd byth yr un peth hebddo."

Fe wnaeth y teulu ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.

Mae'r heddlu'n apelio am ragor o wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig