Ysgrifennydd Cymru o blaid gwyliau Dydd Gŵyl Dewi
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi datgan ei gefnogaeth i ddynodi Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl y banc yng Nghymru.
Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth y DU wrthod galwadau i'w wneud yn wyliau cyhoeddus, er bod y syniad wedi ei gefnogi gan Senedd Cymru.
Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn dathlu diwrnodau o wyliau ar ddyddiau eu nawddseintiau, ond dydy pwerau tebyg dros ddynodi gwyliau banc ddim wedi'u datganoli yn yr un modd i Fae Caerdydd.
Mewn ymateb i Gyngor Gwynedd - oedd wedi anfon llythyr at weinidogion yn galw am ddynodi 1 Mawrth fel gŵyl y banc - dywedwyd byddai gwyliau ychwanegol yng Nghymru yn arwain at gostau ac anghyfleustra economaidd sylweddol.
Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C, mae Syr Robert Buckland wedi awgrymu y dylid rhoi'r gorau i ŵyl banc arall er mwyn gwneud lle ar gyfer dathliad ar 1 Mawrth.
'Rhaid bod yn ofalus'
Mae Calan Mai, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, wedi bod yn ŵyl banc yn y DU ers 1978.
Ond argymhelliad personol Ysgrifennydd Cymru yw y gall gweithwyr yng Nghymru dderbyn diwrnod o wyliau ar 1 Mawrth yn lle hynny.
"Dwi wastad wedi bod yn cydymdeimlo'n fawr â hynny," dywedodd Mr Buckland, a gafodd ei benodi gan Boris Johnson ac sydd wedi cadw ei le yng nghabinet newydd Liz Truss.
"Ond dwi'n meddwl bod rhaid bod yn ofalus am ormod o wyliau banc.
"Fy marn bersonol i byddai cael gwared ar Calan Mai a chael Dydd Gŵyl Dewi fel gŵyl y banc a byddai'n quid pro quo neis."
'Amharu ar fusnes'
Y llynedd wnaeth cyn-weinidog busnes Llywodraeth y DU, Paul Scully, wrthod cais i wneud 1 Mawrth yn wyliau cyhoeddus yng Nghymru.
Sbardunwyd y galwadau gan gynghorwyr yng Ngwynedd, oedd wedi anfon llythyr i weinidogion yn galw i ddatganoli'r hawl i Fae Caerdydd.
Dywedodd Mr Scully ar y pryd ei fod yn cydnabod awydd y Cymry i "ddathlu eu nawddsant", ond y byddai nifer y bobl sy'n gweithio ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn "arwain at amharu mwy ar fusnes".
Nid Syr Robert Buckland yw'r Ceidwadwr cyntaf i alw ar y Llywodraeth i newid eu meddwl.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd hefyd yn credu y gallai fod yn "hwb diwylliannol".
"Mae'n dathlu'r ffaith bod ni'n Gymreig a beth sy'n 'neud ni'n Gymreig," meddai Tom Giffard AS yn gynharach eleni.
"Mae'n bwysig bod ni'n cael diwrnod i ddathlu hwnna fel maen nhw'n 'neud yn Iwerddon a'r Alban."
Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn cais i ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022