Galwadau o'r newydd am ŵyl y banc ar Ddydd Gŵyl Dewi
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau o'r newydd i wneud 1 Mawrth yn ŵyl y banc yng Nghymru, wrth i'r wlad ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Llynedd fe wnaeth Llywodraeth y DU wrthod galwadau i wneud dydd nawddsant Cymru'n wyliau cyhoeddus.
Dyw pwerau dros wyliau banc ddim wedi eu datganoli, ond ddydd Mercher fe fydd y Senedd yn trafod y mater unwaith eto.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig ymhlith y rheiny sydd bellach yn galw ar San Steffan i newid eu meddwl, gan ddweud y gallai fod yn "hwb diwylliannol".
Gyda'r pleidiau eraill yn y Senedd eisoes yn cefnogi'r syniad, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr yn y Senedd ar ddiwylliant, Tom Giffard AS, fod nodi'r diwrnod yng Nghymru yn "bwysig iawn".
"Mae'n dathlu'r ffaith bod ni'n Gymreig a beth sy'n 'neud ni'n Gymreig," meddai, drwy ddisgrifio'r posibilrwydd fel "hwb economaidd a diwylliannol enfawr".
"Mae'n bwysig bod ni'n cael diwrnod i ddathlu hwnna fel maen nhw'n 'neud yn Iwerddon a'r Alban."
Er i'r Ceidwadwyr Cymreig ddweud y byddai gŵyl banc yn dod â hwb o "filiynau o bunnau" i sectorau fel twristiaeth a siopau yng Nghymru, mae eu cyd-aelodau yn Llywodraeth y DU wedi dweud yn y gorffennol y byddai gwyliau ychwanegol yn arwain at gostau ac anghyfleustra economaidd sylweddol.
Ond yr ateb, meddai Mr Giffard, fyddai symud un o wyliau banc mis Mai i fis Mawrth, yn hytrach na chreu gwyliau ychwanegol.
"Dyn ni'n gwybod bod gwyliau banc yn gallu cael effaith dda ar gwpl o sectorau, ond mewn sectorau eraill mae'n cael effaith [wael]," meddai Mr Giffard.
"Mae hwnna'n cael cydbwysedd rhwng yr effeithiau economaidd, ac mae'n golygu ni'n gallu dathlu Dydd Gŵyl Dewi heb gael yr effeithiau negyddol economaidd 'dyn ni'n gweld hefyd."
Cynlluniau Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi cyhoeddi y bydd eu staff nhw'n cael diwrnod i ffwrdd, a hynny ar gost o £200,000 i'r awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau.
Ond fe wnaeth gweinidog busnes Llywodraeth y DU, Paul Scully wrthod cais ym mis Tachwedd ar gyfer gwneud 1 Mawrth yn wyliau cyhoeddus i Gymru gyfan.
Dywedodd Mr Scully ar y pryd ei fod yn cydnabod awydd y Cymry i "ddathlu eu nawddsant", ond y byddai nifer y bobl oedd yn gweithio ar hyd y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn "arwain at amharu mwy ar fusnes".
Mae Sion Jones, un o'r tri chynghorydd ar Gyngor Gwynedd wnaeth wrthwynebu'r syniad, yn dweud nad yw'n ddoeth gwario ar gynnig gŵyl banc ar eu liwt eu hunain mewn cyfnod pan mae cyllidebau awdurdodau lleol dan straen.
"Mae'r rhan fwyaf o'r cyhoedd dwi 'di siarad 'efo yn meddwl bod hwn yn gam i'r ffordd anghywir, mae 'na hefyd dros 30 o staff cyngor bellach wedi cysylltu 'efo fi'n deud bod hwn yn gam anghywir," meddai.
"Maen nhw 'di gweld eu cydweithwyr nhw yn colli swyddi dros y degawd diwethaf oherwydd y toriadau 'dan ni 'di cael, maen nhw hefyd yn gorfod talu mwy o dreth cyngor, felly mae hwn yn benderfyniad dwi'n meddwl sy'n gwbl anghywir."
Mewn ymateb dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, sy'n eistedd ar gabinet Cyngor Gwynedd, y byddai'r diwrnod yn dathlu "gwaith eithriadol" y staff yn ystod y pandemig.
"Dathlu ein hunaniaeth drwy gael day off fel mae pawb arall yn y byd yn cael ar patron saints days nhw," meddai.
"Hefyd, arwain a dangos i Gymru fod ni ddim angen caniatâd Lloegr cyn gwneud be sy'n bwysig i ni."
Ar y cwestiwn o gost y cynllun, ychwanegodd: "Dan ni newydd fynd drwy pandemig ac mae Llywodraeth Lloegr yn dweud wrthon ni fod ni ddim yn cael dathlu ein hunaniaeth am fod o'n costio gormod tra maen nhw'n cael partis drwy'r pandemig - £9bn i bobl aethon nhw i'r ysgol efo a writio off, a dwy ŵyl i ddathlu'u brenhines nhw.
"I mi mae hynny'n hypocritical, 'dan ni'n sôn am dipyn bach o bres i rywbeth sy'n bwysig i ni fel gwlad."
Yn ogystal â Chyngor Gwynedd, mae rhai sefydliadau eraill gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd wedi rhoi diwrnod o wyliau ychwanegol i'w staff ar 1 Mawrth.
"Gan fod mis Mawrth yn dawelach na'r arfer i'r awdurdod, gyda chanolfannau masnachol ar gau neu'n rhedeg ar oriau a staff cyfyngedig, rydyn ni'n disgwyl mai ychydig os unrhyw beth fydd y gost i'r awdurdod," meddai cadeirydd y parc, Wyn Ellis Jones.
"Cafodd staff ddiwrnod ychwanegol o wyliau llynedd fel cydnabyddiaeth o'u gwaith caled yn ystod y pandemig, ac rydyn ni'n teimlo y dylai'r un peth ddigwydd eleni."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi gofyn i Lywodraeth y DU dro ar ôl tro i roi'r grym i'r Senedd wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc, ac mae'n siomedig gweld fod y ceisiadau yma'n parhau i gael eu gwrthod."
Ond dywedodd Llywodraeth y DU mewn datganiad: "Mae'r patrwm presennol o wyliau cyhoeddus a banc wedi'i hen sefydlu ac, er y gallai gŵyl banc ychwanegol fod o fudd i rai cymunedau a sectorau, mae'r gost i'r economi yn sylweddol.
"Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y trefniadau ar gyfer gwyliau banc yng Nghymru.
"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod sefydliadau'r DU yn gweithio ar y cyd fel un Deyrnas Unedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021