'Rhaid addysgu pobl' wedi marwolaeth morloi ifanc

  • Cyhoeddwyd
MorloFfynhonnell y llun, Dafydd Lewis

Mae tywysydd teithiau cychod yng Ngheinewydd wedi rhybuddio bod yn "rhaid" addysgu pobl am gôd morol Ceredigion, er mwyn gwarchod bywyd gwyllt yr ardal.

Yn ôl Dafydd Lewis o Dolphin Spotting Boat Trips, nid pawb sy'n deall ac yn parchu'r rheolau.

Daw hyn wedi i forlo bychan foddi ger Ceinewydd ddechrau fis Medi, allai fod o ganlyniad i aflonyddu gan gerddwyr gyda chŵn.

A hithau yn dymor bridio morloi bach, mae'n pwysleisio pa mor bwysig yw addysgu pobl i adael llonydd i'r mamaliaid, a pheidio a'u gorfodi i'r dŵr yn rhy gynnar.

Morloi bach 'angen amser gyda'u mamau'

"Mae'r rhai bach yn gallu marw os maen nhw'n cael eu hymyrryd gyda," meddai.

"Mae'r morloi bach gyda'u mam am tua 21 diwrnod ac wedyn maen nhw'n cael eu gadael i fendio eu hunain. Mae'n bwysig eu bod nhw'n cael yr amser yna gyda'u mamau."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dafydd Lewis fe all morloi bach farw os oes rhywun yn tarfu arnyn nhw

Wrth ddisgrifio'r digwyddiad yng Ngheinewydd ddechrau Medi, fe ddywedodd: "Fe fuodd morlo bach ar draeth y Dolau a buodd cwpl o gŵn yn dychryn y pup bach.

"Roedd y côt oedd gyda fe dim ond yn insulateo fe am 21 diwrnod, wedyn maen nhw'n cael eu côt waterproof. Roedd y pup ffili nofio, heb ddysgu, ddim yn gwybod sut i ddal ei anadl dan y dŵr, ac ymhen rhyw hanner awr, roedd yr un bach wedi boddi."

Gyda chynnydd yn y nifer sy'n defnyddio caiacau a byrddau padlo, mae'r tywysydd yn honni nad yw pobl yn ymwybodol bod 'na gôd ymddygiad yn bodoli yn yr ardal.

"Mae'r bobl sydd ar yr arfordir yn weddol, ond pan mae'r tourists yn dod lawr mae e lan i'r bobl sy'n gweithio ar y môr i addysgu pobl.

"Ni'n trio gwneud ein rhan wrth bod ni'n mynd lawr yr arfordir, os ni'n gweld pobl yn mynd rhy agos, ni'n gofyn iddyn nhw symud bant…

"Mae'n rhaid i ni ddysgu pobl am y rheolau sydd gyda ni nawr. Mae rheolau newydd wedi dod mewn gaeaf diwethaf hefyd i edrych ar ôl y rhai bach."

Beth ydy'r cyngor?

Yn ôl Côd Morol Ceredigion, dylai pobl sydd ar y dŵr aros o leiaf 100 metr i ffwrdd o adar y môr, rafftiau adar môr a mamaliaid môr.

Ni ddylai pobl fynd i mewn i ogofâu môr, neu ardaloedd lle mae morloi neu adar môr yn bresennol.

Ar y lan, dylai pobl aros o leiaf 50 metr i ffwrdd o'r morloi bach a chadw cŵn yn ddigon pell, ar dennyn.

Yn ôl y côd: "Os yw'r un bach ar ei ben ei hun ar y traeth, dyw e ddim wedi cael ei adael yn amddifad… Fel rheol, mae'r fam wrthlaw yn y dŵr.

"Cadwch draw er mwyn iddi allu dychwelyd at yr un bach fel bo angen."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Lewis

Yn ôl Cyngor Ceredigion, gyda mwy o bobl yn ymweld ag arfordir Cymru nag erioed, mae aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd.

Fe ddywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod y Cabinet dros yr Economi ac Adfywio:

"Mae tua 60-70 o forloi yn cael eu geni yn yr ardal yma, 17 rhyngom ni a Ynys Lochtyn ac mae tua 20-30%, yn anffodus, yn marw oherwydd gwahanol resymau…

"Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod, pan mae yna forloi ar y traeth, beth i'w wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Rodd Traeth Mwnt wedi cau am gyfnod fis Medi er mwyn gwarchod morlo bach

"Mae arwyddion gyda'r Cyngor Sir ar draws yr arfordir a hefyd mae partneriaeth gref gyda ni o wirfoddolwyr sy'n gwarchod y traethau gwahanol yma sy'n gwneud yn siŵr bod y traethau yn cau a gwneud yn siŵr bod neb yn mynd i lawr at y traeth, dim mynd yn rhy agos, cadw rheolaeth ar gŵn, ac yn y blaen."

Ganol Medi, fe gaeodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol draeth Mwnt yng Ngheredigion am gyfnod er mwyn gwarchod morlo bach oedd i'w weld ar y traeth.

Fe gaeodd y lagŵn yn Abereiddi, Sir Benfro yn gynt na'r disgwyl i'r cyhoedd hefyd oherwydd bod morloi llwyd sy'n bridio wedi cyrraedd yn gynnar.

Pynciau cysylltiedig