Dirwy £28,000 am sefyll 150 o brofion gyrru ar ran eraill
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Lanelli wedi cael gorchymyn i dalu dirwy a chostau gwerth £28,000 am sefyll profion gyrru yn anghyfreithlon ar ran pobl eraill.
Fe wnaeth Inderjeet Kaur, 30, gyfaddef sefyll tua 150 o brofion theori ac ymarferol rhwng 2018 and 2020.
Os na fydd hi'n talu £27,614 ynghŷd â chostau llys o £156 o fewn tri mis, fe fydd hi'n wynebu 12 mis o garchar.
Roedd hi eisoes wedi cael ei charcharu am wyth mis am sefyll profion gyrru yn Abertawe, Caerfyrddin, Birmingham a Llundain.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod Kaur wedi ennill £28,250 drwy sefyll profion ar ran pobl oedd yn cael trafferthion gyda'u Saesneg.
Fe gafodd ei dal ar ôl i staff canolfannau profi gysylltu â'r heddlu pan ddechreuon nhw amau ei bod hi'n dynwared pobl eraill.
Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) fod twyllo mewn profion gyrru yn "peryglu bywydau" ac y gallen nhw gael eu canslo.