Ap Cymraeg i helpu cleifion canser y fron

  • Cyhoeddwyd
becca

Bydd cleifion sydd â chanser y fron yn gallu troi at ap arbennig am gymorth - a hynny yn Gymraeg.

Mae ap Becca, sydd yn cynnig cymorth a syniadau ymarferol i gleifion, wedi bod ar gael yn Saesneg ers 2017 ond bellach mae wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Daw'r cam yn dilyn llwyddiant cais loteri am grantiau gwerth £655,000 gan sefydliad Breast Cancer Now.

Yn ôl un sydd wedi goroesi canser mae'r ap newydd yn gwneud i ddioddefwyr deimlo eu bod yn "agosach at ei gilydd".

Ar yr ap mae modd darllen am brofiadau merched eraill sydd yn byw gyda chanser a chael cymorth ymarferol ar sut i ymdopi â sgil effeithiau'r driniaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Glenda Burke o Borthmadog mae gan yr ap "lwyth o wybodaeth"

Fe gafodd Glenda Burke o Borthmadog ddiagnosis o ganser y fron ym mis Medi 2017 a daeth ei thriniaeth i ben ym mis Ebrill 2018.

"Dach chi'm eisiau trwblo'r meddyg teulu am bethau 'da chi'n meddwl sy'n ddibwys ac oedd o jest yn rhoi llu o wybodaeth imi," meddai.

'Atebion am bopeth'

Yn ôl Glenda roedd hi'n teimlo ar ei phen ei hun "ar ôl i'w thriniaeth ddod i ben", ond roedd ap Becca yn cynnig cymorth iddi.

"Oedd o efo llwyth o wybodaeth gan bobl oedd wedi bod trwy'r un peth â fi, lincs i bob math o wefannau a gwybodaeth dda iawn.

"Roedd y driniaeth i gael gwared â'r canser yn rhagorol ond unwaith mae'r driniaeth wedi gorffen, 'dach chi ar ben eich hun a'r disgwyl ydi eich bod yn dod nôl i normal ond 'dio ddim mor hawdd â hynny."

Dywedodd Glenda fod nifer o bobl yn poeni bod y canser am "ddod nôl ar ôl gorffen eu triniaeth" ac roedd yr ap yn cynnig atebion am bynciau na fyddech yn trafferthu holi amdanynt i'r meddyg teulu.

Dywedodd y Farwnes Delyth Morgan, Prif Weithredwr Breast Cancer Now, yr elusen ymchwil a gofal, ei bod hi "mor falch bod Becca bellach yn ddwyieithog ac yn darparu opsiwn Cymraeg, gan sicrhau bod menywod yng Nghymru yn gallu cael gwybodaeth a chefnogaeth yn eu hiaith ddewisol".

Canser y fron yw canser mwyaf cyffredin y DU, gyda thua 55,000 o fenywod a 370 o ddynion yn cael diagnosis pob blwyddyn, gan gynnwys 2,900 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru.

Hyd yn hyn, mae ap Becca wedi cael ei ddefnyddio gan dros 42,000 o bobl ers ei lansio ym mis Mai 2017.