Marwolaeth Bwcle: Dyn wedi'i drywanu yn ei galon

  • Cyhoeddwyd
StevenFfynhonnell y llun, Llun teulu / Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Steven Wilkinson, a oedd yn byw yn lleol, ar ôl digwyddiad ym Mwcle

Cafodd dyn o Fwcle, Sir y Fflint ei ladd yr wythnos ddiwethaf wedi iddo gael ei drywanu yn ei galon a'i ysgyfaint.

Bu farw Steven Wilkinson, 23, yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar 5 Hydref, yn dilyn y digwyddiad yn Precint Way yn y dref y noson gynt.

Clywodd agoriad y cwest i'w farwolaeth fod patholegydd o'r Swyddfa Gartref wedi nodi achos y farwolaeth fel trywaniad i'r frest.

"Rydw i'n ymwybodol bod [y farwolaeth] yn destun ymchwiliad troseddol a bod person wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth," meddai'r crwner John Gittings.

Mae'r cwest bellach wedi ei ohirio nes i'r camau troseddol ddod i ben.

Ddydd Sadwrn fe ymddangosodd Jamie Scott Mitchell, 24, hefyd o Fwcle, yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug wedi ei gyhuddo o lofruddio Mr Wilkinson.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Precinct Way ym Mwcle nos Fawrth

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, gyda'i gyfreithiwr Stephen Edwards yn dweud ei fod yn bwriadu pledio'n ddieuog.

Cafodd dynes, sydd hefyd o'r dref, ei harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr ond cafodd ei rhyddhau heb gyhuddiad yn ddiweddarach.

Yn dilyn ei farwolaeth cafodd Mr Wilkinson ei ddisgrifio fel person oedd "mor frwdfrydig" am bopeth mewn bywyd.

"Ble bynnag roedd o'n mynd, roedd chwerthin i'w gael," meddai ei deulu.