Biliau ynni rhai clybiau rygbi'n 'cynyddu hyd at 500%'
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd am effaith posib yr argyfwng costau byw ar glybiau rygbi, wrth i filiau rhai clybiau gynyddu hyd at 500% yn ddiweddar.
Mae clybiau ledled Cymru'n poeni am effaith yr argyfwng arnyn nhw, gyda sawl clwb arall yn dweud wrth Newyddion S4C y bydd eu costau misol yn mwy na dyblu yn sgil yr argyfwng.
Problem arall mae rhai yn rhagweld yw y bydd chwaraewyr dan fwy o bwysau i weithio ar benwythnosau er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd, gan olygu na fydden nhw ar gael i chwarae.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cael cais am sylw.
Os yw pethau'n mynd yn dda i Glwb Rygbi Llanharan ar y cae, oddi ar y cae mae'n gyfnod pryderus.
"Ni'n bryderus iawn. Mae prisiau popeth yn codi," meddai'r ysgrifennydd, Richard Case.
"Ni'n edrych ar gynnydd o rhwng 300% a 500% yn ein costau ynni.
"Mae gyda ni adnoddau da yn y clwb o ran adeilad a llifoleuadau, ond bydd rhaid i ni feddwl faint o gemau allwn ni gynnal gyda'r hwyr ac a ydy hi'n werth gwneud hynny."
O £1,000 i £5,000 y mis
Mae'n broblem i glybiau mawr a bach ar draws y wlad.
Yr wythnos ddiwethaf fe rybuddiodd Clwb Rygbi Caerffili y byddai costau rhedeg y clwb yn cynyddu o ychydig dros £1,000 i £5,000 y mis.
Mae Clwb Rygbi Pentyrch ar agor bob dydd ar gyfer gweithgareddau gwahanol - o sesiynau clonc a gwau i glybiau colli pwysau neu fore coffi elusennol.
Yn ôl ysgrifennydd y clwb, Alun Davidson, wrth i gostau ynni gynyddu maen nhw'n gorfod ystyried a fyddan nhw'n gallu parhau i gynnig yr adeilad i'r gymuned.
"Bydden ni fel arfer yn edrych ar tua £8,500 y flwyddyn," meddai.
"Mae hwnna wedi dyblu nawr so mae hwnna'n lot o arian i glwb bach a busnes bach.
"Ni'n meddwl yn galed iawn ar hyn o bryd sut ni'n mynd i ddod drwy'r her yma."
Dywedodd Mr Davidson fod y clwb yn falch iawn o'i rôl o fewn y gymuned ehangach, ond fod costau ynni yn golygu y byddan nhw yn ei chael hi'n anodd ymdopi yn y pendraw.
"Mae rôl clwb rygbi yn fwy na just y rygbi ar y cae. Mae 'na rôl fawr yn y gymuned hefyd - mae grwpiau'n defnyddio'r clwb yn ystod y dydd.
"Mae ganddon ni grŵp knit and natter, caffi cof ar gyfer pobl gyda dementia, happy gathering ar gyfer pobl hen. Ni'n gwneud lot fel yna'n rhad ac am ddim ar gyfer y grwpiau cymunedol.
"Ni eisiau darparu'r gwasanaeth yna i'r gymuned ond os yw costau yn parhau i dyfu bydd rhaid i ni ystyried os allwn ni barhau i 'neud pethau fel yna.
"Ni'n dod yn agos iawn at feddwl efallai bydd rhaid cau'r drysau yn ystod yr wythnos a just canolbwyntio ar y rygbi ar y penwythnos."
Mae Cwins Caerdydd hefyd yn poeni, meddai Aled Hill, sy'n drysorydd, rheolwr y bar ac yn chwarae fel prop i'r clwb.
"Ni wedi cael cynnig rates newydd fyddai'n cynyddu costau pedair gwaith, so bydd bil trydan ni'n mynd lan o £450 i £1,800 y mis.
"Felly ni'n definitely poeni am flwyddyn nesa' os yw costau dal yn mynd lan."
Mae 'na bryder y bydd y pwysau'n dweud ar yr hyn sy'n digwydd ar y cae hefyd, gyda chwaraewyr yn gorfod gweithio ar ddyddiau Sadwrn er mwyn talu'r costau cynyddol yn eu cartrefi eu hunain.
Dywedodd Ieuan Pring, sy'n chwarae fel wythwr i Lanharan: "Ni'n trio gweithio yn yr wythnos i gael y penwythnosau i ffwrdd.
"Wythnos ddiwetha' roedd rhai gorfod mynd i'r gwaith yn lle chwarae, so mae yn cael effaith ar y tîm hefyd. Ni'n lwcus bod gyda ni squad mawr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2022
- Cyhoeddwyd3 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2022