Llafur yn gwrthod galwadau Plaid Cymru i rewi rhenti
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur wedi pleidleisio yn erbyn galwad i rewi rhenti, gan rybuddio y gallai fod yn gam gwag os bydd landlordiaid yn tynnu cartrefi oddi ar y farchnad.
Mewn dadl yn y Senedd, fe wnaeth Plaid Cymru annog ASau Llafur i "fod yn ddewr" drwy rewi rhenti a gwahardd troi allan (evictions) drwy'r gaeaf.
Fe wnaeth Plaid yr alwad ar ôl i Senedd yr Alban basio deddfwriaeth i rewi'r rhan fwyaf o renti tan fis Mawrth 2023.
Mae gweinidogion wedi dweud y byddan nhw'n edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban, ond wedi rhybuddio am "ganlyniadau anfwriadol".
Fe allai rhewi annog landlordiaid i roi'r gorau i osod tai neu godi rhenti cyn iddyn nhw gael eu rhewi, meddai Llywodraeth Cymru.
Rhybuddiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn gynharach yn y mis na fyddai rhewi renti yn "ateb i bob problem".
Wrth annog aelodau'r Senedd Llafur i "fod yn ddewr, bod yn feiddgar", dywedodd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru: "Yma heddiw mae gennym gynnig o leiaf i wneud rhywbeth i helpu llawer o'r rhai sydd dan fygythiad o ddigartrefedd y gaeaf hwn, yn hytrach na gwneud dim byd."
Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu cyllid i gynghorau lleol i helpu tenantiaid gyda'u biliau.
'Hunllef'
Yn lle rhewi'r holl renti - a allai gael "canlyniadau anfwriadol difrifol iawn" - dywedodd fod y llywodraeth eisiau "targedu'r gefnogaeth at y bobl sydd fwyaf agored i niwed a gwneud yn siŵr eu bod yn aros yn eu cartrefi".
"Dydyn ni ddim eisiau gyrru landlordiaid i ffwrdd o'r sector," meddai.
Dywedodd y dylai Lywodraeth y DU ddadrewi lwfans tai, sydd heb gadw i fyny â chodiadau rhent.
Galwodd rhai o ASau Llafur am reolaethau rhent hirdymor, rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried.
Dywedodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Janet Finch-Saunders fod rheolaethau rhent yn "hunllef".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022