Angen rhewi rhenti dros y gaeaf medd Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidogion Llafur Cymru yn wynebu galwadau i rewi rhenti er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Dywedodd Plaid Cymru y dylai Llywodraeth Cymru fod yn defnyddio "yr holl arfau yn ei meddiant i warchod ein mwyaf bregus dros y gaeaf".
Rhybuddiodd y Prif Weinidog Mark Drakeford na fyddai'n "ateb i bob problem".
Mae Llywodraeth Cymru yn ofni "canlyniadau anfwriadol", lle gallai landlordiaid ymateb trwy werthu a gadael y farchnad.
Mae ffigyrau gan Zoopla yn awgrymu bod rhenti cyfartalog wedi codi 12.3% i £750 yn y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf diwethaf.
Cyhoeddodd Llywodraeth Yr Alban y byddai'n rhewi'r "rhan fwyaf o renti" tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, ochr yn ochr â "moratoriwm chwe mis ar droi allan".
'Gwarchod ein mwyaf bregus'
Dywed arweinydd Plaid Cymru Adam Price: "Gallai'r gaeaf hwn fod yr un anoddaf a gofnodwyd erioed, yn wyneb costau cynyddol a chyflogau yn aros yn yr unfan.
"Gwelodd Plaid Cymru hyn yn dod. [Mae] Llywodraeth Yr Alban eisoes wedi gweithredu - gyda llaw, yn dilyn ymgyrch gan Lafur yn Yr Alban.
"Pa dystiolaeth bellach sydd ei hangen [ar Lywodraeth Cymru] i'w darbwyllo mai atal digartrefedd yn ystod y gaeaf yw'r ffordd gywir o weithredu?
"Rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r holl arfau yn ei meddiant i warchod ein mwyaf bregus dros y gaeaf - trwy gyhoeddi y byddan nhw'n rhewi pob rhent a thrwy wahardd pob achos o droi allan nawr."
Dywed Mr Drakeford nad yw deddfwriaeth Yr Alban "yn cynnwys unrhyw un sy'n cymryd tenantiaeth [newydd], ac ar gyfer tenantiaethau presennol mae yna gyfres gyfan o ffyrdd y bydd eu rhent yn gallu codi beth bynnag".
Dywedodd fod gweinidogion yn edrych ar ymestyn estyniad arfaethedig i'r hysbysiad ar gyfer troi allan heb unrhyw fai o ddau fis i chwe mis i denantiaid presennol.
Ychwanegodd y bydd papur gwyn yn edrych ar gynigion rheoli rhent, fel rhan o gytundeb Llafur gyda Phlaid Cymru, ac na fydd rhenti i denantiaid cymdeithasol yn newid tan fis Mawrth.
Dywedodd Mr Price fod elusen tai Shelter Cymru ymhlith y rhai oedd yn galw am rewi rhenti, oedd yn destun dadl gan Mr Drakeford.
Ond mewn edefyn Twitter yn galw am wahardd troi allan yn ystod y gaeaf, dywedodd yr elusen y byddai "rhewi rhenti yn cael effaith tymor byr positif i denantiaid sy'n wynebu caledi".
Ddydd Mawrth dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, fod Llywodraeth Cymru yn gwario £1.6bn "ar gymorth wedi'i dargedu a rhaglenni cyffredinol".
Cyhoeddodd y byddai Llywodraeth Cymru yn darparu £1m ychwanegol i helpu i ariannu banciau bwyd, a'u bod wedi agor yr ail rownd o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf, gan gynnig taliadau o £200 i aelwydydd ar fudd-daliadau cymwys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022