Galw am enw unigryw i frandio gwin pefriog Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau am ail-frandio gwin pefriog Cymreig er mwyn rhoi hunaniaeth ei hun iddo a'i gwneud yn haws i'w farchnata.
Yn ôl Siw Evans, cydberchennog Gwinllan Llaethliw ar gyrion Aberaeron, byddai enw unigryw yn rhoi "statws haeddiannol" i gynnyrch o Gymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod strategaethau eisoes ar y gweill.
Yn aelod o Gymdeithas Gwinllannoedd Cymru, dywedodd Ms Evans bod y mwyafrif o winllannoedd yng Nghymru yn defnyddio 'Gwin Pefriog' fel enw ar gyfer y cynnyrch, ond bod teimlad cyffredinol nad yw'r enw'n rhoi digon o statws i'r gwin.
Cyfieithiad llythrennol yw hyn o'r geiriau Saesneg, sparkling wine.
Gyda'r Eidal yn enwog am Prosecco, Sbaen am Cava a Ffrainc am Champagne, mae Ms Evans yn teimlo y dylai gwin pefriog o Gymru hefyd gael ei adnabod yn fyd-eang gydag enw penodol.
'Ry'n ni ar flaen y gad'
"Gwin pefriog o Gymru yw, os mynnwch chi, eich Champagne, Prosecco a'ch Cava chi, ond wrth gwrs, dyw 'Gwin Pefriog' ddim mor fachog â'r geiriau yna," meddai.
"Ma' gwinoedd Cymru, erbyn hyn, wedi ennill gwobrau di-ri.
"Mae un o'r gwinllannoedd wedi ennill y gwin coch gorau yn y byd felly ry'n ni ar flaen y gad, a gobeithio yn gallu dangos y ffordd a gweld y diwydiant ry'n ni ynddi yn mynd o nerth i nerth."
Wrth drafod enwau posib, dywedodd Ms Evans bod nifer o enwau eisoes wedi cael eu hawgrymu gan y gymdeithas.
"Mae pobl wedi dod lan â 'Gwin Byrlymus', neu wrth gwrs, 'Swigod' wedi'i gyfieithu o bubbles, ond dyw'r rhain ddim cweit yn taro deuddeg," meddai.
"Mae 'Gwin Pefriog' yn dweud wrthoch chi pa fath o win yw e, ond wrth gwrs, bydde enw bach fwy bachog yn help i roi'r statws mae'r gwin yn eu haeddu a bydde fe yn help i farchnata'r gwinoedd hefyd."
Er ei bod yn ddigon hapus i ddefnyddio 'Gwin Pefriog' am y tro, mae'n dweud y byddai enwau arall yn cael eu croesawu.
'Lot o arian, lot o waith'
Ond nid pawb sy'n cytuno.
Mae Shumana Palit, arbenigwraig gwin a pherchennog siopau Ultracomida, yn cwestiynu a oes angen enw i ddenu sylw at gynnyrch.
"Dy'n ni'n gwerthu gwin o Sbaen a 'dan ni'n gwybod pa mor galed mae wedi bod i'r wine makers yn Sbaen i gael Cava i dorri trwyddo," meddai.
"Mae Champagne wastad wedi bod y gwin o safon, mae Prosecco ym mhobman nawr - mae e fel dŵr - ond mae Cava nawr yn teimlo bach fel babi bach y teulu sy'n trial gweiddi 'dan ni yma'.
"Mae angen lot o arian, lot o waith, blynyddoedd o waith hefyd. Oes eisiau rhywbeth mor paperwork heavy?"
Wrth awgrymu ffyrdd gwahanol o werthu gwin pefriog o Gymru i'r byd, dywedodd mai "gweithio gyda'n gilydd" sydd angen a chanolbwyntio ar ymgyrch farchnata sy'n esbonio i bawb beth yw'r gwin, heb orfod rhoi hunaniaeth benodol iddo.
"Does dim eisiau esbonio gormod," meddai Ms Palit.
"Mae pobl jyst eisiau yfed gwin, mwynhau'r gwin ac mae'n dda os maen nhw'n gwybod o le mae'r gwin yn dod."
Strategaeth cyn troad y flwyddyn
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae strategaeth ar gyfer diwydiant gwin Cymru i fod i gael ei chyhoeddi cyn diwedd y flwyddyn hon.
"Mae'n cael ei datblygu gan y Grŵp Diddordeb Arbennig (Gwin) sy'n rhan o raglen clwstwr Bwyd a Diod Cymru a ariannir gan Lywodraeth Cymru."
Er ei bod yn cydnabod na fyddai cytuno ar enw yn hawdd, mae Siw Evans yn sicr y byddai pobl yn cyfarwyddo â'r term yn gyflym.
"Dwi'n credu gydag amser, bydde pobl yn dod i ddeall ac i wybod yn syth eu bod nhw'n yfed gwin pefriog o Gymru pan ma' nhw'n clywed yr enw penodol.
"Mae'r rhan fwyaf o'r gwinllannoedd nawr yn defnyddio 'Gwin Pefriog'.
"Os fydde 'na enw newydd, dwi'n siŵr fydde pobl yn dod yn gyfarwydd â'r enw hynny hefyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019